Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

banc

banc

Wrth odre'r plwyf saif Plas Glandenis, sedd y diweddar William Jones, un o berchnogion Banc yr Eidon Du.

Syr Julian Hodge yn agor Banc Masnachol Cymru.

Gwelais frawddeg: "Hyd ei ymddeoliad cynnar gwasnaethodd ar Staff Banc y Barclays".

Dim ond fy ngherdyn i ydw i isio - cerdyn banc.' Dydw i ddim wedi deall.

Roedd - - yn teimlo y dylai'r cynhyrchydd yn y fath amgylchiadau hawlio unrhyw gostau banc a llog yn ôl.

Ond beth os nad oes gennych chi gyfrif banc?

Aethom i mewn i swyddfa Mohammad Sadique, sef pennaeth yr holl ganghennau oedd gan y banc yn y Dwyrain Canol.

Ond buan iawn y bu'n rhaid tynnu pob label pan ddeallwyd na chyflwynasai Ward Williams y siec i'r banc.

Wy fel y banc, ch'wel.

Mi fydd yr wyl yn cael ei chynnal yng ngerddi Stad y Faenol ger Bangor dros benwythnos Gwyl y Banc ddiwedd Awst.

Ys gwn i sut groeso gawn i yng Nghymru petawn yn mynd at reolwr banc a gofyn iddo fy nghynorthwyo i werthu ticedi!

Dyma un o'r cerddi a glywyd yn Sioe Beirdd 1995, Bol a Chyfri' Banc a fu o amgylch Cymru yn ddiweddar.

Ar y dydd Mercher, ni allai'r tad ddod o hyd i allwedd y bocs lle y cadwai ei lyfr banc.

Os byddwch yn mynd i drafferthion, fe gewch lawer rhagor o gydymdeimlad yn y banc na gan gwmni ariannu.

Ymadawodd Alun ag Ysgol Beaumaris i fynd i'r banc.

Y rheswm dros ddweud hyn yw y bydd eich rheolwr banc yn edrych yn fanwl ar eich cyfrif, ac yn eich helpu i benderfynu pa fath o swm sy'n rhesymol i chi fedru ei ad-dalu.

O hynny ymlaen fe'i gwelid yn lled fynych yn mynd i mewn i'r Banc wrth wneud ei neges yn y bore.

Fe'ch telir ar neu oddeutu y pymthegfed niwrnod o bob mis ac fe'ch telir trwy drosglwyddiad banc.

Roedd e'n foi digon smart, yn barchus gan bawb yn yr ardal, yn feirniad da ar ddefaid a thipyn go lew gydag e yn y banc.

Yn ôl un rheolwr banc y buom ni'n siarad ag ef, mae'n rhyfeddol cynifer o bobl sy'n troi at y banc heb wybod beth yw eu hymrwymiadau na faint y gallan nhw fforddio mewn taliadau.

Yn eu plith yr oedd Lewis Gwynne |Thomas o Lanbrynmair, rheolwr banc; William Green, argraffydd; Josiah Jenkins, Colomendy, meddyg; Sarah Anne Evans oedd yn rhredeg Ysgol Breifat i Ferched yn y Manor House.

Ymgais gydwybodol oedd hon i fod yn drwsiadus heb fod yn rhy debyg i glerc banc.

Banc y TSB - yr oedd llythyr wedi dod i law yn esbonio pam nad oedd ffurflenni agor cyfrif a ffurflenni newid llofnodion ar gael gan Fanc y TSB.

Gŵyl y Banc heddiw.

Ar ddiwedd y Rhyfel crewyd nifer o sefydliadau cydwladol, er enghraifft, y Gronfa Ariannol Gydwladol a'r Banc Bydeang, gyda'r bwriad o osgoi'r ansicrwydd a'r amryfal chwyldroadau ym myd cyfnewid tramor.

Casglwyd cannoedd o bunnau, digon i gadw Sarah Owen a'i chydanffodusion uwchlaw angen, ond torrodd y banc yr ymddiriedwyd y gronfa i'w ofal.

Gwrthodwyd ffurflenni Cymraeg i rai o'n haelodau a ddymunai agor cyfrif yn y banc.

Maen nhw wedi gofyn am help yr actor o fri oherwydd ei fod yn hysbysebu'r banc ar y teledu.

