Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

belled

belled

Wedi mynd cyn belled, tybed oedd modd troi'n ôl?

Gallai'r ysgub, meddai'r gwiddon fod yn 'beryglus yn y dwylo anghywir oherwydd y nerth sydd ynddi.' Ymddengys i'r helynt achosi cryn bryder i rai o drigolion y pentref a dywedir bod ambell un wedi mynd cyn belled â gosod y Beibl yn ffenestri eu cartrefi er mwyn dadwneud unrhyw niwed.

Wedi i'r Morfa Maiden angori yn yr harbwr aed â Catherine Edwards, a'r Capten a'i wraig, i Fwlch-y-fedwen i gael lluniaeth ac aros noson neu ddwy, ond fe gymerodd ddeuddydd arall i'r neges gyrraedd Plas Nanhoron a'r wys i Pyrs y Coetsmon fynd cyn belled â Phenmorfa i gyrchu 'i feistres.

Ceisiodd Ali ei orau i berswadio Mary i aros, gan fynd cyn belled â gwrthod i'r plant fynd gyda hi yn y gobaith y byddai hynny'n ei darbwyllo.

Os teimlodd haneswyr llên Cymru'r rheidrwydd i gydnabod, er yn betrus, ddylanwad y Trwbadwriaid ar y Rhieingerddi, mae'n siŵr y buasai haneswyr llên y Trwbadwriaid eu hunain yn barod i hawlio dylanwad y llên honno arnynt, petasent yn gwybod amdanynt hwy, oblegid un o ryfeddodau'r canu Trwbadwraidd ydyw belled y cyrhaeddodd ei ddylanwad a chyflymed.

Nid oedd dim yn y ddeddf hon i atal unrhyw un rhag symud gwrthrychau o longddrylliad hanesyddol neu achosi difrod difrifol cyn belled ag y byddai ef neu hi yn rhoi gwybod am y darganfyddiadau i'r Derbynnydd Llongddrylliadau lleol.

O'i flaen, cyn belled ag y gallai weld, ymestynnai anialwch hirfaith, heb fod yno na phren na llwyn nac afon na llyn na diferyn o ddŵr - dim o gwbl ond tywod melyn a chreigiau noeth.

Felly y bu, ac fe yrwyd yn ofalus dros Bumlumon trwy Langurig a draw cyn belled â'r Drenewydd.

Mor belled ni ohiriwyd y gêm rhwng Cymru a Ffrainc ym Mhencampwriaeth Rygbi y Chwe Gwlad sydd i'w chwarae wythnos i ddydd Sadwrn.

Mae'n rhaid ei fod o, i gyrraedd cyn belled.

(ch)Pob gwaith arolwg a ffurfio polisi%au ar gynlluniau statudol ac anstatudol megis y cynlluniau lleol a'r Cynllun Fframwaith cyn belled ag y mae angen gwneud hynny i baratoi'r cynlluniau neu'r polisi%au neu sylwadau drafft mewn ffurf derfynol i'w mabwysiadu gan y Pwyllgor er mwyn eu hargymell i'r Cyngor yn unol â (d) isod.

Fy nghyngor i'r rhieni hynny a fyn i'w brid arbennig hwy o fab afradlon fynd yn awdurdod amaethyddol yw iddynt gadw'r peth bach cyn belled ag y medrant oddi wrth bridd a baw.

Ond mor belled mae pethau wedi bod yn mynd yn bur dda i Gymru gydag Ian Woosnam yn curo Bernhard Langer a phawb yn gyfartal yn y ddwy gêm arall.

Cyn belled â ceisiadau tu allan i riniogau 'roedd y swyddog o'r farn nad oedd anghysondeb yn yr argymhellion a roddir gan swyddogion.

Gall sgarmes sydd wedi ei stopio, ail-gychwyn - mor belled a bod hynny'n digwydd o fewn pump eiliad.

Aeth cyn belled â dweud ei fod o'n reit hoff o gi oedd wedi'i ddisgyblu'n dda.

aethant cyn belled a 'r bont bont beth pe bai o wedi taro 'i ben ar un o 'r cerrig mawr 'na?

Ei brif bwrpas oedd ymarfer ei ddoniau o fewn i'r fframwaith bonheddig, a golygai hynny ysgrifennu hanes o'r math a fyddai'n cydymffurfio, cyn belled ag yr oedd modd, â gofynion ysgolheictod y dydd.

Mi fydd yn rhaid i rywun gynhyrfu'r hogia', yr hogia' fydd heb ddim i'w wneud!" "Aros ein hamser fydd raid i ni," ychwanegodd Elystan yn bwyllog, "ac wedi i'r hin gynhesu peth, mi af i â thi i lawr i'r Clas belled â'r Betws, Gwgon.

Heb ymgynghori â chig a gwaed penderfynodd Catherine Edwards yr âi hi ar ei hunion cyn belled â'r porthladd i gwrdd â'i phriod fel y byddai'n glanio yno.

