Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

batrymau

batrymau

Pa batrymau a oedd ganddi ar gyfer ei hymddygiad?

Os oes ond ychydig o batrymau ymddwyn positif ar gael, a mynediad cyfyngedig i siopau, llefydd gweithio a gweithgareddau hamdden, yna gellir gwneud hunan-ddatblygiad yn nod ffurfiol.

Wrth i'r peiriannau o bob math fynd yn fwy ac yn fwy, aeth y caeau yn feysydd a diflannodd yr hen batrymau fyddai i'w gweld fel cwiltiau clytwaith wrth edrych arnynt o lethrau'r bryniau ac ambell godiad tir.

Felly, wrth i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg fynd ymlaen - y syniadau am y dinesydd modern, buddiol neu am y genedl fel cwlwm o werthoedd yn ennill tir, gwelwn wrthdrawiad cymhleth rhyngddynt a hynny'n esgor ar nifer o batrymau addysgol yn ôl natur y wladwriaeth a datblygiad y broses foderneiddio.

Y dyffryn rhyngof a bannau Calabria fel carped, a'r ffyrdd a'r pentrefi yn batrymau amryliw arno.

* Oriau neu batrymau gwaith

Mae'n rhaid sicrhau dilyniant o ran cyfleoedd addysgol i bawb nid yn unig er mwyn cynyddu nifer y bobl sydd â'r gallu i siarad yr iaith, ond hefyd er mwyn cael effaith ar batrymau defnyddio'r iaith mewn peuoedd penodol.

Nid oedd gan y Saeson, fel yr oedd yng Nghymru, draddodiad cryf o ganu achlysurol a chymdeithasol, a byddai beirdd Saesneg yn troi at y clasuron am batrymau i'w dilyn.

bywyd ac amryliw batrymau'r bywyd hwnnw - diwrnod lladd mochyn, diwrnod dyrnu, diwrnod cneifio, byd torrwyr cerrig, carega, cymortha, llofft stabal, - byd y ferm, y tir a'r tywydd...

O'i fewn gwelir golygfeydd hyfryd naturiol, nid o waith llaw, ac hefyd batrymau hynod o bleserus o weithgarwch dyn ar hyd yr oesau.

Yn gyffredinol mae systemau amaethyddol yn datblygu o dan ddylanwadau cyson hinsawdd, tirwedd a phriddoedd ond mae'r ffactorau hyn hefyd yn dylanwadu ar batrymau amaethu o fewn blynyddoedd a thymhorau.

Mae patrymau prynu cylchgronau yn eu hanfod yn wahanol i batrymau prynu llyfrau (y prynu rheolaidd pob wythnos, pythefnos, mis neu chwarter), ac felly mae'r elfen leol ar ffurf y siop bapur/bentref yn bwysig iawn.

Hyfforddi cyfres o batrymau yr ydys mewn cyd-destun ymarferol sefyllfaol.

Yn ei law, cariai ffon eboni ddu ac arni batrymau cywrain mewn aur coch.

Effeithiodd hyn i gyd yn fuan iawn ar ymddygiad cymdeithasol ac ar batrymau cwrteisi.

Cyflwynir hi i ddechrau fel un o deulu'r Hafod Ganol a rhan o'r gyfres o batrymau gwrthdrawiadol.

Bydd rhaid i'r ail fuddsoddi fod yn: a) gyflym - i sicrhau gwirddewis; b) ddoeth/gofalus - gan na ellir rhagdybio beth fydd dewis-batrymau'r defnyddiwr yn y dyfodol; c) yn eofn, - er mwyn magu hyder.

Yn hytrach nag edrych ar gymdeithas yn ei chyfanrwydd fel ag yr oedd Fishman yn ei wneud, edrychodd Gal ar batrymau iaith unigolion.

Nid turio i'r Mabinogi a Chymraeg Canol a wnaeth, a chwilio am batrymau fel ysgolhaig, ond ysgrifennu o gyflawnder ei enaid fel Cymro o Lanuwchllyn.