Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bacwn

bacwn

Bwytewch y bacwn rwan, hogiau: os rhedwn ni allan o fwyd cawn fwyta'r cogydd." Ynghanol y chwerthin, llithrais i mewn i gael gair â'r bachgen oedd yn paratoi'r bwyd, roeddwn yn gweld posibilrwydd o ' tribal feud' yn mynd ymlaen tra byddem yno.

Ac wedi cyfaddef bod agendor rhwng delfryd ac ymddygiad yn fy arferion bwyta, megis mewn llawer o bethau eraill, rhaid imi ganmol y bacwn a'r wy a gawsom i frecwast bob bore cyn cychwyn ar y daith, a'r bara toddion bras nad yw dietegwyr heddiw yn ei gymeradwyo, y brechdanau ham, a'r caws, a'r tomatos a'r afalau a baciwyd beunydd ar ein cyfer.

Roedd y bacwn yn y ffwrn yn dechrau llosgi.

Dyma lle'r oedd yr aroglau ffri%o ond mi ddeallais nad bacwn ydoedd ond 'Spam' yn cael ei goginio gan ferched o'r 'Church Army'.

Nid oeddynt erioed wedi cael wy a bacwn yn eu bywyd.

Hwyrach mai'r un wnaeth yr argraff fwyaf arnaf oedd Jones Roberts, neu "Roberts y Bacyn" fel y byddai pawb yn ei alw am mai ef oedd yn torri a gwerthu bacwn yn Siop Robert Owen.

Roedd hi'n rhy hwyr i mi bicio adref a gofyn i Mam am frechdan bacwn!

Meddyliais fy mod yn arogli bacwn yn ffri%o.