Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

barch

barch

Oherwydd cyflwr bregus y llongau a pheryglon y môr o gwmpas arfordir Gogledd Cymru, enillodd morwyr yr ardal barch ac enw da fel rhai medrus a meistrolgar wrth eu gwaith.

Hawliai barch ei chymdogaeth ac fe'i cafodd yn rhinwedd ei graslonrwydd.

'Roedd Mr Williams yn wr uchel ei barch gan bawb.

Ni welais erioed deulu yn canlyn John ond ymgeleddai rhywun ef yn aml o barch i'w deulu mae'n siwr.

Ar un wedd, fe fagais i barch mawr at y fyddin - a sylweddoli cyn lleied a wyddwn am eu gwaith, eu syniadaeth a'u harferion cyn hynny.

Fe ddangosodd y rhain barch i'r gorchwyl a osodwyd iddynt gan fy mam, a thrwy hynny parchasant fy mam hefyd.

pan mae unigolyn yn cael ei roi mewn sefyllfa lle mae'n llwyddo, mae'n derbyn canmoliaeth sy'n rhoi hwb i'r hunan hyder, a gyda hunan hyder y daw hunan barch.'

Magwyd Richard Davies, mae'n amlwg, yn awyrgylch a thraddodiad yr uchelwyr o barch tuag at leynddiaeth gynhenid Cynru a diddordeb mawr ynddi, megis rhai eraill o gyfieithwyr beiblaidd ei gyfnod; a William Salesbury, William Morgan, a John Davies, Mallwyd, yn eu plith.

Fe welwn yn glir yn fflachiadau cyhuddgar ei lygaid callestr, yn gymysg â'r hen herio, awgrym o barch gwyliadwrus.

Bydd lle arbennig wedi ei godi i'r bobl bwysig eistedd ac wrth orymdeithio heibio'r rhain bydd y plant yn troi eu hwynebau tuag atynt fel arwydd o barch.

'B'le ceir fwy barch'?

O barch i Thomas Charles, penderfynwyd dechrau ar y gwaith trwy argraffu Beibl Cymraeg a gofyn i Charles ei olygu.

Yr oedd yna rhyw barch ac anwyldeb yn y cyfarchiad oedd yn dderbyniol i'r ddwy ochr.

Ond go brin ei fod yn ychwanegu rhyw lawer at hunan-barch nac urddas y sawl syn gwisgor fath addurn ychwaith.

Gwnewch restr o rai o'r llefydd lle gall gweithiwr gofal hyrwyddo datblygiad personol a gwrthweithio diffyg hunan-barch.

Dros amser, fe drodd dyneiddiaeth o fod yn fudiad a nodweddid yn bennaf gan barch at ddysg yr Hen Fyd, mudiad a wreiddid yn arbennig yn y diwylliant Lladin clasurol, i fod yn fudiad a oedd yn hybu'r ieithoedd brodorol, ac, i raddau llai, ddiwylliant brodorol yn ogystal.

Mae gen i barch mawr, mawr, at ei waith o ac at ei farn o.

Er i Ieuan Griffiths weithio'n galed iawn i ddinistrio gyrfa Stan, llwyddodd Stan i adfer ei hunan barch.

Fel dyfarnwr enillai barch ar bob llaw oherwydd ei wybodaeth, ei gadernid a'i degwch.

Cafodd Cymru wybod y manylion, a hyd y gwn, nid yw gwrthrych yr helynt yn ddim llai ei barch erbyn heddiw.

Mae geiriau Richard Davies yma yn dangos yn eglur iawn paham y gellir galw'r corff hwn o hanes yn 'fyth': y mae'n dylanwadu ar yr ysbryd a'r dychymyg, a'i ddiben, neu ei rym arbennig, yw cynnal balchder a hunan-barch y Cymry.

Toeddwn i ddim wedi meddwl dim am y sach nes gweld cymaint o barch a gawsai ar y bws, a'i bod wedi cael lle rhwng y ddau frawd yn y caffi.

O fod yn perthyn i un o'r ddwy genedl hyn, y mae'n debyg o fod yn feddiannol ar lawer mwy o barch i'r tir nag a geir ymysg llawer o'r Cymry.

Cyhoeddodd amryw o bapurau o'i waith ei hun yn y Philosophical Transactions of the Royal Society, cylchgrawn sy'n dal yn fyw heddiw a'r cylchgrawn gwyddonol uchaf ei barch ym Mhrydain.

Yn sicr, byddent yn rhyfeddu cyn lleied o barch a roddir yn awr i'r seithfed dydd.

Helfa arall y mae'n rhaid imi sôn amdani yw'r un a ddaeth i'm rhan yn llyfrgell y diweddar Barch.

Gwr arall yr oedd gan Waldo barch ato, yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd Dr E.

Ceir llawer o draddodiadau ar lafar gwlad a dywed un ohonynt i eglwys gael ei hadeiladu yn y chweched ganrif o barch ac anrhydedd i Dewi Sant.

Mae tlodi wedi lladd pob hunan-barch ac urddas yn y dalaith hon.

Fe all profiad a chyraeddiadau eraill helpu person sydd wedi ei ynysu oherwydd ei anabledd i ddod dros y diffyg hunan-barch a'r diffyg rheolaeth a deimla.

Yn y maes rhyngwladol hwn - a chynhennus ar adegau - nid oes neb yn uwch ei barch na'r Athro A.

Yn sydyn dyma rhywun yn gafael yn fy mraich a llais yn dweud 'Come with me I need you urgently' Derek Laws oedd yno sef prif swyddog y Swyddfa Ganolog yng Nghaerdydd, cyfaill a gŵr yr oedd gennyf barch mawr iddo.

