Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

berfeddion

berfeddion

I'r teithiwr dieithr a ddeuai am dro o Lundain, dyweder, i berfeddion gwlad Cymru, rhan o Loegr oedd y wlad o'i gwmpas.

Hebryngwyd y broga a'r gelen o dan wreiddiau'r wemen at risiau a grymai dan berfeddion pydredig y boncyff.

Erbyn hyn nid oedd neb yn defnyddio hen lwybr y fasnach gaethweision a redai o berfeddion Affrica i'r Aifft a thu draw.

Bant â ti, a phaid, da ti, â bod mor ddwl y tro nesa!' 'Diolch, Mr Llew,' meddai Idris yn werthfawrogol, ond cyn iddo gael cyfle i ddweud rhagor, roedd y llew eisoes ar ei ffordd, yn hanner chwerthin rhyngddo ac ef ei hun wrth ddiflannu i berfeddion coedwig gyfagos.

Er yn gyfnod pan oedd nifer o'r ychydig raglenni teledu Cymraeg oedd ar gael yn rhai pennau'n siarad - ac wedi eu halltudio i berfeddion nos ar ben hynny - yr oedd hwn hefyd yn gyfnod pan ddangoswyd rhai rhaglenni gwir ysbrydoledig.

Nid edrychai'n fygythiad i ddim ar y pryd wrth i'r perchnogion newydd balch eistedd o'i flaen am y tro cyntaf i wylio'r ceffylau yn neidio'r clwydi neu'r dawnswyr syber yn chwyrlio'u partneriaid fflownsiog ar loriau llithrig y neuaddau crand berfeddion nos.

Ta beth, i berfeddion y soffa y crwydrodd y bochdew bach er wyddem ni ddim nes inni ei glywed yn dechrau cnoi a chrafu ei ffordd allan.

Ar waelod y domen mae'r adar mân fel y robin a'r telor, ond mae rheiny yn gallu osgoi bygythion yr adar trymion wrth gymryd eu siâr o berfeddion y llwyn.

Teithiai filltiroedd a llwyddai'n rhyfeddol i gael ei gario yn y lori%au neu'r cerbydau yn aml i berfeddion Lloegr.