Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

banel

banel

B = Projectau newydd wedi eu hargymell gan Banel Adnabod Anghenion.

Mae Caerdydd yn sicrach fyth o ddyrchafiad i Ail Adran y Cynghrair Nationwide ar ôl i banel disgyblu Cymdeithas Pêl-droed Lloegr argymell y dylai Chesterfield - sydd ar frig y tabl - golli naw pwynt.

Toc cyn i Therosina gyrraedd, roedd dyn mewn siwt wen wedi gosod cyrn clustiau trwm am ei ben ac wedi gwasgu botymau ar banel bach yng nghornel yr ystafell.

Mae'r wobr gan Gyngor y Celfyddydau yn mynd i'r llyfr a ddewisir gan banel o feirniaid yn llyfr mwyaf nodedig yn y Gymraeg ac yn y Saesneg a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn 2000.

DEREK Bevan o Glydach -- a fu'n ganolwr yn ffeinal Cwpan y Byd -- fydd dewis cyntaf Cymru ar banel y dyfarnwyr i gemau rhyngwladol.

Parhaodd y gêm banel unigryw Tutti Frutti, y cwis pop a gyflwynir gan Adam Walton sydd hefyd yn cyflwyno sioe nosweithiol, i ddenu cynulleidfaoedd mawr, yn yr un modd ag y gwnaeth Game On, lle mae Rupert Moon, y chwaraewr rygbi rhyngwladol, yn dyfarnu rhwng dau dîm o sêr o fyd chwaraeon i brofi eu gwybodaeth am chwaraeon.

Mae'r ddau glwb yn disgwyl clywed a fyddan nhw'n cael eu cosbi gan banel disgyblu Cymdeithas Pêl-droed Lloegr.

Dyfernir y gwobrau am Lwyddiant Unigol mewn Animeiddio gan banel o feirniaid o blith Animeiddwyr o fri o fewn yr Academi Celfyddydau a Gwyddorau Teledu (sy'n cynnal y seremoni Primetime Emmys bob blwyddyn).