Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bencampwriaeth

bencampwriaeth

Cipiodd bowlwyr Morgannwg chwech o wicedi Essex ar ddiwrnod cyntaf y gêm Bencampwriaeth ar Erddi Sophia.

Mae Kevin Keegan wedi ymbil ar gefnogwyr Lloegr i fyhafio ar ôl i UEFA fygwth taflu Lloegr allan o bencampwriaeth Euro 2000.

roedd hwn yn gyfle da i gymru ennill ei gêm gyntaf yn y bencampwriaeth gan gofio y gweir a gafodd yr alban gan y crysau duon ond gwaetha'r modd nid wyf yn gweld y tîm hwn yn eu trechu hyd yn oed ar y maes cenedlaethol ac nid yw'n rhoi bodlonrwydd o gwbl imi fod yn dweud hynny ar ddechrau blwyddyn.

Bydd Joe Calzaghe o Drecelyn yn amddiffyn ei Bencampwriaeth Pwysau Uwch-ganol y Byd am y pumed tro yn Wembley ar Awst 12.

Mae Abertawe'n chwarae Glasgow yfory - ac yn ffefrynnau cryf i ennill y Bencampwriaeth.

Un o chwaraewyr Pacistan y mae Robert Croft yn ei adnabod yn dda yw'r bowliwr cyflym Waqar Younis - oedd yn aelod allweddol o dîm Morgannwg pan enillon nhw Bencampwriaeth y Siroedd ym 1997.

Mae'r Barri yn agosau at bencampwriaeth y Cynghrair Cenedlaethol unwaith eto.

Roedd yn driphwynt pwysig arall i'r Barri yn eu hymdrech i gipio'r bencampwriaeth ond cael a chael oedd hi i dîm Peter Nicholas.

Be mae Henry am wneud yn y ddwy neu dair gêm nesa fydd paratoi am Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl Nadolig.

Bydd eu gêm gynta yn y Bencampwriaeth yn dechrau ddydd Gwener yn Northampton.

Wedi diweddu gobeithion Leyton Orient o esgyn i'r Ail Adran ddydd Sadwrn siawns nad yw Mansfield bellach wedi rhoi pen ar obeithion Caerdydd o ennill y bencampwriaeth.

Bydd pwyllgor llawn y Bencampwriaeth yn trafod y syniad yn gynnar fis nesa.

Fe enillodd Caerdydd ddydd Sadwrn dan reolaeth newydd a mae'n bwysig nawr bod nhw'n dechrau mynd am y bencampwriaeth.

Os bydd Robinson yn llwyddo i guro Baloyi, fe fydd y Cymro cynta i ennill dau bencampwriaeth byd.

Gorffennodd Phillip Price un ergyd dros y safon yn y bencampwriaeth golff yn Valderama, Sbaen.

Enillwyd y bencampwriaeth yn Harlech gan Becky Brewerton.

Y golffiwr o Bontypridd, Phil Price, enillodd Bencampwriaeth Agored Portiwgal ar gwrs Quinto do Lago yn yr Algarve.

Roedd rhediad ucha'r bencampwriaeth o fewn ei gyrraedd cyn iddo fethu coch.

Darren Clarke enillodd bencampwriaeth agored Lloegr gyda rownd olaf o 65.

Bydd siroedd y Bencampwriaeth Griced yn mynd i Lords heddiw i weld faint o arian fyddan nhw'n ei dderbyn y tymor nesaf.

Mae Morgannwg wedi enwi carfan o ddeuddeg ar gyfer eu gêm bencampwriaeth gynta fydd yn dechrau yn Northampton ddydd Gwener.

Ond yn y rownd gyn-derfynol mae'n cyfarfod y chwaraewr sydd ar dân, Ronnie O'Sullivan, sy eisoes wedi ennill dwy bencampwriaeth y tymor hwn a cholli'n y rownd derfynol mewn un arall.

BYDD Robbie Regan y bocsiwr pwysau pryf o'r Coed Duon yn ymladd David Griman am bencampwriaeth y byd yng Nghaerdydd yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Bydd Mark Williams yn chwarae Billy Snaddon yn y Bencampwriaeth Snwcer Grand Prix yn Telford y prynhawn yma.

Mae capten Morgannwg, Steve James, yn chwarae'i gem bencampwriaeth gyntaf y tymor hwn.

Ar ôl dechrau da yn eu gêm bencampwriaeth yn erbyn Sir Gaerwrangon, siomedig oedd perfformiad Morgannwg yn Sain Helen ddoe.

Rwyn siwr bod chwaraewyr gweddol dda ganddyn nhw achos maen nhw'n chwarae yn y bencampwriaeth yn Awstralia.

Hefyd 'dyw Caerhirfryn ddim wedi cael dechrau rhy dda i'r Bencampwriaeth.

Henrik Stenson o Sweden enillodd Bencampwriaeth Ryngwladol Benson & Hedges ddoe, gyda sgôr o 13 yn well na'r safon.

Manteisiodd ar anlwc Michael Schumacher gan ennill ei ail brif bencampwriaeth am y tymor.

Hyd yn oed ym mis Rhagfyr fe allai'r gêm hon fod yn hollbwysig yn y frwydr am y bencampwriaeth eleni.

Mae Morgannwg yn cychwyn tua Northampton heddiw ar gyfer eu gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth sy'n dechrau yfory.

Mae'r glaw wedi amharu ar gêm bencampwriaeth Morgannwg yn Old Trafford.

Tiger Woods enillodd Bencampwriaeth Agored Yr Unol Daleithau a hynny o bymtheg ergyd - record yn un o bedair prif gystadleuaeth y gêm.

Ond maen nhw'n dal i obeithio ennill y bencampwriaeth.

Ond yn dilyn apêl mae Maroon wedi cael caniatad i chwarae yn y bencampwriaeth.

Roedd am ddiolch yn hytrach bod Cymru wedi llwyddo i rwystro Iwerddon rhag rhannu'r bencampwriaeth â Lloegr.

Mae Lloegr ar eu ffordd adre o bencampwriaeth Euro 2000 ar ôl colli 3 - 2 yn erbyn Romania.

Pierre Fulke o Sweden enillodd Bencampwriaeth Golff Meistri Volvo yn Hereth.

Yn Mansfield neithiwr roedd Caerdydd yn gobeithio gwthio am Bencampwriaeth y Drydedd Adran - ond y tîm cartre'n diffetha'r cynlluniau hynny.