Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bererindod

bererindod

Bob nos ers tri mis bron ar ol iddi dywyllu, ac wedi iddo ef wneud ei bererindod fach olaf i weld ymhle'r oedd y creaduriaid ac i sicrhau fod pob drws a phob giat a oedd i fod i'w gau wedi'i gau, fe eisteddai yn ei gadair.

Tynnodd ei sgrafell dros esgob Bangor a'r deon am iddynt ofni cario croes ar bererindod i Ynys Enlli heb addewid o ymbare\l a bws a thywydd braf i groesi, gan of yn yn bryfoclyd, pa fath dywydd oedd hi tybed pan gariai Iesu ei groes real, drom, ar lethrau Calfaria.

Bob blwyddyn, mi fydda i'n mynd ar ryw fath o bererindod yn ôl i weld y tŷ lle cefais fy ngeni.

Byddent yn aml yn enwi'r eglwysi a godent ar ôl y saint y buont yn ddisgyblion iddynt Ar ôl y seintiau hyn y daeth yr enwocaf o'r seintiau Cymraeg, Dewi Cymaint oedd ei glod ef fel, erbyn dechrau'r ddeuddegfed ganrif, y daethai Tŷ Ddewi yn eglwys y cyrchai iddi bererinion o bob rhan o'r wlad, ac yr oedd dwy bererindod i Dŷ Ddewi yn cael eu cyfrif o'r un gwerth ag un i Rufain.

Mae Layard, fel Jung, yn pwysleisio agweddau deublyg, amwys pethau a phobl a chreaduriaid, yn gweld y ddrysien ddeuben a dyfodd ar fedd mam fiolegol Culhwch, Goleuddydd, fel arwydd o'r hyn yr oedd yn rhaid iddo ei wynebu ac ymgodymu ag ef wrth gychwyn ar ei bererindod at oedoliaeth.