Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

berffaith

berffaith

Ni ddefnyddiai lein ond i gychwyn gwal neu adeilad er mwyn cael y mesur a'r sylfaen--a dyna hi wedyn; dibynnai'n gyfangwbl ar ei Iygad a synnwyr bawd a byddai pob gwal yn berffaith union.

Mae prif thema La Queste a Perlesvaus yn sylfaenol debyg, ac yn sawru o Gristnogaeth asetig: er mai marchogion llys Arthur yw'r gorau yn y byd, mae eu diffygion moesol yn eu rhwystro rhag cyflawni'r gamp uchaf oll a chanfod y Greal; cedwir y fraint arberlnig honno i farchog ysbrydol a moesol berffaith, sef Persifal (cefnder cyfandirol Peredur y traddodiad Cymreig) yn Perlesvaus, a Galaad neu Galaath (sy'n fwy cyfarwydd bellach fel Galahad), arwr newydd sbon a ddyfeisiwyd yn arbennig ar gyfer y dasg yn La Queste.

Gydag amseru mor berffaith, 'doedd dim perygl iddi fethu â chael y maen i'r wal.

'Esgusodwch fi, Mister Arlywydd,' meddai un arall o'r cynorthwywyr dan ei anadl, 'ond Mrs Thatcher yw'r ddynes hon, ac nid Mrs Gandhi.' Fe wn i hynny'n iawn,' meddai Brezhnev yn ddiamynedd, 'ond Croeso i'r Undeb Sofietaidd, Mrs Gandhi yw'r geiriau sy wedi eu sgrifennu ar y darn papur yma o'm blaen i.' Mae'r stori yn ddameg berffaith o'r hyn y mae'r bobl yn ei farnu a aeth o'i le yn hanes yr Undeb Sofietaidd.

Gallwn aros yno am hydion yn berffaith fodlon ar fy myd.

Pan oedd neb o gwmpas, mi'r oedd pethau'n go dawel, er yn amal mi fyddai 'na ryw gnofa eiriol rhwng y ddau, ond y tro yma roedd y cydddealltwriaeth mor berffaith a chrefydd y Piwritaniaid, ac roedd 'na obaith am lasiad yn y fargen, 'dach chi'n gweld.

Fe fydd yna andros o lanast, ond dyna ddiwedd y Coraniaid hefyd, a fyddi di a dy bobl ddim gwaeth." "Wyt ti'n siŵr?" "Yn berffaith siŵr.

Tebyg ei fod wedi siarad lawer tro am y fangre berffaith gyda'i gydysgolhaig Erasmus.

Unwaith yn rhagor, mae'n berffaith amlwg i'r rhai sydd wrthi'n brwydro mewn cymunedau Cymraeg fod y cyfan yn gallu bod yn faich dychrynllyd.

Ymddangosai pamffledyn Ieuan Gwynedd fel amddiffyniad wedi ei amseru'n berffaith i ateb ymosodiadau'r Dirprwywyr ar gymeriad y Cymry: 'Pe buasai yr Awdur yn gwybod pob gair a gynwysai yn adroddiad y Dirprwywyr', meddai'r Diwygiwr ym mis Ionawr, 'ni ysgrifenasai well ateb i'w cabldraethau ar wlad ei enedigaeth.

Ond mi ydw i'n cofio'r lle'n berffaith rşan, o g-gof yr hogyn wnes i fwydo arno fo 'chydig yn ol: roedd o wedi bod yno g-gyda'i rieni.

Doedd dim diben dweud na allai'r un joci ar wyneb daear ofalu bod pob ceffyl yn neidio'n berffaith bob tro ac yn enwedig hen gythraul croes a oedd wedi ei ddysgu'n wael.

Rydyn ni'n chwilio am y ffilm fydd yn cyfateb i anghenion ein breuddwydion, y ffilm berffaith.

Waeth imi fod yn berffaith onest a chyfaddef fy mod i wedi methu perfformiad Hitchcock ar ddechrau'r Ddawns Ryng-golegol yn Aberystwyth y penwythnos diwethaf ond yn sicr mi oeddwn i'n bresennol pan gamodd Chouchen i'r llwyfan.

