Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

baltig

baltig

Ac eto, tra bo pobl gwledydd y Baltig yn ystwyrian a phleidleisio tros ryddid, y mae mwyafrif pobl Cymru'n dotio cael eu sarhau a'u sathru.

I newyddiadurwr o'r Gorllewin yn cyrraedd gwledydd y Baltig yn y cyfnod hwnnw, chwe mis ar ôl iddyn nhw ennill eu hannibyniaeth lawn, roedd un peth ar ôl y llall yn corddi teimladau a barn.

Yn y drydedd adran rhaid rhestru cenhedloedd llai, a chanddynt rhwng pedwar can mil a miliwn a hanner o siaradwyr - y Cymry, y Llydawiaid a'r Basgiaid yn y Gorllewin; y Slofeniaid, y cenhedloedd Baltig a'r Albaniaid yn y Dwyrain.

Yno, ar lannau'r Baltig, roedd y Latfiaid hefyd yn ceisio ail-greu gwladwriaeth ond, iddyn nhw, roedd problemau dwysach fyth.

Roedd y cyfeiriadau niferus at Ddafydd yn herio Goliath a frithai bapurau newyddion y gorllewin pan oedd gwledydd y Baltig yn gwrthod plygu glin i Gorbachev yn siŵr o fod yn drysu llawer o'r Rwsiaid yn lan.

Yn ei erthygl 'Cymru - un o Weriniaethau'r Baltig' yng nghatalog arddangosfa Beca yng Nghaerfyrddin, meddai: