Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

basgiaid

basgiaid

Mae cefnogaeth swyddogol iddynt – mae cyngor tref Carhaix wedi trefnu i 6 o'r Basgiaid gael ty cyngor.

Gwelodd Jean Paul Sarte, y Comiwnydd, bwysigrwydd difesur eu hiaith i bobl sydd dipyn yn llai niferus na'r Cymry, sef y Basgiaid.

Os ydym am edrych ar wlad sydd i'w chymharu â'r hyn allai ddigwydd yng Nghymru, yna at y Basgiaid y dylem droi.

Mewn ysgrif nodedig a gyfieithwyd yn Planet, dywedodd y byddai gormeswyr Sbaenaidd y Basgiaid yn llwyddo, pe dinistrient yr iaith Fasgaidd, i wneud y Basgiad "yn ddyn haniaethol".

Fe fydd y '45 Llydaw' yn sefyll eu prawf ynghyd â 40 o bobl eraill – Basgiaid, pobl o Baris, ac o lefydd eraill.

Fodd bynnag, mae'n hysbys ddigon i Lywydd y Blaid Genedlaethol ddadlau'n daer ac yn llwyddiannus yn erbyn aelodau ifainc a ddeisyfai weld y Blaid yn datgan cefnogaeth i'r Weriniaeth ac i'r Basgiaid, yn dilyn cyrch awyr y Natsiaid yn erbyn Gernica.

Yn y drydedd adran rhaid rhestru cenhedloedd llai, a chanddynt rhwng pedwar can mil a miliwn a hanner o siaradwyr - y Cymry, y Llydawiaid a'r Basgiaid yn y Gorllewin; y Slofeniaid, y cenhedloedd Baltig a'r Albaniaid yn y Dwyrain.

'Does raid i ni ond cofio am y Catalaniaid a'r Basgiaid i sylweddoli sut y mae bodolaeth lleiafrif diwylliannol, hanesyddol neu ethnig yn dibynnu ar iaith.

Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen ac yna yn oes Franco, roedd y Basgiaid yn aml yn ffoi i Lydaw ac yn cael lloches yno.

Dyma wrth gwrs a ddywed Franco wrth y Basgiaid a'r Catalaniaid: Pompidou wrth y Llydawyr: Brezhnev wrth y Latfiaid, y Lithwaniaid, yr Estoniaid - a'r Sieciaid a'r Slofaciaid a llawer cenedl arall sydd yn eu gwladwriaeth neu'n ffinio â hi.

Mae rhai gwleidyddion a chefnogwyr y diffynyddion yn dweud bod criminaleiddio lloches i'r Basgiaid yn arwydd o erydu'r hawl i loches wleidyddol.