Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

babi

babi

Beth bynnag, mae Blair yn gwybod y gall ef adfer ei boblogrwydd trwy foddir tabloids yn fuan iawn â lluniau neis, cwtsi-cwtsi-cw, ohono fo a Cherie ar Babi Blair newydd.

Fel pob gwraig yr oeddwn wedi darparu dillad i'r babi wythnosau cyn ei eni ac yr oeddwn wedi gwneud coban o sidan gwyn addurniedig.

Mae cael babi ar yr aelwyd yn gwneud iddyn nhw ymddangos yfel pe byddan nhw'n bobol go iawn.

Dim ond un peth gwell na chusanu babis pobol eraill sydd yna i wleidyddion a mwytho eu babi eu hunain yw hynny.

Geni Louise Brown, y babi 'test-tube' cyntaf.

Cario'r bwyd, y llestri a dillad glan i'n plant, brat rhag baeddu wrth fwyta, clytiau i'r babi ...

Yn cael babi hefyd y mae'r anhygoel Madonna.

Dim ond un anhawster allaf i ei weld mewn strategaeth o'r fath - y bydd rhai yn meddwl mai taid y babi ydi William, nid ei dad.

Nid chdi 'di'r gynta'.' 'Ifan Ifans?' 'Ia?' ''Dwi'n mynd i gal babi rwan.' Brysiodd William Huws i lawr grisiau'r bus, gan ddarn-lusgo'r hwch i'w ganlyn, wedi gwerthu'i gymydog am lai na chawl ffacbys.

Yn awr ac eilwaith taflem lygad i weld a oedd Gwep Babi o gwmpas ond nid oedd yn y golwg yn unman, er y gwyddem o brofiad nad oedd ymhell iawn ychwaith.

Fe'i brathodd a'i sugno yn ara deg, gan ei droi yn ei cheg fel babi gyda theth rwber.

'Babi blwydd,' wfftiodd Robat.

''Dwi'n mynd i gal babi.' 'Congrads.

Y diwrnod cyn achub y babi bach Abbie Humphries, fe brofodd gohebwyr Golwg ei bod yn hawdd mynd i mewn i wardiau babanod yn rhai o ysbytai Cymru a bod rheolwyr iechyd wedi'u dal rhwng diogelwch a chynnig gwasanaeth.

Mae Emma yn disgwyl a pha beth gwell na babi i ddod a theulu ynghyd?

`Rydw i wedi cael gafael ar y babi hwn yn gorwedd yn anymwybodol,' meddai.

Darganfod corff babi newydd yn y Marina, Abertawe.

Babi o beiriant na fedra hi ddim mynd o gwbwl heb i chi afael ynddi hi, ac os gollyngech chi hi ar ôl iddi gychwyn, syrthio ar ei hochor fel brechdan fyddai 'i hanes hi bob tro.

Bydd gennych wedyn fwy o bwysau i'w golli wedi geni'r babi.

Ffisig annwyd, eli babi, clapiau sebon, persawr, past dannedd, tabledi sipian at ddolur gwddw.

'Roedd y ddwy yn hapus iawn am sbel nes i Lisa benderfynu cael babi er mwyn gwneud Fiona'n hapus.

Dyn y pwll nofio'n dod i Ysgol Fitzalan i achwyn wrth y prifathro 'beutu Sandy a fi; ein bod ni 'di pigo ar ryw grwt bach gwantan - babi mami - o blith y crachach.

Aeth pethau o ddrwg i waeth rhwng Teg a Cassie a bu bron i Cassie golli'r babi pan wnaeth Teg ei tharo.

Babi annwyl iawn oedd y cyfrwng newydd yng ngolwg Sam ac yr oedd yn ei fwydo â danteithion o bob math.

'Ac mae'r babi'n iawn, 'efyd,' meddai hi.

'Ond William Huws bach mae 'ma hogan yn hwylio i gal babi.' Fel y camai William Huws dros gamfa i gae, a'r hwch hanner o dan ei gesail, gwaeddodd y gyrrwr eilwaith.

Ar ôl cinio rhaid oedd bod yn ofalus rhag smygu yng ngŵydd 'Gwep Babi', a rhoi achos iddo ofyn o ble y cawsom hwy.

Felly fydd Catherine Zeta Jones ddim yn priodi nes y bydd ei chorff wedi dod yn ôl i siap ar ôl iddi esgor ar ei babi.

Yn wir yr oedd perfformans y babi, hyd yn oed yn ystod ei flynyddoedd cynnar, yn ei wneud yn dipyn o child prodigy.

Dada yn gyrru a Mam a'r babi yn ei breichiau ac un o'r lleill yn y

Llyfr am y 'babi' yw hwn i fod ond mae gofyn dewin i fedru gwahaniaethu rhyngddynt cyn belled ag y mae hanes y BBC ym Mangor yn y cwestiwn.

Dywedais wrth Jock am gadw'i lygaid yn agored rhag i 'Gwep Babi' ddod yn ôl, a rhuthrais at waelod y to lle'r oedd y ferch erbyn hyn yn gwyro trosodd, a bron syrthio bendramwnwgl i'r iard.

Fedrwch chi ei gario ef i ddiogelwch?' Gan na fedrai weld rhagor o bobl yn y dŵr a chwyrli%ai o'i gwmpas gafaelodd Mr Parker yn y babi ac ymlwybrodd drwy'r llong tuag at y fan lle roedd yr ychydig bobl a oedd yn dal i fod yn fyw yn mynd i mewn i'r badau achub.

Hwyrach mai'r nodwedd tadolaidd yn Sam a ysgogodd y llinell enwog, 'Babi Sam yw'r BBC.' Ni wn, gyda llaw, pwy piau hi.

A thra oedd Jock a minnau'n dygnu arni yng ngwres llethol y prynhawn, ac yn chwythu mwg fel dwy injian drên ni allem lai na dyfalu ar ba antur y bu 'Gwep Babi' trwy gydol y bore.

Roedd gwraig y saer coed wedi cael babi ac roedd weldar y dyn weldio wedi torri ar ganol y job a hwnnw wedi gorfod mynd i John O'Groats i nôl rhyw ddarn iddo.

Un o warchodwyr sefydlog y gwersyll oedd, ac fe'i bedyddiwyd yn 'Gwep Babi', am ei fod yn llywaeth, a rhyw olwg ddiniwed arno.

Ond dwi'n saff, tasa hi wedi trio cerdded allan efo babi y basa rhywun wedi ei rhwystro."

'Roedd Fiona'n ysu i gael gwybod pwy oedd tad y babi ond gwrthododd Lisa ddweud.

Ond gwir arwyddocâd y penderfyniad hwnnw oedd ei fod yn dangos fel yr oedd y rhan fwyaf o aelodau'r Blaid yn ymwybod â'r traddodiad radicalaidd, er bod rhai o'r aelodau blaenllaw, wrth arllwys dwr brwnt eu hen ffydd ym mhleidiau Llundain, wedi arllwys y babi radicalaidd hefyd.