Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

barchu

barchu

Cyn hynny roeddwn i yn ei barchu o, ond doedd o ddim yn fy mharchu i.

Wrth ddiolch iddo am ei sylwadau caredig ynglyn âr cyfleusterau presennol addawodd Alun Michael y deuai yntau fel yr aelodau eraill i sylweddoli bod i'r adeilad ei anfanteision a bod yr angen yn parhau am adeilad i'w barchu.

Mae Cristion yn credu fod pwrpas i bawb a fod pawb i fod i barchu ei gyd-ddyn.

dylem barchu ein hetifeddiaeth a gwneud yn fawr o bechod.

Clywn hefyd am y 'Galileaid' a garai ryddid, yn ôl Josephus, ac na fynnent barchu neb ond Duw fel eu Harglwydd.

Mi fyddent yn dod yn aml efo rhyw esgus, ond mi pedd Dada, yn gallu eu cadw yn eu lle, a felly 'roedd ef yn cael ei barchu ac yn cael eu help pan fyddai yn adeg brysur.

Hwn oedd y gŵr hynaf yn y dref, bellach yn grwm ac yn gloff gan ei oedran ond roedd pawb yn ei barchu o hyd.

Oherwydd iddo barchu treftadaeth ei ardal y mae'n parchu'r iaith a chrefft y llenor: myn hefyd fawrygu ac amddiffyn ei dreftadaeth, a diddanu ei gyfeillion, a chofnodi'i edmygedd o'i etifeddiaeth hen.

Roedd hi'n amlwg fod plant yn cael eu dysgu'n ifanc i barchu un o egwyddorion sylfaenol Fidel Castro, sef pwysigrwydd gwaith.

Y mae'r Cristion yn rhwym o barchu a chefnogi ymdrech dyn i gadw neu sicrhau ei hunaniaeth a'i urddas gan i Grist roi'r fath werth ar y person dynol.

Deddf fyddai yn rhoi cyfrifoldeb statudol ar gwmniau preifat fel y Cwmniau Ffôn Symudol i barchu iaith Cymru yn yr un modd ag y mae disgwyl iddynt barchu yr amgylchedd a hawliau eu gweithwyr a'u cwsmeriaid.

Fel dyn yr oedd Watkin yn cael ei barchu gan bawb, oblegid yr oedd yn barod i wneud daioni i bawb; yn ddyn heddychol, yn bleidiwr gwresog i'r hyn oedd deg, ac yn wrthwynebydd dewr i bob trais a gormes.

O safbwynt Llundain, felly, yr oedd o'r pwys mwyaf fod awdurdod yr esgob yn cael ei barchu.

Yr oedd rhyw angladd mewn cymdogaeth wledig fel Cwm-garw y pryd hwnnw, lle'r oedd y tai yn anaml, yn beth i sôn amdano, ond heddiw dyma angladd cymydog, angladd perthynas, angladd hen ddyn yr oedd y gymdogaeth yn ei barchu a'i anwylo, - angladd ewyrth Richard Cwm- garw, yn codi o'r tŷ o fewn lled dau gae i'n tŷ ni.