Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

beidiodd

beidiodd

Yna, fe beidiodd y gwynt ac ymddangosodd yr haul.

Ar ôl 1536 fe beidiodd y syniad o Gymru'n genedl, yn undod hanesyddol, â bod yn atgof na delfryd na ffaith.

.' Toc, fe beidiodd y sisialu rhyfedd o'r tu ôl, ac wele'r meddyg a'i stethosgop yn ochrgamu gan ymddangos o'r tu blaen imi.

Wedi gadael Berlin fe beidiodd i raddau helaeth ag ymgymryd ag unrhyw weithgaredd gwleidyddol ac felly nid oes ganddo syniad lle i droi am gymorth a chyngor pan mae'r angen yn codi.

Eithr pan beidiodd yr ergydion, clywodd lais merch yn sgrechian a dychrynu cymaint nes iddi redeg i ffenestr yr ystafell ffrynt rhag ofn bod rhywun o'r drws nesaf wedi cael damwain.

Cawsom gawod neu ddwy go drom o eira ar ôl te ac mae wedi rhewi yn galed dan draed, a phan beidiodd y cawodydd yr oedd yr awyr yn glir ac yn oer.

Yr eiliad nesaf fflachiodd llygad y Cripil unwaith yn rhagor yn fflam y tân a phan beidiodd y llewyrch meddai, "Fe enir mab arall i'r arglwydd Gruffudd ond nid da gormod o feibion 'chwaith rhag bod ymrafael rhyngddynt." "Gwell gormod na dim," oedd sylw cwta yr Ymennydd Mawr.