Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bechod

bechod

Braint ac addysg oedd darllen ei sylwadau treiddgar yn y Western Mail yn dilyn yr Eisteddfod -- bechod na fyddent wedi eu cyhoeddi cyn yr W^yl; efallai y gallen ni fod wedi osgoi llawer iawn o helbul.

Nid yw'r agwedd broffwydol bob amser yn gwneud cyfiawnder â'r gwirionedd fod gan bechod allu na all dyn ohono'i ei hun ei drechu.

Yr ydych wedi rhoddi i lawr athrawiaeth ddogmatic bendant nad oes yr un rhithyn o braw iddi - na ellir llenyddiaeth fawr heb fod y syniad o bechod yn cael lle mawr yn y credo...

Ni all anogaethau i wneud daioni, nac addewidion am faddeuant Duw fyth fod yn ddigon i buro dyn o'i bechod.

Y Cyflawniad Ysgrythurol: Byddai'r dehongliad o farw Crist fel aberth dros bechod yn annealladwy onibai am aferion a disgwyliadau Israel yn yr Hen Destament.

dylem barchu ein hetifeddiaeth a gwneud yn fawr o bechod.

Yn gynta', fod Aled wedi'i eni'n artist, ac y byddai'n bechod i chi na neb arall gladdu'r dalent sydd gynno fo.

Yn ychwanegol at y ddau brif syniad hyn am bechod ac iawn, y mae yna ddarnau unigol o fewn i'r Hen Destament sy'n dangos yn eu ffordd eu hunain ddirnadaeth unigryw o'r agwedd hon ar berthynas Duw a dyn.

Mae Morgan Pelagiws, y mynach o'r bumed ganrif, wedi'n perswadio'n ddidrafferth y gallwn fyw heb addoli a heb ofidio am bechod na cheisio gras a maddeuant.

Yn ôl y Parchedig James Morgan, Rheithor Talgarth, roedd beichiogrwydd cyn priodas yn gyffredin iawn, ac nid ystyrid hyn yn bechod.

Felly mae'n bosib ystyried bod anffyddlondeb a diffyg teyrngarwch yr anghredadun i'r un yr addawodd rannu ei fywyd ag ef/hi yn gyfryw bechod ag i fod yn sail diddymu'r briodas, yn gymaint ag y byddai godineb.

Er gwaethaf y gwahaniaeth pwyslais rhwng traddodiad y Dwyrain Uniongred, â'i sôn mynych am lygredigaeth a marwolaeth, â'r Gorllewin Catholig â'i sôn yntau am bechod ac euogrwydd, 'roedd yr eglwys gynnar yn un yn ei dealltwriaeth o weinidogaeth Crist fel aberth drud a offrymwyd i Dduw er mwyn cyflawni iachawdwriaeth dyn.

Trwy ymuniaethu â dyn a chymryd arnoi'i hun holl etifeddiaeth ei bechod a'i gondemniad, cyflawnodd Crist waredigaeth gostus a barodd ei gymodi â Duw.

Effaith colli'r ymwybod o bechod yw Moderniaeth Cristnogol, ac oblegid hynny y mae'n ffiaidd gen i.

Dadansoddiad oer, gwyddonol bron, o bechod a gafwyd yn honno, heb awgrym o foesoli ar ei chyfyl o gwbl.

Mewn cymhariaeth y mae'r pwyslais proffwydol ar gyfiawnder cymdeithasol a diwygiad moesol yn ymddangos yn fwy perthnasol i fywyd ysbrydol yr unigolyn a'i gymdeithas, ac y mae'r syniad proffwydol am bechod yn ymddangos ar y dechrau yn fwy derbyniol i'r deall.

Os bydd dyn cyfiawn yn troi oddi wrth gyfiawnder ac yn gwneud drwg, a minnau wedi rhoi rhwystr o'i flaen, bydd hwnnw farw; am na rybuddiaist ef, bydd farw am ei bechod, ac ni chofir y pethau cyfiawn a wnaeth; ond byddaf yn ceisio iawn gennyt ti am ei waed.

Bechod na faswn i'n eu nabod i gyd.

b Tarddu o'r ferf 'gorchuddio' neu 'sychu ymaith' a wna kpr (a'r ffurfiau yn deillio ohono: kippêr, kophêr, kaphâr etc.) a chyfeiriai at ddefod aberthu er mwyn symud ymaith bechod: 'Offryma bob dydd fustach yn aberth dros bechod, i wneud cymod' (Ex.

Credai Saunders Lewis fod 'ymwybod o bechod' yn angenrheidiol i lenyddiaeth.

Wedi iti orffen hyn, gorwedd ar dy ochr dde, a charia bechod tŷ Jwda; yr wyf wedi pennu ar dy gyfer ddeugain o ddyddiau, sef diwrnod am bob blwyddyn.

Ond os byddi wedi rhybuddio'r drygionus, ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni ac o'i ffordd ddrygionus, bydd ef yn marw am ei bechod, ond byddi di wedi dy arbed dy hunan.

Sut bynnag y disgrifir ffrwythau'r iawn, boed fel iachawdwriaeth, gwaredigaeth, prynedigaeth, cyfiawnhad neu gymod, fe'i seilir ar aberth Crist, Mab Duw, dros bechod dyn.

Y mae'n synied am bechod fel petai wedi ei ragarfaethu, ac y mae'r ateb a gynigir yn ymddangos yn ddewis arwynebol o hawdd o'i gymharu â'r ufudd-dod llwyr y mae Duw yn ei hawlio.

(Da was da ffyddlon - a bechod).

un sydd wedi ei brofi ym mhob peth, yn yr un modd â ni, ac eto heb bechod' (Heb.

Na gwastraff ar amsar gwerthfawr, yn ymylu ar bechod oedd chwaraeon i'r hen bobol." A dyna ni'n dau yn ymroi i gyd-fwynhau orig o atgofion maboed cyn i Gruff orfod troi am adref.

Roedd Mam wedi fy nysgu bod ymladd yn bechod.

Pan ddywedaf wrth y drygionus, , a thithau heb ei rybuddio a heb lefaru wrtho i'w droi o'i ffordd ddrygionus er mwyn iddo fyw, bydd y dyn drwg hwnnw farw am ei bechod, a byddaf yn ceisio iawn gennyt ti am ei waed.

Daethpwyd i esbonio marwolaeth Crist fel y weithred lle cymerodd Duw bechod ac euogrwydd dyn arno'i hun ym mherson y Mab.

Cofiodd am bechod gwraig Lot, a chwarddodd.

Yna gorwedd ar dy ochr chwith, a gosodaf bechod tŷ Israel arnat; byddi'n cario eu pechod am nifer y dyddiau y byddi'n gorwedd ar dy ochr.

'Be sy'n bechod?'

Hwyrach fod pob gwastraff yn ymddangos yn fwy o bechod i Gardi nag i neb arall, ac mae angen esbonio o ble y daeth y syniad fod yn rhaid prynu llyfrau Cymraeg wrth y cannoedd, ac mai llyfrau Saesneg yn unig oedd angen eu prynu bob yn dri neu ddeg ar y mwyaf!