Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

berchennog

berchennog

Cyd-berchennog GBA Construction a Phwll Bach.

Roedd Richard Owen yn ddyn gweithgar a darbodus, ac yn berchennog ar amryw o dai yn y plwyf.

Cyd-berchennog siop y pentre.

Tybed na 'welai' y bardd hefyd y caledi a'r dioddef oedd ynghlwm wrth y llafurio am gyflog bychan, i chwarelwr, ac elw mawr, i berchennog?

'Fe wnes i ddarllen yn rhywle mai pwy bynnag sydd yn dod o hyd i drysor fydd ei berchennog wedyn.

Os gwerthir car fu'n eiddo i berson enwog, llwyddiannus neu gyfoethog, bydd pobl yn heidio i brynu'r car yn y gobaith y caiff lwc y cyn-berchennog ei drosglwyddo i'r perchennog newydd gyda'r cerbyd.

'Nabododd William Huws berchennog y llais nesa' a phenderfynodd roi gordd arno.

Mae'r stori yn un hyfryd a chlasurol - un seml iawn am Tedi'n mynd ar bicnic efo'i berchennog, Lili.

Un bore, heb geiniog yn ei phwrs i brynu bwyd, penderfynodd ofyn i berchennog siop fratiau am waith.

Ym myd rasio milgwn mae'n gred yng nghymoedd y de fod anifail â marc gwyn ar ei dalcen yn siŵr o fod yn anifail lwcus iawn i'w berchennog.

FODD BYNNAG nad yw'r drwydded hon ddim yn mennu ar berchnogaeth unrhyw hawlfreintiau na hawliau eraill o eiddo trydydd partion yn y Gwaith a chydnebydd a chytuna'r Cynhyrchydd nad yw'r drwydded a roddir yn unol â'r cytundeb hwn ddim yn rhoddi na chynnwys nac yn honni rhoddi na chynnwys unrhyw drwydded na chaniatâd ar ran unrhyw berchennog hawlfraint nac unrhyw berchen hawliau eraill yn y Gwaith i ddefnyddio atgynhyrchu neu gorffori y Gwaith yn y Rhaglen na hawl na thrwydded na chaniatâd i ddosbarthu nac arddangos y Rhaglen.

Roedd gan ei pherchenogion hi, teulu Davies Porthaethwy, o leiaf deg llong, llongau mawr yn y cyfnod hwn, ar yr un fordaith, i gyd yn cludo cannoedd o deithwyr a nwyddau, ac ar draws y Fenai yng Nghaernarfon, roedd cartref John Owen, Ty Coch un o feibion teulu Rhuddgaer, Mon yntau'n berchennog ar longau a hwyliai i Ogledd America ac Awstralia.Ceir rhywfaint o'u hanes hwy yn y bennod nesaf.

Cyd-berchennog Bragdy Cic Mul.

(ii) Anfon llythyr at berchennog y safle yn datgan siom ynglŷn â'r hyn a oedd yn digwydd ar y tir.

Yr adeg honno y cyfan a oedd yn angenrheidiol oedd llygad am dir da, a phastwn enfawr i roi'r farwol i'r sawl oedd ar y pryd yn berchennog y tir hwnnw.

Cyn-berchennog y Deri.

Mae David Bradshaw yn berchennog cwmni loriau yn Abertawe.

Cyd-berchennog Caffi'r Cwm.

Mae son bod cyn-berchennog Wimbledon, Sam Hammam yn awyddus i brynu Clwb Pêl-droed Caerdydd.

Cyn-berchennog Deryn Skips a chyd-berchennog GBA Construction.