Yno hefyd yr oedd ei mam Jane Roberts, ynghyd a Laura Edwards y forwyn a phedwar yn lletya, sef: Harry Hornsby, o Leamington oedd yn gweithio yn y banc; Thomas Evans o Landdwyn, bugail; Alun ac Aneurin Lloyd o Lanelwy, un yn dwrne a'r llall yn y banc.

Ers rhai blynyddoedd bellach maent wedi cyflwyno eu hunain fel y "Banc sy'n gwrando%, ond mae'n amlwg i bawb erbyn hyn mae gwrando ar swn yr arian yn y

Pan gerddai hi allan yn awr i nol neges o siop y bwtsiwr neu'r siop fara, byddai distawrwydd sydyn yn taro'r senedd ben-stryd ar gornel Banc y Midland.

Mynegodd aelodau Cangen Y Groeslon anfodlonrwydd gydag agwedd Banc y TSB tuag at yr iaith Gymraeg - pan ofynnodd y Trysorydd am ffurflen Gymraeg (neu ddwyieithog), dywedwyd wrthi nad oedd ffurflen ar gael ac nad oeddynt yn barod i baratoi un.

Penderfyniad y Gangen oedd newid banc ond yn gyntaf i gwyno'n gryf iawn i'r TSB.

Ond mae gofyn i chi wneud ychydig o waith cartref cyn mynd at y rheolwr banc, a da o beth yw hynny, mae'n siwr.

Tybed a all trigolion Gwaun Cae Gurwen fancio ar gefnogaeth Syr Anthony Hopkins i'w hymgyrch i gadw banc Barclays y pentref yn agored.

Aeth Hector heb ei ginio y diwrnod hwnnw er mwyn carlamu i'r banc a'r siec - a phrofi siom fod y clerc yno mor ddifater yn derbyn yr arian.

Cofiaf fynd i Landudno, i gyfarfod unwaith a neb ond Elwyn Roberts, a weithiai yn y banc yno ar y pryd, yn bresennol.

Yn nechrau'r pumdegau fe ffurfiwyd adrannau, sef Adran y Gogledd, Adran y De a'r Adran Ganol, pob un gyda'i phwyllgor, ei swyddogion a'i chyfrif banc.

Os oes raid wrth fenthyciad, efallai mai'r lle gorau bob tro yw eich banc, hyd yn oed os bydd y llog fymryn bach yn uwch na gan gwmni ariannu arall.

Deallir, hefyd, erbyn hyn bod y banc o Japan Nomura wedi ailfeddwl ynglŷn â gwneud cais i brynu Dwr Cymru.

Nid yw Banc y Byd wedi gweld ei ffodd yn glir i gefnogi'r cynllun am ei fod yn credu fod y cynllun yn torri rheolau'r Cenhedloedd Unedig sy'n ceisio atal gwrthdaro rhwng gwldawriaethau sy'n rhannu adoddau dŵr.

Ar hynny a oedd gen i yn y banc ar y pryd - heb "overdraft", ofer cychwyn fyddai hi.

Cymerodd y wladwriaeth y prif gyfranddaliadau yn y cwmnËau olew, a gwladolwyd Banc Barclays.

Yn aml pris y cnydau toriethiog yw unigedd a dyled yn y banc.

Cyn pen yr awr ymddangosodd modur ar frig y banc i'r gogledd.

Fedrwch chi ddychmygu Pennaeth y Banc of England yn gwerthu tocynnau Wembley o'i swyddfa ei hun!

Aeth Mrs Freeman i'r banc i ofyn am gyfle iw harbed, ac fe gafodd y cyfle.

Hoffwn gydnabod ein gwerthfawrogiad i'n noddwyr hael, Y Swyddfa Gymreig, Banc Barclays, Cymdeithas Adeiladu'r Alliance and Leicester a chymorth ymarferol Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Theledu AGENDA.

Fe ddylech fod yn chwerthin yr holl ffordd i'r banc.

Bu cryn bwysau arno i chwarae golff, ond mynnai mai gêm i bobl heb ei gwneud hi oedd honno, gêm lonydd barchus i athrawon a gweithwyr banc, pobl heb lawer o egni meddyliol heb sôn am gorfforol.

Pennaeth y banc yn y Dwyrain Canol yn gwneud joban pwt o glerc!

Cymeriad annwyl iawn ydoedd, a gŵr disglair, â chanddo gynt swydd uchel mewn banc yn Hong Kong, ac yn medru Tseinaeg yn rhugl.