Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

baradigmatig

baradigmatig

Olyniad o arwyddion ieithyddol oedd brawddeg i Saussure, yn meddu ar ddau fath o berthynas: (i) perthynas syntagmatig, sef trefn arbennig elfennau'r frawddeg, a (ii) perthynas baradigmatig, sef perthynas rhwng yr elfen - yr arwydd - sy'n bresennol a'r rhai nad ydynt yn bresennol, megis y berthynas rhwng ffurfiau berfol fel mae, oedd, bydd, etc, a allai weithredu yn yr un lle mewn brawddeg.

I ddadansoddi brawddeg yn llawn, rhaid astudio'i pherthynas syntagmatig a'i pherthynas baradigmatig.