Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

baglu

baglu

Rhoi nhroed i mewn ynddo fo wnes i, ac wedyn baglu a syrthio siwr iawn!

Mae'n baglu wysg ei gefn.

Y clown 'nes i fwynhau fwya - mi oedd o'n baglu dros ei draed a phetha felly, ac mi ddaru o bwyntio ataf fi, a gofyn i mi be' o'dd fy enw fi.

Y mae arweinwyr y Blaid Lafur yn baglu ar draws ei gilydd i i ddweud mai'r rheswm fod poblogrwydd y blaid wedi edwino ers yr etholiad diwethaf yw oherwydd nad yw'r 'neges' yn ddigon clir.

Oni bai ei fod yn adnabod pob ffos a phob craig, pob llethr neu wyrad sydyn ar wyneb y tir, byddai ef wedi baglu mae'n siŵr sawl gwaith y nos honno.

Yn yr ail act cawn nifer o olygfeydd gwrthgyferbyniol, un o olygfa o'r eglwyswyr yn cynllwynio sut i gasglu camdystiolaeth ac yn gwledda gyda'r ysbi%wyr ar ddechrau'u taith; golygfa arall o Bentre'r Bobol lle mae arweinwyr Ymneilltuaeth yn ymgasglu i weld beth sydd yn digwydd, ac yma y cawn Lywelyn y Bardd yn ffroeni bradwriaeth, a'r Annibynnwr, Davies, yn cymharu'r hyn sydd yn digwydd â hen Frad y Cyllyll Hirion, ac yna ambell olygfa ddoniol lle mae'r ysbi%wyr yn holi plant yr Ysgol Sul ac yn eu baglu â'u cwestiynau, gan geisio tystiolaeth i'w gwneud yn ymddangosiadol dwp, ond lle mae'r plant yn tybio bod yr ysbi%wyr yn rhai twpach.

Wedi cael cefn Pyrs teimlai Obadeia Gruffudd ei bod hi'n ddyletswydd arno i ailgydio yn y weddi ond fel roedd o'n hwylio i ddisgyn eilwaith ar ei liniau daeth y Parchedig John Jones, person plwy Llaniestyn i mewn, a hanner baglu dros y gist ddillad yr un pryd.

Tosturi yn tynnu wrth ymyl côt edmygedd a phryder yn baglu'i draed.

Neithiwr ac echnos, mi godis i i'r ffenast, a gweld rhai meddw'n baglu ar hyd y stryd, ac yn canu fel petha' gwirion.

Maen nhw wedi baglu o un rownd i'r nesa ac ar ôl cyrraedd yr wyth ola falle mai dyna'r gorau oeddan nhw'n ddisgwyl.

Mae Orig yn baglu ac yn cusanu'r ddaear ar ôl syrthio'n erbyn rhyw sgerbwd wifrau, Smwt yn codi trywydd cwningen neu wiwer, a phawb ohonom yn ei ddilyn fel ffyliaid!

Ac yntau'n baglu o'n blaen wysg ei gefn dros raffau'r pebyll, rhoesom ar ddallt iddo ein barn ynglŷn â'r mater.

Rydan ni wedi byw efo cysyniad o oes pan oedd papurau Cymraeg yn ddylanwad torfol, oes y Faner ddi-grant, ac oes pan oedd newyddiadurwyr a golygyddion Cymraeg yn baglu ar draws ei gilydd ar Faes Caernarfon.

A'r diwrnod y rhoisoch chi gynnig y sindicet i mi rydw i'n eich cofio chi'n baglu dros eich geiriau.