Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bariton

bariton

Roedd ganddo lais bariton rhagorol ac yr oedd wedi canu ar y radio yn Hong Kong fwy nag unwaith, ac efallai fod hynny wedi mynd i'w ben ef.

Caiff gwylwyr Aria yr wythnos hon gyfle i fwynhau ei lais bariton soniarus a phwerus.

Bydd y gystadleuaeth yn cychwyn yn Neuadd Dewi Sant nos Sul a'r canwr cyntaf ar y llwyfan fydd y baritôn o Canada, Nigel Smith.

Bariton, Banciwr, Beirniad Yn ogystal â bod yn ganwr galluog mae arbenigwyr ym myd y gân fel JOHN STODDART a T GWYNN JONES yn pwysleisio bod Towyn hefyd yn feirniad praff.

Dim ond unwaith y gwelwyd cynrychiolydd Lloegr ar lwyfan y noson olaf - Christopher Maltman, y baritôn aeth rhagddo i ennill y wobr Lieder yn 1997.

"Fe ddaru o chwarae rhan bwysig iawn yn fy natblygiad i fel canwr proffesiynol," meddai'r bariton sydd bellach yn fyd- enwog.

Wedi blynyddoedd o berfformio dros y byd, mae'r bas-bariton o Bant Glas, Gwynedd, wedi penderfynu dod yn nes adref.

Cychwynnwyd y gystadleuaeth yn swynol gan y baritôn Nigel Smith o Canada.

Noson Yr Alban fydd nos Fercher a'i cynrychiolydd fydd y baritôn Leigh Melrose a aned yn Efrog Newydd ond a fagwyd yn Llundain.

Tito You, baritôn o Korea, gafodd y gwaith anodd o ganu wedi'r egwyl a phawb yn dal yn feddwl am Elina.

Wedyn daeth Vladimir Moroz, baritôn o Belarus - un arall o'r cystadleuwyr safonol iawn sydd wedi dod o Ddwyrain Ewrop i gystadleuaeth eleni.

"Pedwar ...!" llafarganodd y bariton, a chodi'i lais mewn crescendo rhybuddiol.

Ond prin yr oedd wedi camu deirgwaith pan ysgwydodd y tū hyd at ei seiliau, wrth i'r drws gael ei ddymu'n ddidrugaredd ac wrth i lais bariton anferth daranu dros y lle.

Yn ei lyfr Meistri'r Moroedd, y mae Mr Aled Eames yn sôn am y "munudau tawel ar nos braf, ac yn y distawrwydd clywed Mrs Pritchard yn canu'r piano yn y caban a'r Capten yn ei lais bariton cyfoethog yn canu 'The harp that once through Tara's Hall' neu Dafydd y Garreg Wen Claddwyd Mrs Pritchard yn Laurenco Marques a gallwn ddychmygu y tristwch ar y llong ymysg y criw ac yn enwedig tristwch Capten Pritchard o adael ei wraig mewn bedd ar dir estron.