(a) i'r cais am ystafelloedd ychwanegol yn y Bala a Thywyn gael ei dderbyn, cyn belled ag y byddai cyfleusterau mynediad hwylus yn cael eu cytuno.

Mewn democratiaeth, caiff y rhain eu cynnwys gan y diddordebau dominyddol cyn belled ^a'u bod yn cadw o fewn ffiniau derbyniol, ac nad ydynt yn creu bygythiad i'r drefn ddominyddol.

Yna, ryw bum canrif yn ddiweddarach, daeth ymfudiad arall ohonynt cyn belled a de-orllewin Prydain ac ymsefydlu yno.

Mi fyddan nhw'n dod yma i fynd â chdi i ffwrdd hefyd os na fyddi di'n ofalus ar y naw." Y darn o'r prom oedd yn ymestyn cyn belled â'r cwrs golff oedd y darn gafodd Joni i'w chwilio.

Wel, i orffen y stori, fe wrandawodd arnon ni'n ddigon tawel, ac fe gymrodd y 'suspension' mewn ysbryd da cyn belled ag y gallen ni weld ...

Mi fyddwn, er hynny, yn eich cymell i fynd cyn belled â'r bae nesaf un sef bae Langland, oherwydd mae'n siwr o fod yn un o'r baeau mwyaf mawreddog o'r cyfan a welir ym Mro Gþyr.

Cyn belled ag roedd y dyn yma yn y cwestiwn roedd Cymru'n mynd i gychwyn ennill geme, a hvnny mewn steil.

Cawsant eu disgrifio fel "morwyr di-ail cyn belled ag yr oedd elfennau morwrio a hwylio llongau bychain yn y cwestiwn".

Awdurdodwyd y Prif Swyddog Technegol, mewn ymgynghoriad â Chyfreithiwr y Cyngor a'r Trysorydd, i roddi caniatâd y Cyngor, fel lanlord, i unrhyw estyniad neu newid saerni%ol i eiddo dan les neu i osod arwydd ar y fath eiddo cyn belled â bod y cyfryw waith neu arwydd wedi derbyn hawl cynllunio neu, os nad oes angen y fath hawl am unrhyw reswm, nad oes gan y Prif Swyddog Cynllunio wrthwynebiad iddo.

Aeth Thomas cyn belled â phadog y cesyg magu i chwilio, ond y cwbwl a welodd yno oedd bod rheini wedi'u dychryn i ffitiau, eu llygaid yn llydan agored ac yn laddar o chwys pob un.

Ceisiwch edrych yn ddihidio, cyn belled ag y medrwch pan fo'r ci yn cnoi talpau i ffwrdd o'ch coesau.

Wrth gwrs mae posib cymhwyso pob system bonws i gymryd pethau fel hyn i ystyriaeth; a dydw i ddim yn cael trafferth o gwbwl dygymod a'r syniad o dalu i athrawon am yr hyn maen nhw'n ei gyflawni - cyn belled bod y drefn yn medru mesur yn gywir werth eu gwaith a chymryd i ystyriaeth y cratiau mawr, anhwylus.

Ym awr y pum cyfrol sydd ar y silffoedd at yr Eisteddfod eleni a chyn belled ag y mae'r fasgedaid hon o stori%au byrion yn y cwestiwn, rydyn ni'n dechrau ar ddiwedd y broses yna ac yn symud ymlaen, dybiwn i, at gyfnod gwahanol eto, cyfnod ansicr iawn ei gyfeiriad a chymysglyd ei natur.

Digwyddodd pan oernadodd y cŵn fod ffos lydan a lleidiog i'w chroesi, ac ebe Ernest wrth Harri, oblegid hwy oedd y ddau flaenaf: `Yrŵan amdani, Harri, rhaid i chi gymryd y lêd; neidiwch cyn belled ag y medrwch, achos y mae'r ffos yn llydan.' Plannodd Harri ei ysbardunau yn ei geffyl bywiog, a neidiodd ddwylath pellach nag oedd eisiau iddo, a chwympodd i'r llawr gan daflu Harri i'r ffos.

Yr argraff gynta' yw fod tebygrwydd mawr rhyngddyn nhw i gyd cyn belled ag y mae naws y yd y maen nhw'n ei ddarlunio yn y cwestiwn.

Tua chwarter i ddeg fore Sadwrn galwodd y tad yn Shop Blac a chafodd ei gario'n ôl cyn belled â'r Coffee House, yng nghanol y pentref, ym moto Thomas Williams y cariwr.

Gallai fod belled â Normandi o ran hynny ac nid oedd marwolaeth Rhys Gryg yn Llandeilo Fawr yn golygu dim i'r llafurwr yn y maes.

Eto, nid mater o seineg yn unig oedd troi at y gair 'cŵn', a daw hynny i'r amlwg yn y datganiad: 'A chyn belled â bod yr ystyr yn gefn i'r odl, ni welaf fi reswm yn y byd pam na allaf odli cŵn a sŵn'.

