Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

batiwr

batiwr

Sgoriodd Matthew Elliott 62 i Forgannwg - sgôr uchaf y batiad, ac yn ystod y prynhawn fe gafodd y batiwr agoriadol o Awstralia ei gap gan Matthew Maynard.

'Ond gêm broffesiynol yw criced ac os yw'r bowlwyr yn meddwl bod batiwr allan maen nhw'n mynd i ofyn.

Mae batiwr Morgannwg, Jacques Kallis, wedi sgorio dwy fil a hanner o rediadau mewn gemau prawf i Dde Affrica.

Mae'r garfan yng Nghaerdydd yn ymarfer, a bydd chwaraewr tramor newydd y clwb, y batiwr Jimmy Maher o Awstralia hefyd yn ymuno â nhw heddiw.

Mae batiwr Morgannwg a De Affrica, Jacques Kallis, wedi tystio bod y capten Hansi Cronje wedi dod ato fo a dau chwaraewr arall - Lance Klusener a Mark Boucher - cyn y gêm yn erbyn India ym Mis Mawrth a dweud ei fod wedi cael cynnig i gollir gêm yn fwriadol.

Mae Bwrdd Criced De Affrica wedi cyhoeddi na fydd y batiwr agoriadol Herschelle Gibbs yn y garfan ar gyfer y daith i Sri Lanka fis nesa ar ôl i Gibbs gyfaddef ei fod o wedi derbyn cynnig o $15,000 gan ei gapten Hansi Cronje i sgorio llai nag ugain o rediadau mewn gem undydd yn India.