Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

beirniadwyd

beirniadwyd

Beirniadwyd yr ysgolion yn arbennig gan Symons yn yr Adroddiad ar Frycheiniog, Maesyfed a Cheredigion am eu diffyg sylw i hyfforddiant moesol a oedd, yn ei farn ef, mor hanfodol yng Nghymru.

Beirniadwyd y ddisgyblaeth allanol yma yn aml am iddi fod yn 'allanol', a hefyd am ei bod yn rhwystro'r economi rhag rhuthro ymlaen i gyrraedd rhyw nod dymunol o dyfiant.

Beirniadwyd y tîm hyfforddi am ddewis Stephens yn gapten.

Fyddai gennych chi fawr ddim ar ôl." Yn ddiweddar beirniadwyd y llywodraeth yn hallt am geisio mygu mesur oedd wedi ei gyflwyno i'r senedd fyddai'n rhoi mwy o hawliau i bobol anabl.

Beirniadwyd awdlau'r prifeirdd hyn yn llym gan y beirniaid.

Beirniadwyd yr athrawon yn hallt am eu hanallu i siarad Saesneg a dysgu'r iaith yn effeithiol.

Fe'u beirniadwyd yn arbennig am eu hanniweirdeb a'u llacrwydd moesau, am esgor ar blant anghyfreithlon, ac am eu hanonestrwydd, eu twyll a'u diota.

Beirniadwyd Stalin am esgeuluso un cwlwm hanfodol, sef y cwlwm diwylliannol, ac am gymysgu dau ffenomenon, "pobleictod" a chenedligrwydd.