Fel y dywedwyd eisoes, yr oedd cysylltiadau ag Iwerddon yn mynd yn ôl o leiaf cyn belled ag Oes y Pres.

Waeth pa mor elyniaethus ac anodd yw'r amgylchedd allanol, cyn belled a bod gennych reolaeth a dewis dros eich systemau

Ond cyn belled â'm bod i a'm teulu yn y cwestiwn, mewn cyfnod o ddeng mlynedd ar hugain does neb wedi archwilio'r tþ hyd yn oed.

A chyn belled na fydd awyrennau'r gelyn felltith o gwmpas, mae rhyddid iddyn nhw gario lampau fel yn yr hen ddyddiau.

Hoffai weiddi o bennau'r tai, meddai, 'mai anaml y cyferfydd y ddwy ddawn yn yr un person.' Mewn nofel, fel gyda'r stori fer, credai Kate Roberts mai rhywbeth a ofalai amdano'i hun oedd techneg, cyn belled â bod gan yr awdur rywbeth i'w ddweud, er iddi fynnu nad oedd hynny'n caniata/ u blerwch arddull.

Twm sy'n pwyntio at yr Eifl ac yn dweud wrth ei frawd, "o ffor' acw rydan ni wedi cychwyn." Ac ar ddiwedd y nofel mae Owen yn gweld y broses yn fwy cyffredinol wrth edrych i lawr ar ei ardal o ben y mynydd: Yr oedd y tir o gwmpas lle'r eisteddai ef yn gochddu, a gwyddai Owen fod yr holl dir, cyn belled ag y gwelai ei lygaid, felly i gyd - tua chan mlynedd cyn hynny.

ac ni welwch chi braidd ddim heb law war crop yn tyfu ar hyd yr holl ffordd oddi yma i Chesterton - wyth can milltir o daith, os ydych chi yn mynd mor belled ag yno.'

Cyrraedd Dulyn ddydd Llun, trên wedyn cyn belled ag yr âi o, car mail trwy le diffaith am rai milltiroedd i bentre' bychan, a ffflôt a cheffyl oddi yno am bedair milltir eto.

Wedi dweud hyn i gyd, y mae'n amlwg ein bod ni yng Nghymru erbyn hyn wedi llwyddo i gyrraedd lefel o broffesiynol rwydd technegol sy'n ein galluogi i fentro arbrofi rhywfaint, ac sy'n mynnu ein bod yn archwilio dulliau eraill o feddwl am ffilm, rhag i ni fynd i rigol, a ninnau ond yn ein babandod cyn belled ag y mae ffilm yn y cwestiwn.

Llyfr am y 'babi' yw hwn i fod ond mae gofyn dewin i fedru gwahaniaethu rhyngddynt cyn belled ag y mae hanes y BBC ym Mangor yn y cwestiwn.

Gwelem Mekong o'r awyren fel llinell arian yn llifo drwy'r wlad; mewn rhai mannau mae'n dair milltir o led ac yn ddigon dwfn i longau o'r môr mawr i hwylio i fyny cyn belled â Phnom-Pen .

Dim ots os yw eich llyfr y peth mwyaf syrffedus dan haul o ran cynnwys - cyn belled âi fod yn lliwgar ac yn swmpus mi fydd yr adolygwyr wedi eu plesio.

Y mae'r caeau India-corn a siwgwr a reis yn ymestyn allan filltiroedd o'r pentref ei hun - yn wir, cyn belled a'r pentref nesaf.

Cyn belled ag y mae fy Nghymreictod i yn y cwestiwn, doedd hi ddim yn fater o ddiddordeb mawr i'r Indiaid ar y tren fod gan Gymru ei hiaith ei hunan.

Roedd y mor yn atyniad mawr i mi.Cerddwn y traethau a dringwn y creigiau ar fy mhen fy hunan, ie, cyn belled a Llangrannog yn y de ac Aberaeron i'r gogledd ar brydiau.

Fe fu'r frwydr hon yn un faith ac anodd, hyd yn oed cyn belled â hyn.

Aent cyn belled â chloddio ffos ac adeiladu rhagfur fel y medrent eu datgysylltu eu hunain oddi wrth aelodau eraill y llwyth.

A wir i chi , bythgofiadwy ydy'r unig air i ddisgrifio fy nhrip mor belled.

'Does dim cynllunie wrth gefn 'da ni mor belled.

Ond cyn belled ag y mae Sam Jones yn y cwestiwn stori radio yw stori Bangor.

cyn belled ag y mae'n traddodiad beth bynnag yw traddodiad, neu beth bynnag a olygir wrth sôn am draddodiad cyn belled ag y mae'n traddodiad llenyddol yn y cwestiwn, hyd at y ganrif ddiwethaf roedd traddodiad pob gwlad yn grefyddol, mwy neu lai.

Byddwn yn eich argymell i gerdded ar hyd y traeth hir cyn belled â Lavernock er mwyn gweld y modd mae'r graig Rhaetic o'r cyfnod Triasig yn gostwng yn y clogwyni i lawr i'r traeth.