Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bendithio

bendithio

'Roedd yno rywfaint o'r hen awyrgylch bendefigaidd yn aros, a theimlem, rywsut, fod yr hen adeilad urddasol yn bendithio, ac yn estyn ei nawdd, i weithgarwch y penwythnos hwnnw.

"Fel y gŵr a'r wraig sydd â rhaglen radio'r "Extra Terrestial Radio Show% a'r seremoni yn San Francisco lle maen nhw'n bendithio tacsis unwaith y flwyddyn!"

Y foment honno gwyddwn eu bod hwy wedi dod dros y ffin i'm bendithio.

Dywedodd wrthyf y credai y câi ei hiacha/ u pe bawn i yn ei bendithio.

Duw a'u bendithio ynghyd â'u teuluoedd.

Onid oedd y Times ei hun ar ôl ymweliad â'r Albert Hall wedi bendithio llên a chân y Cymry am ei bod yn amlwg fod y Gymraeg yn ildio'n flynyddol ' ...' .

Y mae canu, moli a bendithio Duw mor naturiol i ddyn sydd yn caru IESU GRIST, ag ydyw i'r fam naturiol fawrhau, cofleidio, cusanu...ei mab cyntaf-anedig...

Byddaf yn bendithio Ellis Wynne am y sywaeth yna, er ei fod yn lawn mor anghyson â John Thomas.

A'r Nefoedd a'u bendithio, mae pobol y Rhiw yn wynias ffyrnig.