Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bachu

bachu

Ei fwriad oedd ei bachu wrth iddi ddod allan, ond yn amlwg roedd madam wedi rhag-weld ei gynlluniau ac wedi gofalu bod ganddi gwmni.

A minnau drwy'r ystryw seicolegol a elwir yn ddisodliad a dirprwyaeth yn bachu ar ei drwyn ac yn hoelio fy nghasineb at y Parch.

Ie, pysgota penhwyaid a physgota'r lasgangen sydd yn y parsel yma, nid eu bachu'n ddamweiniol achlysurol ym misoedd yr haf pan ar ôl prae arall - ond yn fwriadol systematig pan y maent yn anterth eu nerth.

'Symud ymlaen rşan, cer yn ôl i dy siop, mae dy gwsmer di newydd gerdded allan hefo llond ei hafflau o dy stoc di.' Rhegodd Huws Parsli a'i bachu hi o'na ar ôl y cyn-gwsmer.

Byddai'r lein yn bachu yn y coed oedd yn tyfu ar lan yr afon.

Chwythodd a thuchanodd y morwyr, ac oherwydd ei bod hi'n graddol dywyllu roedd traed neu freichiau yn mynnu bachu bob gafael mewn gwreiddiau coed neu ganghennau, a disgynnodd sawl un ar ei hyd.

Bachu llun o Margaret gyda llo oedd yn gorwedd yn ddi-hid ar y llethrau a chloch am ei wddf.

Ynteu a yw'r clwy llenydda wedi bachu mor ddwfn fel bo raid rhuthro'r pin at y papur ar amrant megis, ac ymlwybro o'r gwely i wneud hynny?

Gwawriodd arnaf yn araf nad oedd dim "nos yfory% i fod - roeddan ni am ei bachu hi oddi yno.

Roedd hi'n ddewis felly rhoi'r gorau iddi yn y Cyfarfod Cyffredinol diwethaf 'ma neu fentro y byddai'r cynnig ar symud y Cyf Cyff yn llwyddo a bachu ar fy nghyfle i fynd yr adeg honno gan roi digon o rybudd i bawb o'r bwriad hwnnw.

Ond yna teimlais ddwylo dau o griw Talfan yn bachu yn fy ysgwyddau a'm llusgo oddi arno.

Dw i wedi bachu pysgodyn mawr!' gwaeddodd.