Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

benthyca

benthyca

Morgais i brynu tū yw'r enghraifft amlycaf yn hanes y rhan fwyaf ohonom, ond hawdd medru dychmygu fod sawl un wedi benthyca arian i brynu car, talu am wyliau neu anfon plant i'r coleg.

Gwelwyd hefyd ddylanwad llenyddiaeth Lloegr a Ffrainc yn treiddio i'r traddodiad Cymraeg, nes bod llenorion yn benthyca naill ai destunau cyfan i'w cyfieithu a'u haddasu ar gyfer cynulleidfa newydd, neu'n codi enwau ac elfennau naratif unigol o'r ffynonellau estron, i'w hymgorffori mewn testunau cyfansawdd.

Nawr, nid moesoli yn erbyn benthyca arian yw pwrpas hyn o druth.

Mae'r raddfa hon yn amrywio yn ôl graddfeydd llog morgais ar y pryd, yn cynyddu pan fydd cost benthyca yn cynyddu, ac i'r gwrthwyneb.

Bwriad y Gronfa Gredyd yw i gynorthwyo pobl ar gyflogau isel neu sy'n dibynnu ar y wladwriaeth am gynhaliaeth, i helpu i gilydd drwy gynilo symiau bychain o arian, ac wedyn benthyca arian ar lôg isel.

Does gan llawer ohonom ddim dewis ond benthyca.

Erbyn hyn, mae nifer cynyddol o bobl yn gorfod benthyca arian, nid er mwyn cael moethau bywyd, ond er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd.

Byddem yn gwisgo tyweli a chrysau a "dressing gowns" (er bod rhein yn llawer prinnach y pryd hynny); byddem yn benthyca ffyn bugail ac yn gwneud coronau o gardbord.

Mae'n debyg fod pob copa walltog ohonom wedi gorfod benthyca ceiniog neu ddwy rywbryd yn ystod ein hoes ar gyfer rhyw ddiben neu'i gilydd.

Codir tal bychan am gael benthyca casetiau a chryno-ddisgiau.

Roedd yn dalentog o niwlog, ac yn benthyca'r rhan fwyaf o'i syniadau oddi wrth eraill.

Mynnodd rhai ysgolheigion fod awduron y Cyfandir wedi benthyca traddodiadau Celtaidd wrth gyfansoddi eu rhamantau am y ddau gariad, gan gymharu'r rhamantau hynny nid yn unig â'r deunydd prin yn y Gymraeg ond hefyd â chwedlau tebyg yn yr Wyddeleg.' Ar y llaw arall, mae dyddiad ansicr Ystorya Trystan yn ei ffurfiau presennol yn codi cwestiynau ynglŷn â phosibilrwydd dylanwad Ffrangeg ar ddatblygiad chwedl Trystan ac Esyllt yng Nghymru.

Rhan gyntaf y broses yw'r hyn a elwir yn 'côd fenthyg', sef benthyca geiriau, termau ac ystrydebau o'r iaith ddominyddol i'r iaith frodorol (sef arfer sydd wedi cael ei gondemnio'n chwyrn gan 'buryddion iaith' yng Nghymru'n ddiweddar, gyda chyflwynwyr ifainc ar y radio a'r teledu yn arbennig yn dod o dan y lach!).