Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

benn

benn

Gwnaed Ynot Benn yn aelod o Anrhydeddus Urdd y Llwynogod pan aeth y ganolfan ar dan ddwywaith nes bod rhaid atgyweirio ac ail-adeiladu go helaeth.

O gasineb tuag at ei wraig ac o ddiffyg cwsg wrth ei hochr collodd Ynot Benn bwysau, gwelwodd ac ymgrebachodd, a heliai ei draed bob dydd i westyau a chlybiau lle cai gwmni a chydymdeimlad.

I ddangos nad oedd dim drwgdeimlad, er bod pawb yn gwybod fod, gwnaeth Affos frawd-yng-nghyfraith ei wraig yn Swyddog Cynllunio gyda'r teitl o Bennaeth ac er mai dyna'r teitl isaf yn y wlad mynnodd Ynot o hynny ymlaen gael ei alw wrth ei deitl, a phan arwyddai lythyr, swyddogol neu breifat, torrai ei enw, 'Ynot Benn.' Rhyfeddodd erioed i'r Brenin Affos gydsynio iddo briodi i mewn i'r teulu brenhinol, ond wedi'r cwbl roedd Arabrab yn ddychrynllyd o hyll, a'r blynyddoedd yn cerdded.

Pe cai Ynot Benn ei ffordd dyna derfyn am byth ar wynwyn.

Roedd Dik Siw wedi cael ambell ffafr gan Ynot Benn, oblegid adeiladydd a chontractor ydoedd Dik.

Gwyddai Ynot Benn a Dik Siw yn dda y byddai'n ben ar wynwyn yn N'Og unwaith y ceid gwared a'r Lotments.

Efallai y buasai'r llys wedi derbyn cynllun Ynot Benn ar dir economaidd.

Yn yr hen amser buasai'n hawdd: ymlid Ynot Benn a Di Siw a Cela Trams a'u bath allan o'r deyrnas.

Fedrai Ynot Benn ddim aros y dydd pan welai Affos y Brenin yn gosod carreg sylfaen y Casino Newydd a'r ddau fwldoser mwya'n y byd o bobtu iddo, yng nghanol y Lotments.

Cyn hir aeth yn helynt rhwng Ynot Benn a'i wraig, a gwyddai pawb mai ar Ynot roedd y bai am fod yn gas ganddo wynwyn.