Pwy a all fesur ein dyled i'r Cymry hynny sy'n gwrthod gwerthu eu ffermydd i'w cyd-Gymry amharchus, gan ddewis yn hytrach ymddiried y tir sydd mor annwyl ganddynt i ddwylo'r sawl a rydd brawf digamsyniol o'i barch tuag at y tir hwnnw?

O sicrhau adnoddau ar gyfer y plant ar bobol ifanc mae gobaith y gwelir lleihad yn rhai on problemau cymdeithasol yn ogystal ag adeiladu mymryn o hunan-barch.

Gwyddem fod gan Mrs Davies barch mawr tuag at ei chapel a gwnai unrhyw beth i hyrwyddo'r Achos.

Pobol y Cwm sydd â'r gynulleidfa uchaf o blith unrhyw raglen Gymraeg ar S4C, gan gyrraedd cynulleidfaoedd ar agreg o dros 200,000 ac mae Newyddion yn rhaglen awdurdodol ag iddi barch mawr.

'Rhoddi y vagabond pass i'r Jacs fynd ati i syllta', oedd hyn yng ngolwg Brutus, a synnai fod gweinidog mor uchel ei barch â Phylip Griffiths wedi'i iselhau ei hun drwy gymeradwyo'r arfer.J Dwg hyn ni at gymwysterau'r gweinidog ymneilltuol yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Iddi hi nid oedd gwahaniaeth rhwng pregethwr a phregethwr; yr oeddynt oll yn dda, a dangosai gymaint o barch i'r lleiaf ag i'r mwyaf.

Tuedd y rhan fwyaf o lenorion Lloegr, hyd at yr Oes Ramantaidd, fu ystyried fod popeth Groeg a Rhufeinig yn rhwym o fod yn well na'r dulliau brodorol; ond yr oedd y Cymry, mewn cyferbyniad, yn dueddol o edrych ar farddoniaeth Gymraeg fel traddodiad clasurol arall, a oedd yn llawn mor hynafol yn ei wreiddiau, yn llawn mor gaeth a ffurfiol, an yn llawn mor deilwng o barch ac astudiaeth â'r traddodiad Groeg a Rhufeinig.

A fedrwn ni yn awr ddisgwyl gan Charles, pan ddaw (os daw) yn Frenin Cymru, y bydd, ar fyrder, yn rhoi Pardwn Brenhinol - o barch coffadwriaeth - i Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams?

.." Mi 'roedd gan 'y nhad barch mawr iawn tuag at actorion, a phawb arall o fewn ei broffesiwn.

Cafodd William Huws barch a godai oddi ar ofnadwyaeth weddill y siwrnai.

Rhaid cofio mai mab i chwarelwr ydoedd, wedi ei fagu ymysg teuluoedd chwarelwyr ac yn gwybod o brofiad am erwinder y llafurio'n y graig ac am gyndynrwydd yr ymddrech ar yr aelwyd i fyw gyda thipyn o urddas a hunan-barch.

Sut all gweithiwr gofal hybu hunan-barch a helpu unigolion i gynllunio eu patrwm byw eu hunain?

Mae Martin Johnson yn chwaraewr uchel ei barch.

Roedd y stori yn 'Woman's Own' yn sôn am dad oedd wedi dweud wrth ei blant bod anifeiliaid y greadigaeth i gyd yn mynd i lawr ar eu gliniau am hanner nos noswyl y Nadolig o barch i ddydd geni Iesu Grist.

Mae'n amlwg oddi wrth ei holl gynnyrch, er gwaethaf ei barch at reswm, at drefn, at ffurf mewn bywyd a chelfyddyd, nad pleidiwr llythyren farw'r ddeddf ydyw o gwbl, oherwydd mae'n barhaus yn herio'i gymeriadau i gamu y tu hwnt i gylch cyfyng eu harferion traddodiadol a gweithredu'n greadigol er mwyn meddiannu gwirionedd uwch.

'Heblaw, o dan yr amgylchiada' presennol, ac o barch i hen ddyn 'ch tad pan oedd o, mi fydd yn blesar gin i rowndio dipyn.' Bu cryn anhawster i gael yr hwch i mewn i'r bus o gwbl.

Yr oedd y gwr hwn yn fawr ei barch a bu'n Glerc yr Heddwch dros Sir Ddinbych am hanner can mlynedd.

Yn y Tabernacl, gyda'i briod Pegi, fe fu'n barod ei wasanaeth ac fe ennillodd barch ei gydaelodau.

Sen ar ddeallusrwydd a hunan-barch unrhyw newyddiadurwr profiadol fyddai cael ei gyflogi'n unig i ddarllen sgriptiau a baratoir gan rywun arall -: does dim rhyfedd felly fod yr ysgrifenwyr yn tueddu i edrych ar y rhai a gyflogir fel darllenwyr yn unig - â pheth dirmyg nawddogol Sylweddolir nad oes cyfle i ymarfer rhyw lawer o ddawn greadigol wrth ysgrifennu newyddion ­ credir fod angen llai fyth o ddychymyg i'w darllen.

Chwithau ffermwyr ieuainc heddiw, daliwch i gynnal safon eich tir a'ch stoc, a byddwch yn barod at yr amser y daw eto barch at fyd amaeth.

Rhoesant barch neilltuol yn eu haddoliad i ddarllen yr efengylau a'r epistolau yn eu hiaith eu hunain.

A hyd heddiw mae gen i barch i'w goffadwriaeth o am iddo fod mor garedig wrth greadur bach ar ddechrau'r daith.