Rwan, mae'n bosib, medden nhw, i'r Cynulliad wrthod unrhyw gais i blannu hadau GM yng Nghymru os nad ydyn nhw'n berffaith hapus nad ydy hyn yn mynd i achosi difrod i'r amgylchedd.

Roedd ganddi lais alto gyda'r gorau glywsoch chi erioed a byddai yn berffaith "ar y nodyn" bob amser.

Ond, rwy'n berffaith siwr o un peth : mae ffraethineb Lloyd y Cwm wedi aros yn y cof lawer yn hwy nag aml i bregeth a glywais na chynt na chwedyn.

yn ei hystad berffaith Wele ei phlu a'i hadenydd claer Yn llumanau'r Goleuni

Gall recordydd fideo recordio'r sain yn ogystal â'r llun, fel bo'r lluniau a'r siarad neu'r effeithiau sain yn cydamseru'n berffaith.

O drefnu taith yn ofalus ac amseru pethau'n berffaith, fe fyddai modd cael `gorau deufyd' - lluniau rhesi di-ddiwedd o feddau, o dorwyr beddau wrthi'n claddu'r meirw, o blant a'u rhieni'n gorweddian rhwng byw a marw, a'r lluniau cynta' o wynebau gwynion yn cyrraedd gyda'r lori%au i adfer gobaith.

Dywedodd ef yn syml fod y cefndir wedi ei osod yn berffaith ar gyfer ymadawiad Arthur.

Cododd hyn awydd ar y trigolion i agor yr arch, ac fe gawsant bod corff Ann Parry yn berffaith ddilwgr.

John Williams: 'Yr ydym ninnau yn berffaith sicr, fy nghyfeillion, ein bod wedi cychwyn y gwaith yma ar orchymyn y Meistr!' Dywedodd fod yna rai am iddynt gwtogi'r apêl i hanner can mil gan gredu bod siawns iddynt gyrraedd y swm hwnnw, ond dywedodd y Parch.

Ond a ydyw unrhyw Baradwys yn hollol berffaith?

Yr oedd ci llwynog bach o gwmpas ac meddai John yn llawn athrylith am anifeiliaid: "Mi 'rwyt ti'n berffaith iach, y baw, mae dy hen nosi di'n reit oer." A byddai'r plant yn teimlo trwyn pob ci ar ôl hyn os byddai rhyw arwydd o salwch arno i weld a fyddai ei "nosi yn oer." A minnau wedi dechrau sôn am John Preis daw llawer hanesyn i'r cof am ei ymweliadau mynych â ni.

Cafodd ddalen o Destament Groeg ar ffordd Pen y Foel, a phenderfynodd ddysgu yr iaith honno, a gwnaeth hynny i raddau lled berffaith.

Gwir y gair, roedd pawb yn perthyn i bawb, ond ches i ddim munud o drafferth, chwarae teg John Jones, Bron Aber, wedyn, y bugail, a phencampwr y treialon cŵn defaid, ynte'n dweud - 'Pobl y mynydd ydyn ni' roedd hynny'n berffaith wir, ond doedd dim o oerfel y mynydd yn perthyn iddyn nhw chwaith - cynhesrwydd ges i ar bob llaw.

Mae persarniaeth ôl glasurol yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol yn berffaith i naws gythryblus y stori.

Ar un olwg roedd yn enghraifft berffaith o'r darlun ystrydebol o'r artist yn ei nenfwd - yn ei achos ef, llofft ŷd ym Mynydd Mwyn - er na fuasai ef ei hun, mae'n wir, yn derbyn y ddelwedd honno.

Wedyn cefais fynd i ddinas a oedd gryn bellter o'r lle yr arhoswn a chefais swper efo boneddiges oedd â'i Chymraeg yn berffaith.

Ond fel pob cyfaill dydi CySill ychwaith ddim yn berffaith.

Yr oedd yr asbri hwn yn cynganeddu'n berffaith ag angerdd efengylu William Wroth ei hun.

