Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bant

bant

Os bydda i ddim yn y tîm mae rhan enfawr 'da fi i'w whare bant o'r cae, hefyd.

Fe ddaeth rhyw gyfnither o bant i gadw cmwni i Luned, a chan 'i bod hi mor ddi-ddweud, doedd neb am ymyrryd gormod.

Yn y gynhadledd hon y penderfynwyd cyhoeddi - diolch i'r Weinyddiaeth - Atlas Ceredigion, Detholiad o Bant a Bryn, Cerddi Gwlad ac Ysgol, Stori%au o Chwedlau Sir Aberteifi a Cen Ceredigion.

Mae e yn y gêm yn gyflym ac yn gorffen y ceisiau bant yn arbennig o dda.

Bant â ti, a phaid, da ti, â bod mor ddwl y tro nesa!' 'Diolch, Mr Llew,' meddai Idris yn werthfawrogol, ond cyn iddo gael cyfle i ddweud rhagor, roedd y llew eisoes ar ei ffordd, yn hanner chwerthin rhyngddo ac ef ei hun wrth ddiflannu i berfeddion coedwig gyfagos.

Gwyddai hefyd y byddai ei fam - fel rhyw fath o ymddiheuriad dros beidio â' i amddiffyn pan gosbid ef - yn gwthio chwecheiniog, neu hyd yn oed swllt, yn llechwraidd i'w law, ac roedd hynny'n ei blesio'n iawn ac yn tanseilio datganiad f'ewythr, "Wel, os na halwn ni ef bant i'r ysgol, rhaid ei gadw fe'n brin o arian a chadw disgyblaeth iawn arno." Pan ddechreuodd Dic fynd i Ysgol Ramadeg Derwen, i'r Dosbarth Cyntaf, roedd yn cael mwy o arian poced mewn wythnos nag a gawn i am fis pan oeddwn yn y Chweched Dosbarth.

'Ei di ddim i Bant Llwynog?' gofynnodd Sylvia ar ôl saib.

Byddent yn cysgu tan fod y siopau yn agor am ddeg, ac wedyn bant a nhw am hwyl a sbri.

Beth wyddai hwn, lili o bant, am fywyd ac am fyw ar lethrau'r defaid?'

Y mae rhywun yn dod i ddygymod yn fuan iawn a'r ffaith fod pob un yn meddwl ei fod yn cymryd rhan mewn rali ond cymerodd ychydig mwy o amser imi sylweddoli mai osgoi rhyw dwll neu bant yn y ffordd y mae y gyrrwr o'ch blaen wrth gymryd tro cwbl annisgwyl a dirybudd ar ffordd agored.

Wedi blynyddoedd o berfformio dros y byd, mae'r bas-bariton o Bant Glas, Gwynedd, wedi penderfynu dod yn nes adref.

Fe godes yr ysgol oedd e wedi gico bant, a dringo lan nes bo fi gyferbyn â'r corff.

Ar ôl hynny ces i wythnos bant ac rwy'n meddwl i mi ei haeddu!

Dilynwyd I Bant y Bwgan gan ragor o gomedi%au radio, gydag amryw ohonynt yn cael ail fywyd ar y llwyfan wedyn a rhai yn y man ar deledu hefyd.

Ydw, rydw i wedi cloi fy cd's i ffwrdd yn y bbc, wedi troi fy ffôn symudol bant am y tro cyntaf erioed ac wedi gadael fy mhlatfforms a fy lip gloss yng Nghymru fach.

Mae yr amser anghywir i roi gôl bant.

Ond taw bant ma'r Niclas 'ma wedi'i fagu.

Felly bant a'r tair ohonom ni i Kakadu 'da ffrind newydd o Cape Town, Charlie.

Doeddwn i fowr mwy na chrwt, a rown i eisie rhedeg, rhedeg bant i rywle, yn gweiddi, yn sgrechen.

Ar ôl i gloc yr eglwys daro, cerddodd ar ei union i Bant Glas a churodd ar y drws.

Y mae i'r plwyf hwn ei batrwm ffisegol yn ei nentydd a'i afonydd, ei ffyrdd a'i ffermydd, ei gloddiau a'i gaeau, ei bant a bryn, ei goed a'i ddrysni, ei lechwedd a'i wastadedd, ei wyndwn sych a'i rosydd corsiog.

Bant â'r ddwy gyda'i gilydd, fraich ym mraich.

Yr ydym wedi dangos gêm eisoes lle mae'r Frenhines yn cael ei herlid o bant i bentan am iddi fentro i faes y frwydr yn rhy fuan.

Gobeithio bod hynny wedi agor llyged rhai pobol yng Nghymru ynglyn â beth rwyn gallu gwneud ar ôl i fi fod bant yn Lloegr am sbel fach.