Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

beirniadu

beirniadu

Yn ystod y beirniadu yn Yr Aelwyd, cafwyd amser hynod o ddiddorol yn gwrando ar Joyce Jones yn son am wneud sampleri ac yn arddangos ei gwaith.

Yn yr un cyfnod, aeth Morris Williams, perchen Gwasg Gee ers rhyw flwyddyn ar y pryd, yn aelod o gyngor Bwrdeistref Dinbych; a gallodd roi gwybod am ei lwyddiant i'r Tri yn eu carchar, drwy lunio stori fer am lwyddiant y Blaid Ddirwestol mewn etholiad yn Nhretomos (Tomos Gee, wrth gwrs) a'i hanfon i'r Eisteddfod Genedlaethol i'w beirniadu gan DJ Williams, yntau wedi cael caniatâd yr awdurdodau i feirniadu o'r carchar.

Nid un athroniaeth genedlaethol sydd, ond lleng, a'r cwbl y ceisir ei wneud yn yr ysgrif hon ydyw braslunio rhai ohonynt, ac egluro a beirniadu rhywfaint.

Ni allwn lai na chofio am y tro hwnnw y bu+m i'n beirniadu'r adrodd yn 'steddfod Llangadog slawer dydd.

Gellir beirniadu'r pwyllgor am hynny; ar y llaw arall yr oedd gweiddi am ffurflenni am fod cefnogwyr yn awyddus i ddechrau casglu enwau.

Beirniadu'n llym heb arlliw cydymdeimlad yw ei swydd, tra geill trasiedi neu 'gomedi', fel y'i diffinnir gan Dante neu Balzac, gynnwys bywyd yn ei amrywiaeth dihysbydd, ei feirniadu yr un mor llym ac eto anwesu dyn yn ei drueni.

Hyd yn oed yn y cyfnod cynnar hwn, yr oedd ganddi ddigon o hyder i allu beirniadu'r beirniad.

Yn ei haraith Jiwbili, y Frenhines, yn anuniongyrchol, yn beirniadu cenedlaetholdeb yng Nghymru a'r Alban.

Mewn cystadleuaeth wan ni chafodd Isaled, Cynddylan a Hawen ond pedair pryddest i'w beirniadu a phenderfynwyd mai Glanffrwd oedd wedi rhagori ar lapio'r hen gysuron o gwmpas yr iaith.

Bu'r Frenhines ei hun yma yn 1955 a phe bai aelod o'r staff wedi meiddio beirniadu'r ymweliad fe fyddai wedi colli ei swydd yn y fan ar lle.

Cymerwyd yn ganiataol, mae'n debyg, mai ar sail bwriad yr awdur y dylid beirniadu'r nofel.

Wrth i'r Bwrdd gyhoeddi y byddan nhw'n dosbarthu drafft o ganllawiau iaith yn yr Hydref, fe gawson nhw'u beirniadu gan Eleri Carrog o'r mudiad Cefn am lusgo'u traed.

Ac hyd yn oed pan nad oedd pobl flaengar yn derbyn y beirniadu cignoeth ar yr Eglwys, yr oeddent yn rhannu'r ymosodiadau ar y drefn gymdeithasol.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr William Hague wedi beirniadu cynlluniau i gynnwys miloedd o filwyr Prydeinig fel rhan o lu ymateb cyflym Ewropeaidd.

Gan mai ymwelydd dros dro yn unig oeddwn i, fentrwn i ddim beirniadu cyflwyr yr economi yn yr Undeb Sofietaidd, oni bai fod y bobl hwythau'n teimlo mor ddig yn ei gylch erbyn hyn.

Nid beirniadu emyn, ond ei ganmol, oedd dweud ei fod yn ddefnyddiol.

Yn anffodus, mae'r agwedd benagored yn swnio'n betrusgar ansicr, ac yn debyg o gael ei beirniadu oherwydd ei hanwadalwch.

Ac yn hytrach na beirniadu Cymdeithas yr Iaith yn agored, roedd yn haws datgan rhyw bethau ysgubol fel hyn gan gymryd arnynt eu bod yn cymryd agwedd bositif.

Ar ben hynny, yr oedd tri aelod o'r hen do, Beirdd Newydd diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif, yn beirniadu.

Un llawfeddyg dewr sy'n beirniadu'r system hwn o 'dâl am wasanaeth' yw George Crile.

Ac mae Cyfeillion y Ddaear a Chyngor Diogelu Cymru Wledig hefyd wedi beirniadu'r cynllun adnewyddu am nad yw yn cynnwys unrhyw waith insiwleiddio a bod y tai yn colli cymeriad oherwydd y defnydd o pebl dash a ffenestri plastig gwyn.

Ei gariad et ei genedl a ysgogai'r Athro W J Gruffydd ei beirniadu mor llym ar brydiau, ac un o'r peryglon mwyaf i'r iaith yn ei dyb ef oedd agwedd ragrithiol rhai o'i gyd-genedl ati.

Fyddech chi'n ei beirniadu nhw?

Mae rhai pobl yn beirniadu'r rhieni hyn yn llym, heb sylweddoli baich y cariad y bu'n rhaid iddyn nhw ei aberthu, rhag i'w plant farw o newyn.

Bu'n beirniadu cystadleuaeth y Gadair bron bob blwyddyn o droad y ganrif hyd at ei farwolaeth ym 1929, a cheisiodd arwain y canu caeth o'r diffeithwch yr oedd ynddo ar y pryd.

Mae Thomas Wiliems yntau yn beirniadu 'scolheicion y prifyscolion Rydychen a Chaer Grawnt' oherwydd eu dibristod.

Mae Cynghorwr Llafur o Sir Gaerfyrddin wedi gwrthwynebu beirniadu Quangos Torïaidd.

Synhwyrir mai'r hyn a olyga yw nad â chanonau moesol y dylid beirniadu darn o lenyddiaeth, er mae'n siwr yr honnai hefyd na ellir ysgaru llenyddiaeth yn llwyr oddi wrth adrannau eraill bywyd.

Mae'r rhai hynny sy'n beirniadu gwyddonwyr yn ddigon parod i fanteisio ar y moethau a'r gwasanaethau a ddaeth i'w rhan o'r cyfeiriad hwn.

Teimlwn fod raid achub ei gam, gan fod ambell un wedi beirniadu ei benodiad i'r swydd bwysig honno, ar y sail ei fod yn ddi-Gymraeg.

Storiau bach digon diniwed - rhai ohonynt wedi eu dyfeisio gan y deudwr fyddai'r storiau hyn, a'r gweinidog bron bob amser fyddai yn beirniadu.

Am ein bod ni'n genedl fach, mae'n wir, ond hefyd am fod cymaint o gystadlu wedi bod yn ein gwythienna' ni 'rioed fel bod beirniadu bellach yn nhoriad ein bogail ni.

Araith Saesneg, yn sôn am Don John of Austria at the bartle of Lepanto, yw'r unig un yr wy'n ei chofio a oedd yn beirniadu'r cynnig.

Wrth grwydro'r wlad yn beirniadu gwyliau drama rwy'n gweld rhai gwendidau eglur yn y drefn bresennol.

Wrth gwrs, mae'n bosibl beirniadu'r teipoleg hwn.