Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bapurau

bapurau

Dim sôn am boteli, gwydrau brwnt, blychau llwch gorlawn, pentwr o hen bapurau newydd.

'Efallai y byddai hen bapurau newydd y cyfmod yn eich helpu.

"Pam y gwnaethoch chi ddianc ar ôl y noson gyntaf a chithau wedi addo cynnal ail noson?" "Gwyddwn yn iawn y buasen ni'n eu trechu nhw'n hawdd, meddai Bholu, "ac felly ni fuasai neb eisiau dod i weld y cwshti ar yr ail noson." Rhoddodd ei law yn ngheg y sach a chydiodd mewn dyrnaid o bapurau gan eu rhoi i mi.

Yn y cyfamser, roedd yr wythnosolion Cymraeg yn barod i gyhoeddi defnydd y Blaid, ac yr oedd gan dri golygydd gysylltiad agos a'r blaid - Meuryn, Prosser Rhys, (Y Faner) a Dyfnallt Owen (Y Darian), yr olaf o bapurau Cymraeg De Cymru.

Yn ogystal â'r ugain punt, 'roedd ganddo ddeuddeg swllt a dwy geiniog yn ariandy cynilo'r llythyrdy ac ychydig o bapurau punt yn y tŷ - swm bach eitha' taclus ac ystyried ei sefyllfa.

Cafodd lawer o wybodaeth oddi ar lafar gwlad wrth fynd heibio i hen bobl a chadw cofnodion o'r hyn a gofient ar bytiau o bapurau a hen amlenni llythyrau.

Yr oedd y bwrdd a rhannau o'r llawr yn un llanastr o bapurau a llythyrau, ond yr hyn a dynnodd sylw Dan ar unwaith oedd y pâr o wadnau enfawr a'i hwynebai o ganol y bwrdd.

Ond mae'n debyg i'w hawdur drefnu i'w hargraffu ar daflen a'i dosbarthu ymhlith ei gyfeillion a'i gydnabod, a gwelodd y llyfryddwr Charles Ashton o Ddinas Mawddwy un o'r taflenni hyn, a cheir disgrifiad ohoni ymhlith ei bapurau.

Erbyn heddiw, ffurfiant gyfartaledd uchel o'r holl bapurau nedwydd a gyhoeddir yn yr Ynysoedd Prydeinig.

Roedd yna Gymry'n byw mewn amrywiol wledydd ac yn anfon llythyrau cyson i'r papurau newydd; roedd yna hefyd bapurau newydd Cymraeg mewn gwledydd fel yr Unol Daleithiau, ond rhywsut, doedd y rheiny ddim yn pasio'r prawf angenrheidiol o fod yn cynrychioli un wlad mewn gwlad arall.

Edrychwch o'ch cwmpas ar gynllunio graffig - edrychwch ar bapurau newydd ac ar hysbysebion a dysgwch oddi wrthynt.

Roedd yr aelwyd honno wedi'i mynych gydnabod yn bwerdy daioni'r genedl ers hir amser gan grefyddwyr, gwleidyddion, llywyddion eisteddfodau, areithwyr Dygwyl Dewi, dirwestwyr, beirdd, stori%wyr, cerddorion, artistiaid a llu o amryfal gyfranwyr a fwydai bapurau a chylchgronau Oes Victoria.

Cyhoeddodd amryw o bapurau o'i waith ei hun yn y Philosophical Transactions of the Royal Society, cylchgrawn sy'n dal yn fyw heddiw a'r cylchgrawn gwyddonol uchaf ei barch ym Mhrydain.

Nid oedd gofyn, meddai, am bapurau newydd Llundain ymhlith y dosbarth gweithiol.

Cafodd hyd i ragor o bapurau Sonia Lloyd fodd bynnag a methai'n lân â deall pam nad oedd y rheini'n cynhyrfu Watcyn Lloyd a pham nad oedd arno unrhyw awydd cuddio'r rheini rhagddi.