Ni chawsant amser i sylwi ar ychwaneg oherwydd roedd y dyn, yn amlwg yn teimlo ei hun yn berffaith ddiogel yn y fan honno, wedi goleuo ei dorts.

Y mae hyn yn wir ac yn berffaith naturiol.

Ond doedd o ddim yn berffaith siwr.

Y gamp yw ffurfio'r gair hiraf posibl o'r saith llythyren, ac wrth gwrs mae'n rhaid i'r gair fod yn air iawn a'r sillafu'n berffaith gywir.

Roedd canlyniad y fath dlodi, a'r diffyg preifatrwydd neu lendid a ddeilliai ohono, ac effaith hynny ar foesau'r bobl, yn berffaith amlwg i Symons.

Nid fod y gwely hwnnw'n berffaith, oherwydd gan ei fod yn bren gwnâi gartref di-ail i bryfed bychain braidd yn debyg i foch coed.

'Rwy'n cofio edmygu ei dawn i blygu popeth, ac wedi i mi ei phriodi, 'rwy'n dal i edmygu'r ddawn arbennig hon o ofalu am bob dernyn o ddillad a'i blygu'n berffaith.

A dyma'r trydydd chwythiad ar y biwgl yn dweud fod pob twll wedi 'mynd allan', a'i bod yn berffaith ddiogel i bawb fynd yn ôl at eu gwaith, a mawr yw'r cerdded o gwmpas y domen gerrig a ddaeth i lawr, a'r ddau greigiwr â'u golwg at i fyny o'r lle y daeth y cerrig, i edrych a yw hi'n ddiogel i'r dynion fynd yno i weithio.

Yr unig reswm y medra i feddwl pam y bu'r beirniaid cyhyd yn cyrraedd y llwyfan i gyhoeddi rhywbeth oedd yn amlwg i bawb yn Neuadd Dewi Sant oedd ei fod am sicrhau y byddai pob sill o'i Gymraeg yn berffaith.

Roedd Lingen yn berffaith fodlon cydnabod gorchest ryfeddol yr ysgol Sul.

'Dyw'r adeiladwaith, falle, ddim yn berffaith ond mae'n gam cywir a rwyn gobeithio nawr y bydd safon y gêm yng Nghymru yn codi.

'Mae gêm Stevens fwy neu lai yn berffaith,' meddai Hendry.

Synnwyd staff yr Antur gan eu gallu i greu basgedi bendigedig o bob siâp a maint yn llawn o flodau sychion, a hynny mewn lliwiau sy'n asio'n berffaith.

Ydi Derec yn y tŷ?' Pan awn i at y ffôn, clywai fi'n berffaith.

"Yn un o'i ffrindiau?" "Mr Rees," meddai Snowt, "gedwch imi fod yn berffaith onest efo chi.

Roedd yn berffaith sicr mai job i berson ac nid i blisman oedd hon.

Os ydych chi wedi cael llond bol ar y straeon rhamant bondigrybwyll a'r straeon ditectif bondigrybyllaf yna dyma'r nofel berffaith i chi.

Ond roedd pob un yn berffaith lonydd, fel delw garreg.

Ond mae hyn yn enghraifft berffaith o'r angen i ymateb i'r her a chreu trefniadau cadarnhaol newydd i alluogi ysgolion pentref i gyflawni eu gorchwylion yn effeithiol.

Gweithgarwch a oedd yn cynganeddu'n berffaith â'i dalentau oedd cynnal dosbarthiadau nos.

Ond fe fyddai'n berffaith ymarferol i chi roi 'pencil bookings' i ni.

Wn i ddim pa sail oedd gynnon ni dros ddweud hyn ond roedden ni i gyd yn berffaith sicr fod yna ysbryd yn y tŷ brics coch.

Wrth gwrs, roedd hi'n berffaith amlwg pam oedd Arglwydd Nant Conwy a'r arglwydd Prys Edwards yn cymryd y safbwynt hwn -- gan mai nhw bellach yw'r sefydliad Cymreig.