Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bennaeth

bennaeth

Pen tua hanner awr daeth Is-Bennaeth yr ysbyty i'n gweld gan dywys dyn tynnu lluniau'r ysbyty a dynnodd lun ohono yn edrych yn bwysig gyda Kate ac yn ysgwyd llaw â mi.

Yr oedd hyn i gyd pan oedd Alun Oldfield Davies yn Rheolwr rhadlon yng Nghaerdydd a Hywel Davies twymgalon a disglair, a fu farw mor drist o gynamserol, yn Bennaeth Rhaglenni.

Ar y funud ola mae cwmni Phoenix a'i bennaeth, cyn uwchswyddog Rover, John Towers, yn cystadlu yn erbyn Alchemy.

Y mae'r arfer o enwi plant ar ôl enwogion yn gyffredin ac y mae yma dystiolaeth i'r tebygolrwydd, o leiaf, fod milwr neu bennaeth enwog o'r enw Arthur wedi blaenori'r cyfnod hwn.

A dydi'r ffaith mai Dafydd Wigley neu Ron Davies fyddai'n bennaeth ar y Quangos hynny ddim yn gwarantu y byddai'n ateb y broblem.

Hwn yn ddiddorol iawn mewn swyddfa fechan ddiymhongar a'i bennaeth, Mr JB Singh, yn siaradwr huawdl ac yn feddyliwr gwreiddiol.

Ond er na dderbyniodd o mo'r ddeiseb i'w law, does dim dwywaith na chafodd o a'i bennaeth y neges yn gwbl glir.

Y mae yntau yn bennaeth Cyfadran y Clasuron yn y Brifysgol yn Athen.

Ac y mae'n debyg mai felly y buasai wedi parhau onibai am Ynot Bennaeth.

I ddangos nad oedd dim drwgdeimlad, er bod pawb yn gwybod fod, gwnaeth Affos frawd-yng-nghyfraith ei wraig yn Swyddog Cynllunio gyda'r teitl o Bennaeth ac er mai dyna'r teitl isaf yn y wlad mynnodd Ynot o hynny ymlaen gael ei alw wrth ei deitl, a phan arwyddai lythyr, swyddogol neu breifat, torrai ei enw, 'Ynot Benn.' Rhyfeddodd erioed i'r Brenin Affos gydsynio iddo briodi i mewn i'r teulu brenhinol, ond wedi'r cwbl roedd Arabrab yn ddychrynllyd o hyll, a'r blynyddoedd yn cerdded.

Gwnaed y cyflwyniad gan bennaeth yr ysgol Mr V Lloyd Hughes a chafwyd geiriau dethol ganddo a chan rai o staff yr ysgol.

Yn union wedi ei ddyfodiad i Dyddewi, fe'i hapwyntiodd ei hun yn bennaeth yr eglwys golegol yn Llanddewi Brefi.

Dywedwyd am Iorwerth Fynglwyd ei fod yn edrych ar Fargam 'fel un o ddinasoedd noddfa'r bardd Cymraeg,' yn enwedig pan oedd yr Abad Dafydd yn bennaeth yno.

Penodi Ian MacGregor yn bennaeth y Bwrdd Glo.

Ac a wyddech chi mai Gradd Trydydd Dosbarth mewn Botani, o bopeth, ar ôl pipio ddwywaith, sydd gan Bennaeth yr Adran Moes ac Adloniant Dyrchafol a'i fod o'n hoff o godi'i fys bach, a'i wraig o, os gwelwch chi'n dda, yn drewi o ddyledion?

Mae Mrs Averina Evans yn bennaeth yr Adran Gymraeg, Ysgol Gyfun DwryFelin, Castell Nedd.

Mae John Towers, cyn-bennaeth Rover, wedi derbyn cefnogaeth swyddogion undeb y cwmni.

Yna, a Henry Lewis erbyn hyn yn bennaeth yr Adran Gymraeg yng ngoleg newydd Abertawe, gofynnodd Gruffydd iddo alw ynghyd gynrychiolwyr o'r Cymdeithasau Cymraeg.

Xia (is-bennaeth yr adran Saesneg) am ginio.

Taniwyd y wreichionen gyntaf ym Mhwll Ela/ i ger Pen-y-graig, yn y Rhondda, pan gaewyd y glowyr allan gan Gwmni'r Cambrian a'i bennaeth DA Thomas (cyn-Aelod Seneddol o Ryddfrydwr), wedi i'r dynion fynnu rhagor o arian am weithio mewn 'mannau anghyffredin'.

Llanrwst yn ystod Eisteddfod yr Urdd Mai 26 R Alun Ifans, cyn-bennaeth y BBC yn y gogledd; Rhiannon Lewis, Llywydd yr Urdd Elwyn Jones, darlledwr a chyn-drefnydd y Ceidwadwyr yn y gogledd; Nic Parri, darlledwr a chyfreithiwr.

Eisteddai yntau fel rhyw 'bennaeth mwyn' yn eu canol nhw yn sipian sudd oren ac yn rhyw hanner gwenu'n dadol.

Cafodd ei dderbyn yn bennaeth y sgwadron yn hawdd iawn wedi hynny.

Wedi iddo gymryd gwrogaeth gŵyr Cernyw ac ymagweddu'n bennaeth llys, mae gosgordd Arthur yn mentro ei adael.

Dyma hi'n cynnig coffi i bennaeth corff rhyngwladol.