Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

beiddgar

beiddgar

CEMAES - ARWYR NORMANDY: Dewiswyd traeth Cemaes yn un o'r ychydig drwy Gymru i fod yn fan cyfarfod i gofio am y glanio beiddgar hwnnw yn Normandy hanner can mlynedd yn ol.

Mewn chwiniciad roedd gohebydd teledu o'r Unol Daleithiau wedi gweiddi arno - `Mr President can you confirm that the talks are going well?' Roedd pawb arall yn ddiolchgar fod o leia un beiddgar yn ein plith ni.

Mae Cassie'n awyddus i greu calendr tebyg i un beiddgar y WI, ac mae hi'n un o'r cynta i wirfoddoli i ymddangos yn noethlymun (bron!) yn y calendr.

Ceir ynddi rai darnau beiddgar iawn.

Casgliad newydd o storiau byrion gan "awdur gwreiddiol a beiddgar".

Dau ddarlun cyferbyniol a beiddgar.

Rhyfeddach fyth i dipyn o synig a oedd i raddau y tu allan i bethau oedd gweld cefnogwyr gweithredu uniongyrchol yn barnu mai cyflwyno a chadarnhau cynnig ffurfiol mewn Cynhadledd Flynyddol oedd y cam beiddgar cyntaf y dylent ei gymryd.

Oherwydd ei fod yn drwm ei glyw byddai'r mwyaf beiddgar yn ein plith yn manteisio ar y ffaith honno er mwyn difyrru ein cyfoedion mwy llywaeth - ond roedd yn hanfodol gwneud yn siwr eich bod yn eistedd yng nghefn y dosbarth cyn cymryd cam mor ddewr a herfeiddiol!

Yn Lloegr hefyd, tua diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg, codasai'r diwygiwr beiddgar hwnnw, John Wyclif, a mynnu bod mwy o awdurdod yn perthyn i'r Beibl fel Gair Duw nag i'r Eglwys a'r holl Gynghorau.

Edrychwch draw ac fe welwch lle y rhuthrodd ysgrifbin beiddgar y gŵr hunan-hyderus i recordio i'r oesau ei fawredd ei hun, na recordiwyd mohono yn unman arall.

Eto cynlluniai fodd i ymddial a dianc, ac nid oedd y moddion amryfal a'u cynigiai eu hunain iddo yn amhosibl i'w ddychymyg beiddgar.

Dysgodd gywiro gynnau, a daeth hyn yn rhan bwysig a diddorol o'i waith: gweithio morthwylion i hen ynnau deuddeg bôr a defnyddio pinnau i sicrhau gynnau oedd yn rhy sigledig i hyd yn oed y Bedwin mwyaf beiddgar fentro eu tanio.

Cyfrannodd syniadau beiddgar at gynnau'r chwyldroadau yn America a Ffrainc ac yr oedd rhai o'r rheini'n hynod feirniadol o Gristionogaeth.

Canfu'r bardd y dyluniad beiddgar hwn 'yn fap o Gymru a ymddangosai fel petai wedi hoelio at ei gilydd ddarnau o ddefnydd amrywiol, darnau o bren haenog wedi'u peintio neu ddarnau o fwrdd wedi'u gorchuddio gan frethyn.