Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bawn

bawn

(Gwyddwn, wrth gwrs, beth oedd diweddglo'r hanes, ond daliwn i obeithio, fel pe bawn yn blentyn, nad oedd yn wir.) Yng nghanol y gwasanaeth bu ergyd anferthol a chladdwyd Marie a'i thad o dan wal a cherrig.

Pe bawn i'n mynd â hon dan fy mraich i dy Emrys .

Dim ond 'i chario yn fy llaw a cheisio edrych fel pe bawn i newydd 'i thynnu i sychu chwys oddi ar fy nhalcen.

Pe bawn i'n gallu chwerthin ar orchymyn a heb gymhelliad mi wnawn i hynny rşan, er mwyn profi i chi ei fod o'n bosib.

Pe bawn i wedi aros gyda nhw yn ystod y rhyfel ei hun, fe fydden ni i gyd yn wynebu'r un arfau, yn bwyta'r un bwyd, yn rhannu'r un teimladau o ofn, rhyddhad, diflastod a rhwystredigaeth.

Pan ddaeth yn amser i ni fynd allan i'r iard, daeth nifer o fechgyn o'm hamgylch, fel yn y bore, gan ddangos diddordeb ynof, fel pe bawn yn fod o ryw fyd arall, a dechreusant fy herio fel o'r blaen.

Yn amser y Diwygiad, mewn sgwrs a Pitar Wilias, un o wyr amlwg y pentra, ynglyn a chrefydd, fe ddwedodd Rondol wrtho, 'Dwi ddim yn ama na fedrwn i arwain fy hun i ymuno a'r Bedyddwyr pe bawn i'n gwybod y cawn i drochfa mewn cwrw' 'A finna' meddai Begw.

(Pe bawn i yn anghywir, buasai Mr Hulse wedi sgrifennu i gywiro'r gwall: ni wnaeth hynny, felly mae'n rhaid fy mod i'n iawn.)

Byddwn yn wirion iawn, yn wir, byddwn ni yn wirion iawn, pe bawn ni'n anwybyddu eu cynghorion.

Yn hardd a galluog ond heb un ffrind a allai fod wedi trafferthu digon i gyflawni'r ffafr syml o'i chadw'n fyw..." "Paid." "...All siarad o nawr hyd Ddydd y Farn newid dim ar y ffaith mod i wedi'i lladd hi, cyn sicred a phe bawn i wedi suddo cyllell ynddi a throi'n llafn yn y clwyf." "Roeddwn i'n amau.

Ond hyd heddiw yr wyf yn ei theimlo'n anfantais na bawn wedi cael cwrs coleg cyflawn mewn athroniaeth oherwydd yr wyf yn ofnus iawn o hyd wrth drafod syniadau athronyddol...

Dywedodd wrthyf y credai y câi ei hiacha/ u pe bawn i yn ei bendithio.

Yn union fel pe bawn i heb roi'r cyngor hwn i mi fy hunan!

Go wantan oedd fy ngafael ar y Gymraeg, ac felly hyd yn oed pe bawn wedi awyddu dilyn y - gwasanaeth yn ddefosiynol, 'fedrwn i ddim, am fod iaith y bregeth a'r weddi a'r llithiau y tu hwnt i'm hamgyffred fel rheol.

Mae arna i ofn y byddwn i'n twyllo fy hunan yn llwyr pe bawn yn esgus bod adroddiad Cymraeg ar orsaf deledu leiafrifol wedi agor y ffin i'r Palestiniaid.

o na bawn i fel Efe, ac etc.).

Ond yr oedd fy myd i'n troi fel pe bawn mewn roced ffair, a phrofiadau'n stribedu trwy f'ymennydd fel moch wedi rhusio ar draws ei gilydd: 'O!

"Dyma fi, fan hyn." Trodd y ddau ar unwaith, yn union fel pe bawn yn eu tywys yn bypedau wrth linyn.

'Pe bawn i'n gwybod beth oeddech chi ishe, baswn wedi dod â'r batris hefyd.' Hebddyn nhw, nid oedd modd defnyddio'r camera i wylio'r tâpiau.

Pe bawn i'n mynd fyddai dim rhaid i mi feddwl am fwyd, a doedd beth bynnag oedd yn gymorth yn y frwydr fythol yn erbyn ennill pwysau ddim yn ddrwg i gyd.

Na, nid at lawer o bobl ddieithr eu hiaith ac anodd eu lleferydd, a thithau heb ddeall eu geiriau; yn wir, pe bawn wedi dy anfon atynt hwy, byddent yn gwrando arnat.

Fe faswn i'n bod yn anonest pe na bawn i'n cyfadde ei fod yn cael effaith arna i fel pawb arall yng Nghymru.

Pe bawn yn gwybod y diwrnod hwnnw nad oedd yn codi ei blentyn i siarad Cymraeg, er ei fod ef ei hun yn weindigo ar eglwys Gymraeg, 'rwy'n siŵr y buaswn wedi dweud wrtho na fyddai dyfodol iddi pe bai pawb yn gwneud fel efe.

Fydda'i ddim yn swnio fel pe bawn yn busnesu wedyn." Troes Breiddyn wrth godi o'i sedd, a'm gweld.

Yn fy ngalar a'm hiraeth, gwyddwn pe bawn yn medru derbyn marw fy nyweddi heb deimlo'n anfodlon a heb chwerwi, y byddwn wedi datblygu'n ysbrydol.

Pe bawn wedi aros yn y bwthyn gyda mam a Rachel, buaswn wedi gweld dwy'n ymgolli'n ddagreuol a melys yn eu hatgofion a chlywed canmol gerddi Y Plas gyda'i lawntiau'n dawnsio yn lliwiau porffor ac aur tanbaid canhwyllau'r forwyn.

Yr oedd yn gwmniwr diddan a byddai'n dda gennyf pe bawn wedi cofnodi llawer o'r pethau diddorol, ac yn wir hanesyddol bwysig a adroddai wrthyf am y teulu ac am fy hen ardal.

Beth bynnag, dyma gyrraedd Llanfairfechan, ac roedd y lle mor ddiarth i mi â phe bawn i wedi glanio yn China.

Bobol bach, fel pe bawn i'n ofni'r twllwch!

Nawr, pe bawn i wedi oedi i ddarllen y print mân ar yr amserlen yn Euston, buaswn wedi gweld fod angen newid i drên arafach yn Crewe.

Cyn derbyn y fendith ar gyfer y ferch a ddioddefai gan Salwch Still, dywedodd Bryn Roberts wrthyf y byddai o help i'r ferch dderbyn iachâd pe bawn yn ceisio ei gweld yn fy nychymyg eisoes yn iach ac yn llawen.