Golyga hyn mai gan y Llyfrgell Genedlaethol y mae'r archif fwyaf ym Mhrydain o bapurau ar wersyll Comin Greenham.

Yn sgîl y ddogfen, anfonwyd llythyr/datganiad at nifer helaeth o bapurau newydd lleol a chenedlaethol.

Tynnodd y Doctor ei bapurau swyddogol o'i boced a'u dangos.

Nid oedd yr holl bapurau da-da a phecynnau sigarennau'n synnu dim arno, nac ychwiath y sosej rôl wedi hanner ei chnoi oedd wedi ei gwthio i lawr ochr y sêt hanner ffordd i lawr y bws ar yr ochr chwith.

Yn ddiweddar, cyflwynodd Thalia a'i phriod Ian Campbell eu holl bapurau gwleidyddol i'w cadw'n ddiogel yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Cofiwch hefyd am y casgliad hanes lleol sy'n cynnwys llyfrau, darluniau, hen fapiau a hen bapurau newydd ar ficroffilm.

Aethai drwy wythnos gyntaf yr arholiadau, ond gwyddai fod ei bapurau yn un gybolfa hurt ac nid oedd ganddo fawr o gof beth y bu'n ei ysgrifennu.

Yn ôl Iolo Morganwg, cafodd ei rybuddio ganddynt y byddent yn ymweld â'i gartref yn Nhrefflemin a mynd trwy ei bapurau.

Gwyddwn ers blynyddoedd lawer fod ganddo ef gasgliad da o'r "Amserau% a'r "Cronicl" - naill wedi ei argraffu yn Ynys Manaw a'r llall yn y Channel Islands, i osgoi'r dreth a osodid ar bapurau newydd.

Mae'n ddrwg gen i na fedra i gynnig y moethus-rwydd sy'n siwr o fod yn beth hollol naturiol i chi yn eich gwaith bob dydd.' Sgubodd bentwr o bapurau oddi ar gadair anghyfforddus yr olwg, gan ddal ei gwynt rhag iddo ddarganfod nad oedd y coesau'n wastad hyd yn oed wedyn.

Taflenni hysbysebu yw rhai ohonynt a fawr ddim newyddion na deunydd golygyddol tra ceir eraill sy'n olynwyr i bapurau y telid amdanynt gynt ond sydd wedi penderfynu ymuno a'r fasnach ddosbarthu rhad - yn hynod o debyg i'w rhagflaenwyr.

Dywed un gohebydd Americanaidd yn un o brif bapurau Lloegr fod saith o gorau Cymreig a saith o gorau Americanaidd yn mynd i gystadlu; ac nid hynny yn unig, ond fod côr Eglwys y Mormoniaid yn mynd i ddyfod o Ddinas y Llyn Halen i gystadlu yn yr Eisteddfod yn Chicago.

Rhoddodd botel fach i mi a hanner coron.Wrth ddychwelyd ar hyd y lon gefn a throi wrth Siop Bapurau Huw Davies fe syrthiais a malwyd y botel.

Yn y cyfryngau darlledu, fel ar bapurau newydd, fe dâl i'r golygyddion fod â pheth o'r elfen amheus neu anghrediniol honno sy'n nodweddu'r newyddiadurwr da.

'Yr adroddiad,' meddai, gan estyn clwstwr o bapurau tuag at Andrews.

Roedd y cyfeiriadau niferus at Ddafydd yn herio Goliath a frithai bapurau newyddion y gorllewin pan oedd gwledydd y Baltig yn gwrthod plygu glin i Gorbachev yn siŵr o fod yn drysu llawer o'r Rwsiaid yn lan.

Yn gymysg â hyn oll yr oedd yn ysgrifennu llithoedd i bapurau newydd yng Nghymru, Y Goleuad a Seren y Bala, a thrwy'r llithoedd hynny, yn hytrach na thrwy gymrodoriaeth Coleg Lincoln, yr oedd llwybr ei fywyd ef yn arwain.