Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bargen

bargen

Onibai i Wil Twmpath gael ei hudo i Wlad N'Og ar ei ffordd o ffair sglodion Capel Tarsis gyda llathen o wynwyn dros ei ysgwydd - bargen o stondin gynnyrch Mrs Harris y Gweinidog - mae'n amheus a fyddai pethau wedi digwydd fel y gwnaethont.

Bargen gafodd ei daro rhwng coeden a chreadur oesoedd yn ôl yw hon, ond brwydr yn hytrach na bargen sydd i'w weld o sbecian y tu ôl i'r llenni.

"Mae wastad yn rhyw fath o 'daro bargen' rhwng diogelwch a chyflwyno gwasanaeth.

Ceisiodd Cei Hir daro bargen ag Esyllt, gan gynnig gadael i Drystan fynd yn rhydd os câi yntau Olwg Hafddydd, yr oedd wedi ymserchu ynddi.

Weithiau fel yn Reykjavik fe ddaw si o'r cyfarfodydd fod bargen anhygoel ar fin ei tharo, sef y byddai'r ddwy wlad yn cytuno i gael gwared ar arfau niwclear o bob lliw a llun o fewn deng mlynedd.

O ganlyniad, gall prynwr doeth sicrhau bargen werth chweil.

Doedd nhad ddim yn rhy awyddus i fynd ond fe aeth, ac fe drawyd bargen, ac fe addawodd Ted (y gwerthwr) y bydda fo'n ei 'dilifrio' cyn diwedd yr wythnos.

Cofiaf pan oeddwn i'n gweithio mewn bargen yn yr hen chwarel, roedd 'na ddau fachgen o Lanfairfechan wrth fy ymyl i.

Ond gwae y ffermwyr hynny, oblegid bargen sâl a gawsant.

Mae gan bob malwr ei le ei hun; term y gwaith amdano yw Bargen, ond coeliwch fi fuo erioed enw mwy camarweiniol; colled a llwgfa fu i ugeiniau, fel y dywedodd un ryw dro.