Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bedoli

bedoli

A phopeth yn barod, ni fyddai'r gof fawr o dro cyn gorffen ei waith o bedoli'r ceffyl.

Eto gellir tybied y rhagorai rhai ohonynt ar eraill yn y grefft o bedoli; meddyliaf am David Evans Tregaron, John Jones Tynreithyn, Ellis Edwards Ystrad Meurig, Ben Lewis Aberystwyth, a Griffith Jenkins Cribyn (yr hwn a enillodd am bedoli yn y Sioe Frenhinol).

Weithiau fe wnâi'r gof rimyn yn y bedol fel y byddai'r hoelen bedoli yn mynd o'r golwg yn y rhimyn Ar ôl ffitio'r pedolau, a hwythau yn barod,- fe roddai'r gof hwynt yn y gasgen ddŵr a oedd yn yr efail; fe'u gosodai hwynt ar ymyl y blwch pedoli, lle yr oedd yno yr hoelion yn barod mewn lle arbennig, y rhasp a'r morthwyl pedoli hefyd.