Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

barchus

barchus

Bellach mae Kath yn ddynes fusnes lled-barchus.

Roedd e'n foi digon smart, yn barchus gan bawb yn yr ardal, yn feirniad da ar ddefaid a thipyn go lew gydag e yn y banc.

Yn wyneb y dehongliad "treisgar" a roddai rhai pobl barchus ar dân Penyberth, yr oedd e'n tybio mai da fyddai pwysleisio'n gyhoeddus mai plaid gyfansoddiadol a heddychol oedd y Blaid; ond yn ôl y cof sydd gennyf i, nid oedd e'n sicr mai doeth fyddai codi'r mater i'r gwynt yn y Gynhadledd: tebyg ei fod yn ofni yr ai'n ddadl fawr ar y cynnig, a hynny'n fel ar fysedd y collfeirniaid o'r tu allan.

Yn Lloegr y mae merched amaethwyr yn barchus; yng Nghymru y maent yn gyson yn caru yn eu gwelyau.

Mae'r ddwy bennod gyntaf yn egluro'r newidiadau economaidd, cymdeithasol a thechnegol - lawn bwysiced â dyfodiad teledu lloeren oedd yn gwneud gwasg Gymreig yn bosib, a bywoliaeth fel newyddiadurwr yn barchus os nad llewyrchus (efallai mai fel arall yn union mae hi heddiw).

Fydd hyn yn golygu bod yn amhoblogaidd efo llawer iawn o bobl barchus, ac unwaith ddaw'r Cynulliad i fodolaeth fe fydd 'na fwy o bobl barchus nag erioed o'r blaen yn cau am ei gilydd ac yn gwarchod ei gilydd.

Yn y man daeth y gymdeithas hon i osod bri mawr ar y 'barchus arswydus swydd', ac y mae'n wir dweud y dibynnai'r gweinidog bron yn gyfan gwbl ar ewyllys da a theyrngarwch ei gynulleidfa.

Nid protest barchus, ddienaid (ordentlich) y mae galw amdani ond yn hytrach ddatganiad cryf, ymosodol o bțer.

Yn ol rhai yma'n San Steffan, mae dyfodol William Hague yn dibynnu ar ganlyniad cymharol barchus.

Doedd y ffaith fod pobl yn mynychu capel ac yn gwisgo'n barchus ac yn siarad yn neis ddim yn meddwl nad oedden nhw ddim yn medru ymddwyn yr un mor sglyfaethus â'r pethau meddwon rheiny fyddai'n taflyd if yny hyd bob man ar eu ffordd adref o barti.

Wrth ddewis ymdrin a llipryn o brif gymeriad, clwtyn llestri o ragrithiwr a neidiodd ar wagen y Rhyfel Degwm er mwyn taflunio delwedd arwrol ohono'i hun i dwyllo cymdeithas hygoelus a ffug-barchus, yr oedd Tegla fel petai'n ensynio'n anuniongyrchol mai tan siafins oedd y frwydr wleidyddol, ac nad oedd yr holl helyntion ond rhyw ddrama ddisylwedd.

Wrth gwrs, ar yr aelwyd rhaid oedd cyfeirio at bob un yn barchus wrth ei gyfenw.

Tu draw iddynt yr oedd coesau hir mewn trowsus du, rhesog, hynod barchus, a thu draw i'r rheini wedyn, mewn hanner cylch o galedwch cadair swyddfa, weddill corff yr anfarwol Ap Menai.

Ambell dro, digwyddai fod rhywun o wyr cyhoeddus y Rhos heb siarad mor barchus am yr Herald ag y teilyngai, ym marn y golygydd, a gwae y creadur hwnnw, yr oedd llach y golygydd arno.

Rhwymais hwy'n barsel ar wahân i'r gweddill ac yn lle eu hanfon drwy'r post fe'u cariais yn barchus dan fy mraich.

Rydych chi'n gynulleidfa rhy barchus i fi fentro ailadrodd rhai o'r storiau a'r dywediadau carlamus a oedd yn cylchredeg ar y pryd.

Fe wyddai fy mod i yn byw y pen arall i'r dref, a bod fy nhad mewn swydd barchus.

Mae cofeb i'r Tri ym Mhenyberth erbyn hyn, ond fe gymrodd dros hanner canrif i'r tri dihiryn ddechrau troi'n barchus, heb son am ddechrau bod yn arwyr.

Yr wyf innau'n un o'r lleiafrif hurt sy'n gweld ynddo farwolaeth barchus ac esmwyth ac angladd ddialar i'r Gymraeg.

Nid oeddem i loetran o gwmpas Cnwc y Clap, cornelyn uchel uwchben harbwr y Cei, a gwrando ar y morwyr a'r pysgotwyr a arferai ymgasglu yno ac adrodd am eu hanturiaethau ar y mor a son am arferion cudd rhai o bobl barchus y Cei a hynny mewn Cymraeg graenus, anfeiblaidd.

Meddyliwch am siopwr; rhyw olwg lwyd, eiddil sydd arno, neu weinidog, rhyw olwg barchus yn ei wisg

Roedd hi'n barchus i fab fferm briodi merch fferm arall; nid oedd yn hollol amharchus i fab briodi'r forwyn, eithr gwarth oedd i'r ferch briodi'r gwas.

Cymryd ambell gegaid wna'r sewin - o barchus goffadwriaeth reddfol am bantri llawn y môr!

Maen bryd i rywun yng Nghymru godi ychydig o stwr ac awgrymun garedig i'r Archifau Cenedlaethol ym Mharis mai rheitiach peth i'r ddogfen ddiddorol a hanesyddol hon gael aros yng Nghymru ai diogelun barchus - nid ei chadw mewn amlen frown.

Bu cryn bwysau arno i chwarae golff, ond mynnai mai gêm i bobl heb ei gwneud hi oedd honno, gêm lonydd barchus i athrawon a gweithwyr banc, pobl heb lawer o egni meddyliol heb sôn am gorfforol.

Byddai Anti yn brwsio ei gwallt yn drwyadl bob nos, cant o weithiau, ac edrychwn innau arni'n barchus.

Anodd oedd i grefftwr neu weithiwr a gwas gyrraedd y swydd barchus arswydus' o gael ei ethol yn flaenor.