Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

barddol

barddol

Roedd hygrededd yn nodweddu'r oes ac anwybodaeth ynglŷn â gwir hanes y Cymry a'r traddodiad barddol ar y pryd yn rhoi rhwydd hynt i hynafiaethwyr Cymru, Lloegr ac Ewrob chwedleua a rhamantu derwyddol a chynoesol.

Ond er prinned yw'r cyfeiriadau uchod, ac er nad oedd llawer iawn o gysylltiad rhwng y rhanbarthau hyn a'r taleithiau eraill yn y ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ar ddeg, eto, pan gododd Casnodyn ym Morgannwg yn y ganrif ddilynol, gwelir yn ei waith holl nodweddion canu cymhleth y Gogynfeirdd, ffaith sy'n awgrymu fod traddodiad barddol cyffelyb wedi ffynnu yn y de-ddwyrain yn ogystal yn y canrifoedd blaenorol.

Y mae tair elfen felly yn perthyn i draddodiad barddol dyffryn Aman yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

O gwmpas y rhain y tyfodd cylchoedd barddol bywiog Cwmaman a Brynaman, a thrwy eu dylanwad hwy a cholofn farddol Caledfryn yn Y Gwladgarwr, y meistrolodd cynifer o'r beirdd y cynganeddion.

Gallwn ymfalchïo fod gennym drtaddodiad llenyddol a barddol cystal ag unrhyw un o wledydd Ewrop.

Ochr yn ochr a chanu modern yn Gymraeg, mae yna, yn epigau'r Eisteddfod ac yn ymarferion barddol y talyrnau a'r ymrysonfeydd, grefft arbennig sydd ambell dro yn codi i dir celfyddyd ond yn amlach yn syrthio beth yn is.

Ysgydwyd y byd barddol i'w seiliau gan ddatganiad Euros Bowen ei fod yn dymuno cadeirio'r Parch.

Yr oeddynt yn ceisio llenwi bylchau a ganfyddent yn y traddodiad barddol Cymraeg.

Beirniadaeth lenyddol yn trafod y traddodiad barddol.

Ni fynnai ef, fe ymddengys, fod ynryw ddyled ar Ddafydd i'r Trwbadwriaid: yn hytrach yr oedd ei brif ddyled i'r traddodiad barddol brodorol, i draddodiad barddol 'gwerinaidd' y 'bardd teulu'.

Tybed a ydyw swyddogaethau a phriodoleddau traddodiadol y ddau ryw (ddoe a heddiw) yn cael eu torri i lawr i raddau dan bwysau'r galar (ac o bosibl am fod y bardd yn canu'n groes i arfer y traddodiad barddol)?

Dyma gyfnod y deffro mawr - Gwynn Jones, John Morris-Jones, WJ Gruffydd, Elfed, Williams Parry ac eraill yn creu traddodiad barddol newydd.

Yn ol Hywel ystorm, ef oedd 'Llafn angau brau bro Gynffig.' Ymryson barddol, ond odid, a geir yn yr awdl uchod.

Rhoddwyd sylw arbennig i draddodiad barddol toreithiog y cylch, gan gynnwys, yn naturiol, gerddi David Ellis, Penyfed.

Oherwydd diffyg cyd- drefnu cenedlaethol effeithiol, cafwyd peth ymrannu, ond yn y diwedd bu ffyddlondeb y Beirdd i weledigaeth Iolo Morganwg, eu teyrngarwch i'r traddodiad barddol, y boddhad a gaent o gael cydnabyddiaeth gwlad am eu campau barddol trwy gael eu hurddo ac, yn bennaf oll, yr ymdeimlad fod gan y gymdeithas farddol 'hynafol' hon rywbeth mwy nag y medrai cyfundrefn a chyfansoddiad ei gynnig, sef yr hyn a elwid gan Orseddogion y ganrif ddiwethaf yn 'awdurdod', yn ddigon o atgyfnerthiad iddi oroesi, er gwaethaf yr holl feirniadu.

Syniad Edward Williams (Iolo Morganwg), saer maen, bardd ac ysgolhaig o Drefflemin, Bro Morgannwg, oedd sefydlu'r mudiad, a hynny er mwyn adfer y traddodiad barddol i'w hen ogoniant.