Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

balu

balu

Nid oherwydd ei bod yn haws crafu'r pridd sydd eisoes wedi'i droi neu ei balu y dewisir lleoliad o'r fath ond oherwydd nad oes drywydd ar bridd felly ac na all gelyn sy'n dibynnu ar ei ffroen ddilyn trywydd o'r ganolfan i'r llecyn magu.

Mewn nifer o lyfrau garddio, awgrymir defnyddio mawn i'w balu i mewn i'r pridd gyda phlanhigion newydd, wrth botio ac ar gyfer amrywiaeth o ddibenion garddwriaethol eraill.

Gwneir hyn trwy drin y pridd neu balu i mewn gyda thail anifeiliaid, gwrteithiau gwneud neu gompost organig.

Ac wele, tua'r adeg yr oedd y Pabydd Polydore Vergil yn ymosod ar Sieffre am balu ei chwedlau celwyddog am wreiddiau'r Brytaniaid, yr oedd rhai o flaenoriaid y Brotestaniaeth wrth-Rufeinig a fabwysiadwyd gan y Saeson yn bwrw iddi i ail-lunio hen hanes yr ynys hon, yn y fath fodd ag i ddangos fod yma, ym Mhrydain Fore, eglwys apostolaidd bur, eglwys gyn-babaidd ddi-lwgr.

Efallai y gall y cwmni%au rheini sy'n cynnig rhisgl coed ar gyfer ei balu i fewn i bridd neu ei osod yn haen o gwmpas planhigion yn tyfu i helpu cadw gwlybaniaeth o gwmpas eu gwreiddiau, ddarganfod dull i addasu'r rhisgl at yr un pwrpas a mawn.