Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

berchen

berchen

Wy a Dyff 'di hala ffortiwn fan hyn dros y blynydde a ma'r Karen fach 'na sy'n berchen y lle yn neud mwy byth o ffortiwn nawr.

Cyngor y Ddinas sydd berchen yr adeilad ond ymddengys bellach nad ydynt yn fodlon efo'r cynlluniau arfaethedig.

Wrth glywed curiadau cyson cacynaidd y moto beic bychan wrth iddo wasgu'r sbardun i'r pen er mwyn tynnu'r owns olaf o nerth allan ohono, hiraethai Dei am gael bod yn berchen moto beic go iawn, un ai un bychan nerthol, neu un mawr trwm a fyddai'n rhuo fel storm bell wrth wibio ar hyd y ffordd.

Fe sydd berchen ar y rhan fwyaf o ochr orllewinol Ynys Môn.

Ymysg yr enwogion a fu'n berchen y ci Cymreig, meddai McLennan, yr oedd yr Iarll Clement Attlee.

Beth bynnag, er nad yw'n fater gwleidyddol llosg heddiw, fe fu adeg pan oedd telerau tenantiaeth o dan 'landlord' yn rhai anodd; ond bellach mae'r gyfundrefn wedi newid, a'r rhan fwyaf o'r ffermwyr a'r tyddynwyr yn berchen eu lle; a chyfrifir y cynllun hwn yn un delfrydol.

Priododd yr Iarll aeres Walter Vaughan a thrwy hynny dod yn berchen llawer o dir ym Mhorth Tywyn.

Yr oedd y pryf yn y pren i'w weld yn eglur iawn i'r sawl a oedd yn berchen ar lygaid i ganfod yr effeithiau chwarter canrif yn ôl, cyn i'r Rhyfel dorri allan.

Doedd neb yn cael bod yn berchen llyfr ...

Roedd yn berchen ar ddwy ferlen a ddefnyddid fel ceffylau gwaith ar y tyddyn.

Mae'n amlwg i bawb erbyn hyn mai prif bwrpas ail dymor Thatcheraidd yw troi bob un ohonom yn Gyfalafwyr trwy werthu i ni yr hyn yr ydym yn ei berchen yn barod, e.e.

Os ydych chi eisiau gwylio S4C yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, ac rydych eisoes yn berchen ar focs a desgl SkyDigital, ffoniwch Wifren Gwylwyr S4C ar 0870 600 4141.

Mae'r Gwyddel Michael O'Leary sy'n berchen ar gwmni Ryanair wedi agor swyddfa yn Charleroi sydd tua 40 km y tu allan i Frwsel ac mae bargeinion diri i'w cael.

FODD BYNNAG nad yw'r drwydded hon ddim yn mennu ar berchnogaeth unrhyw hawlfreintiau na hawliau eraill o eiddo trydydd partion yn y Gwaith a chydnebydd a chytuna'r Cynhyrchydd nad yw'r drwydded a roddir yn unol â'r cytundeb hwn ddim yn rhoddi na chynnwys nac yn honni rhoddi na chynnwys unrhyw drwydded na chaniatâd ar ran unrhyw berchennog hawlfraint nac unrhyw berchen hawliau eraill yn y Gwaith i ddefnyddio atgynhyrchu neu gorffori y Gwaith yn y Rhaglen na hawl na thrwydded na chaniatâd i ddosbarthu nac arddangos y Rhaglen.

Tegla Davies oedd y cyfodai rhywun ieuanc â 'chynddaredd sanctaidd' yn ei enaid, yn berchen ar weledigaeth gliriach nag a gafodd ei genhedlaeth ef ei hun.

Dywedir i Gadog fod yn berchen ar ddarn o dir ar lan yr afon Liffey, yr afon y gorwedd Brên drosti er mwyn ffurfio pont i'w wŷr.

.' 'Rhan-berchen, gyda Mam.' Cododd ei ysgwyddau.

'Roedd Mr William Williams Tyddyn Callod, yn berchen ar fflyd o gychod rhwyfo a chanws.

Y drefn arferol, felly, yw bod pobl Libya yn cael caniatâd i fod yn berchen ar eu tai a'u ceir - ar yr amod nad ydyn nhw'n dwyn ffrwyth llafur pobl eraill.

Y mae llifeiriannau-iâ hefyd wedi gadael eu hôl yn arbennig yng nghyffuniau Pegwn y Dê sy'n golygu i Fawrth, ar un cyfnod o leiaf, fod yn berchen ar gapanpegynol a ledaenai hyd at ledred o gryn ddeugain gradd.

Y rhieni yn berchen bws sy'n mynd i Shenzhen unwiath yr wythnos.

Mae'r pen tref fel arfer yn berchen ar lynnoedd.

Roedd yn well gan y mwyafrif ohonom ni fodloni ar sylweddoli fod pennaeth y Politburo hyd yn oed yn berchen ar dipyn o hiwmor!

A fi sy' berchen y Deri.