Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

baen

baen

Bellach, rwyf newydd basio pentref lle mae criw o bobl fel pe baen nhw'n codi tŷ gwiail mewn modd cydweithredol.

Cynigiodd gyfaddawd sef derbyn canlyniad y cyfri â llaw yn Florida heb fynd i gyfraith pe baen nhw'n caniatau i'r cyfri hwnnw'n barhau.

Gwelodd y cŵn beth a ddigwyddodd a gweithredu ar unwaith, fel pe baen nhw'n ddynol.

Yr oedd i'w glywed ym mhobman, mewn tŷ a siop, ar fynydd ac ar draeth, nes o'r diwedd i fasnachwyr llygadog weld cyfle i farchnata'r setiau bach i'w rhoi mewn poced a'u gwifrau'n cysylltu i gyrn ysbwng am y clustiau nes bod y gwrandawyr yn edrych fel pe baen nhw yn rhan o ryw 'dyrfa lonydd lan' a hanner gwen ar eu hwynebau a golau byd arall yn eu llygaid.

Hwyrach bod miloedd o bobl Dwyrain Berlin wedi bod yn dyheu am gael mynd i ryddid Gorllewin Berlin - ond fe fuasen nhw wedi cael eu lladd yn syth pe baen nhw wedi ceisio croesi'r wal.

Mae pobl fe pe baen nhw'n credu fod mab i dad amlwg â mwy na digon o arian.

Roedd 'i fraich dde'n estyn o'i flaen e a'r bysedd fel pe baen nhw'n crafangu am rywbeth, a'r bawd yn sefyll yn syth i fyny.

Fel pe baen nhw'n mynnu profi'r pwynt, mae nifer o fan bentrefi yn gwibio heibio'r ffenest fel rwy'n ysgrifennu, ar fy nghaith o Delhi i Calcutta yn y tren.

Rhyw las gole oedden nhw, bob amser fel pe baen nhw'n sbio trwyddoch chi, a phan fydde fe'n wherthin - a phur anamal fydde hynny - fedrech chi byth deimlo'i fod e o ddifri.

Lleddir y morloi bach ar yr adeg yma oherwydd pe baen nhw'n cael byw yn hwy fe fuasai eu cotiau yn troi'n lliw brown llai deniadol.

Fe fyddai'r plant yn disgwyl iddi hi a Tom rannu caban, ac yn sicr, pe baen nhw'n dal i gysgu ar wahân, fe fyddai Joc yn deall ar waith fod rhywbeth rhyfedd ynglŷn â'u priodas.

A fydden ni wedi cael yr un fraint pe baen ni'n dod o wlad fawr, imperialaidd?