Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

barchusrwydd

barchusrwydd

Bu cwynion diweddar am feddygon o dramor yn methu â mynegi eu hunain yn glir am nad yw Saesneg ddigon da, yn fodd i roi gwedd o barchusrwydd i'r hiliaeth honno syn hepian o fewn llawer o bobl.

Pregethwr, credech neu beidio, oedd wedi ei ysgrifennu, ac yr oedd hynny yn dystiolaeth gref o blaid ei barchusrwydd.

Nid yw'n annheg dadlau fod y ddisgyblaeth hon wedi crisialu'n ddiweddarach yn barchusrwydd ffurfiol a phobl yn canmol y gwerthoedd yn gyhoeddus ac yn eu gwadu yn y dirgel.

Erbyn hyn roedd y janglio wedi peidio a Miss Lloyd wedi ennill rhyw barchusrwydd newydd er gwaetha'r ffaith fod lori Lewsyn yn aml yn parhau i flocio'r pafin y tu allan i'r Tŷ Capel.

'Roedd Rhamantiaeth y beirdd hefyd yn ei ffordd yn brotest yn erbyn y pryddestau diwinyddol, gyda'u disgrifiadau o harddwch corfforol merch yn enghraifft o rywioldeb yn dechrau treiddio drwy ffug-barchusrwydd a rhagrith crefyddol y cyfnod Fictoriaidd yng Nghymru.