Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bala

bala

(Yn debyg i'r ffordd y darfu ei frawd yn y Ffydd o Goleg Bala-Bangor ....

'Rwy'n croesawu'r datblygiad yma gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg - ond cam cyntaf yw hwn,' meddai Llew ap Gwent, Prifathro Ysgol y Parc ger y Bala.

Yr oedd mwy nag un bala yng Nghymru hefyd.

Y mae'r 'Loch Ness Monster' wedi hen dynnu sylw'r byd, ond yn ddiweddar daeth rhai pobl i gredu bod anghenfil cyffelyb hefyd yn Llyn Tegid, Y Bala.

Yn Llanrhaeadr-yng-Ngheinmeirch yng Nghlwyd yr oedd plasty o'r enw Bala Hall ac yn Llandysul yn Nhrefaldwyn yr oedd lle o'r enw Gwern y Bala.

Cafwyd trafodaeth hefyd yn y cyfarfod hwnnw am sefyllfa'r ystafell yn y Bala; dywedodd Mr Hughes a Mr Matthews y byddid yn adolygu'r sefyllfa mewn cyfarfod dilynol i weld fedrid cael ystafell arall ar gyfer cyfweliadau yn unig.

Fe awgrymais i yn gynnar mai'r Bala a fuasai'r lle mwyaf cyfleus a chanolog, ac nid oes neb wedi codi gwrthwynebiad i hynny.

Wedi teithio'r Cyfandir y daeth O'r Bala i Geneva a Tro yn Llydaw.

Ymlwybrai ei phartner ar ei hôl, ffermwr cefnog o ochr y Bala, yntau'n goch ei wyneb a choch ei lygaid.

Y Bala Tref ar ben gogledd-ddwyreiniol Llyn Tegid ym Meirionydd yw Y Bala fel y gŵyr pawb.

Dywed Frank Letch, tad i bump o blant, fod ei wraig Helen yn un o nifer o ardal Llanuwchllyn a'r Bala a fu farw o gancr tua'r un amser.

Ond cofiwn glywed rhai o'r bechgyn yn dweud eu bod yn gallu byw ar ychydig iawn yn y Bala; a meddyliwn y buasai'n dda gennyf gael dangos iddynt y gallwn i fyw ar lai na neb ohonynt.

Yn Nhachwedd y flwyddyn ddilynol symudwyd y coleg i'r Bala.

Yr oedd yn ddull newydd, tymhestlog, rhy frochus hyd yn oed i Thomas Charles o'r Bala, y gwr y byddai clywed John Elias yn bwrw drwyddi'n codi croen gwydd arno.

Dringodd ar ei beic, ac yn ôl â hi i'r Bala, heb weld Debora'n troi'r gornel o gyfeiriad Pant Llwynog.

Dyma'r drefn a arferwyd ers canrifoedd gydag enw cyffredin a arferir yn enw lle a dyma phaham y cawn enwau megis Y Groes, Y Waun, Y Betws, y Glog ac Y Bala ledled Cymru.

Gadawodd David Charles Y Bala i fynd yn brifathro arni.

Ceisiodd bob modd gan ei rieni adael iddo ddod i'r ysgol i'r Bala, ac roedd Hugh Evans mewn awydd mawr i fynd.

Gan mai enw cyffredin oedd bala yn wreiddiol yna rhaid oedd gosod y fannod y o'i flaen mewn enw lle.

Cafodd cynulleidfa Gwyl y Gwyniad yn y Bala y cylfe i glywed y deunydd newydd, ac roedd yr ymateb yn wych.

Yn y bennod gyntaf cyflwynir ni i'w deulu: llinach Ellisiaid Hendre Ddu, Y Bala, a Thyddyn Eli, Llangwm.

Yn wir, tybed beth fyddai barn David Hughes o'r Bala, dyfeisiwr y microffon ac un o arloeswyr radio, pe gwelai y newid a fu yn y maes mewn can mlynedd, a phe gwelai effaith y dyfeisiadau electronig a thrydanol ar ein cymdeithas.

