Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

barai

barai

Y feistres oedd y mistir yn y lle yma." (Rhyw chwerthin isel fan yma a rhai sylwadau, a barai i Meinir grawcian rhyw air o wrthwynebiad.

Golygfa anghyffredin oedd a barai i'm dyweddi deimlo ei fod yn edrych ar olygfa o'r Canol Oesoedd.

(Ganddi hi roedd y baedd Large White gorau ar Benrhyn Llyn.) Rhesymau gwahanol, fodd bynnag, a barai fod y postman lleol - priod a thad i bump o blant, a blaenor gwerthfawr gyda'r Annibynwyr - yn troi i mewn i Gerrig Gleision ambell i fin nos o dan yr esgus o ddanfon teligram.

Amheuai eu gogwydd tuag at Gatholigiaeth a'u gwrthwerinoldeb, bid siwr; eithr yr hyn a barai'r anesmwythyd mwyaf iddo oedd parodrwydd digwestiwn eu hadwaith: 'Nid wyf yn hoffi ffolineb y Sais; ond nid wyf yn hoffi ychwaith ffolineb Ffrainc, ac ni all haeriadau Ffrainc fod ddim mymryn mwy deniadol i'm twyllo na haeriadau Lloegr.' Yn ei hanfod, ymryson oedd dadl Gruffydd a Lewis ynghylch pwy oedd gwir gynheiliad 'yr hen ddiwylliant Cymreig.' Yr oedd diffiniadau ehangach o'r cychwyn yn iswasanaethgar i Gymreigrwydd y ddwy estheteg a bleidiwyd.

Yna sylweddolodd mai ei hunanoldeb hi a barai iddi hi goleddu'r fath deimladau a dywedodd wrth ei Duw mewn gweddi fer, "Arglwydd, Ti sydd biau'r plant a'u cwrls.

Wrth greu categori 'y rhamantau' neu 'y tair rhamant' pwysleisiwyd gennym nodweddion a barai fod Peredur, Iarlles y Ffynnon, Gereint ac Enid rywsut yn sefyll ar wahân braidd i brif ffrwd y testunau rhyddiaith storiol 'brodorol' (ac nid oes rhaid ailrestru nodweddion tybiedig y rheini yma), ac aethpwyd ati i'w cymharu â'i gilydd er mwyn darganfod y priodoleddau cyffredin a allai gyfiawnhau eu gosod oll yn yr un dosbarth.

Yr un argyhoeddiad a barai i Cradoc fynnu fod y saint i gyd yn gyfartal â'i gilydd.

Go brin mai rhyw hiraethu sentimental a barai i rywun holi a yw'r gallu creadigol hwnnw ar gaely dyddiau hyn o dwpeiddio diddiwedd i wneud rhaglenni o'r un radd.

A phan gafodd yr athro achlysur i longyfarch Hector ar ateb i ryw bwnc bach nid oedd terfynau i lawenydd y disgybl newydd, a phan ofynnodd un o'r merched yn y dosbarth i Hector, wedi'r wers, am help a chyfarwydd ar bwynt a barai anhawster iddi, teimlodd yntau, am y tro cyntaf, efallai, ias o'r pleser a ddaw o awdurdod o oleuni cywir ar y broblem.

A dyna meddai Ceri Davies, yr argyhoeddiad "a barai fod ymboeni ynglyn â'r Gymraeg a'i gramadeg yn bwysig" iddo.

Creadur sur, hir ei drwyn, llym ei dafod oedd Owen Owens, a chanddo draed drwg a barai iddo ddefnyddio'i ffon hir fel rhwyf.