Yng ngallu grymus ei chof yr oedd Sarah Owen yn ymgysylltu â'r werin Gymraeg cyn i honno fynd i ysgolion Griffith Jones, Llanddowror, ac yng nghyfoeth lleferydd ei thafod, yr oedd yn uno treftadaeth hen ddiwylliant Twm o'r Nant â diwyllinat newydd Charles o'r Bala.

(a) i'r cais am ystafelloedd ychwanegol yn y Bala a Thywyn gael ei dderbyn, cyn belled ag y byddai cyfleusterau mynediad hwylus yn cael eu cytuno.

Bu'n fyfyriwr disglair yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac oddi yno aeth i Goleg y Bala i baratoi ar gyfer y Weinidogaeth.

Y mae perthynas rhwng y gair Cymraeg bala a'r gair Gwyddeleg bel 'bwlch, aber' ac y mae'r gair hwn hefyd i'w weld mewn enwau lleoedd yn Iwerddon a'r Alban - enwau megis Bellaugh, pentref ger Athlone yn Iwerddon a Bellhaven yn

Yr un argyhoeddiad a ysbrydolai Thomas Charles o'r Bala.

Gyda'r ychwanegiad hwn i ddilyn: 'Gellwch chi gwisgo'ch crys cyn mynd allan.' Wrth chwarae pêl-droed gyda thîm eithaf truenus o egin-weinidogion yng Ngholeg y Bala, cefais ddolur llym tua gwaelod fy nghefn.

Gwelodd Coleg Bala-Bangor gyfnod nodedig iawn yn ei hanes yn y blynyddoedd hyn gyda myfyrwyr yn cael hyfforddiant ynddo a oedd maes o law i ddod yn amlwg iawn ym mywyd Cymru.

Dyma pam yr aeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i Ysgol y Parc, ger y Bala, i lansio'r peiriant newydd, ac roedd y criw a fu yno yn gytûn fod brwdfrydedd ac awydd y plant am ddefnyddiau Cymraeg ar y we yn galonogol y tu hwnt.

Sylwodd fod perwig y ffermwr o'r Bala yn simsan, a'i wraig - neu pwy bynnag oedd hi - yn ei dyblau yn chwerthin am ei ben.

Yn wythnos olaf Medi yr un flwyddyn yr oeddwn ym Mangor drachefn yn sefyll arholiad arall - yr un i gael mynediad i Goleg Bala-Bangor.

Tachwedd 4 ANWELEDIG Glan Llyn, y Bala efo Gang Bangor.

Roedd y rheilffordd i'r Bala wedi ei chau a'i chodi erbyn i mi gyrraedd yr ardal, ac adeiladwyd ffordd newydd sbon drwy Gwm Prysor.

``Ni wnâi neb dy feio,'' ebe Dafydd, ``am beidio â mynd i'r Bala yrŵan fel y mae pethe Abel wedi'i gymryd i ffwrdd yn sydyn Miss Hughes wedi ei gadael yn unig ac yn gwybod dim am y busnes.

Rhyfeddach lawer yw fod y Methodistiaid, gan nad oedd pwysau ariannol o Lundain arnynt hwy, wedi penodi tri athro nad oeddynt Gymry i'w coleg yn Y Bala.

Chwaer i fy nain i oedd yn briod i Twm Evans, prifathro Ysgol Uwchradd Llanelwy, Pennaeth Coleg y Bala, ac gennyn nhw y clywais i fod yna Gymraeg adeg hynny.

Serch hynny, nid hynny oedd ei hymffrost yn ei hen ddyddiau ond ei bod wedi adrodd pennod o'r Beibl i Mr Charles o'r Bala, pan oedd hi'n ddeuddeng mlwydd oed, a thrachefn pan oedd yn bedair ar ddeg.

Damweiniodd i Dr Parry, Y Bala, ddod i bregethu i Gefn Brith, ac yn Nhy'n y Gilfach y byddai pregethwyr arfer â lletya.

Mae lansio'r Chwilotydd yn Ysgol Gynradd y Parc, ger y Bala, hefyd yn dangos pa mor bwysig yw cael adnoddau technoleg yn Gymraeg ar gyfer plant.

Ar unwaith creodd y Blaid Bwyllgor Amddiffyn yn Y Bala gyda Mrs Morovietz, a aned yng Nghapel Celyn yn ferch i Watcyn o Feirion, yn ysgrifennydd hynod o effeithiol a gweithgar, a Dafydd Roberts o Gaefadog yn Nghwm Tryweryn yn gadeirydd.

Yr oedd meddai fo wedi mynd ar ei feic i Dremadog, wedi cael lifft neu ddwy i'r Bala a thrên wedyn.

Llwyddiant di-amheuol hefyd fu'r Cyflwyniad yn theatr Seilo, Caernarfon o "O Bala i Balaclafa% - hanes bywyd a gwaith y wraig ryfeddol honno, Betsi Cadwaladr, a aeth i weithio fel nyrs yn rhyfel y Crimea.

Bryn y Bala oedd yr hen enw ar y fan lle rhed Afon Seiont o Lyn Padarn yn Arfon.

Cymry'n unig a fu'n gwasanaethu yng ngholegau Trefeca, Coleg Llangollen - Bangor, Y Bala (A) a'r Academi Annibynnol trwy ei holl grwydriadu.

Ond beth am Y Bala?

Ac enghreifftiwyd y newyn am feiblau yn y stori am Mari Jones yn mynd yn droednoeth o Lanfihangel i'r Bala i geisio Beibl gan Thomas Charles - stori sydd bellach yn wybyddus mewn llawer rhan o'r byd.

Ond cymerwch ddynion fel Thomas Charles o'r Bala a George Lewis.

Profedigaeth chwerw iddo fu claddu ei fab ieuengaf, Robert Daniel Evans, newydd orffen cwrs o addysg a enillodd trwy ysgoloriaeth yn Ysgol Sirol Y Bala.

Mae'n rhaid mai gair cyffredin Cymraeg yn golygu 'adwy, bwlch' oedd bala gynt.

Diddorol yw nodi fod cyfartaledd uwch o staff colegau'r Annibynwyr yn Aberhonddu a'r Bala wedi'u haddysgu yng Nghymru'n unig ac na chafodd unrhyw athro gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ei addysg yng Nghymru'n unig mwy na staff colegau'r Bedyddwyr yn y De ddwyrain.

Hysbysodd y Cadeirydd iddi ymweld a Chanolfannau Cynghori Tywyn, Blaenau a Bala ac iddi gael argraff dda iawn o'r gwaith a wneid yno.

'Roedd caneuon Maes B a phabell roc Eisteddfod Y Bala ym 1967 yn boddi'r her unawd o'r pafiliwn.

Mae'r enwau yno o hyd - Welsh Valley Road, Bryn Mawr, Bala a Cynwyd a Thre'r Dyffryn.

Drwy hyn, a'r trip i Goleg y Bala, cawsom ein harwain yn raddol at ddeall pam ein bod yma heddiw.

Ac adnabum i ryw raddau bach yn yr awr honno, megis y profais eilwaith flynyddoedd yn ddiweddarach o dan law yr athronydd a'r seicolegydd, Dr David Phillips, (Coleg Diwinyddol y Bala) y cariad sy'n Dod at y truan ("Came where He was"), y cariad sy'n iachau'r meddwl oddi wrth chwerwedd ei bryder.

Bore fory (ddydd Iau) am 10.30 yn Ysgol y Parc, ger y Bala, fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio'r 'Chwilotydd', peiriant chwilio unigryw ar gyfer y We Fyd-Eang sydd yn dod o hyd i safleoedd Cymraeg.

John Williams, Brynsiencyn, bregeth Penry Evans ar 'Iesu yn rhodio ar y Môr' a glywsai pan oedd yn efrydydd yng Ngholeg y Bala.

Yng Ngholeg Bala-Bangor bu dau beth yn pwyso ar fy ngwynt.

O ganlyniad, yr oedd yna bedwar ar bymtheg o Weinidogion, yn ogystal â dau neu dri athro yng Ngholeg Y Bala.

Yn gymysg â hyn oll yr oedd yn ysgrifennu llithoedd i bapurau newydd yng Nghymru, Y Goleuad a Seren y Bala, a thrwy'r llithoedd hynny, yn hytrach na thrwy gymrodoriaeth Coleg Lincoln, yr oedd llwybr ei fywyd ef yn arwain.