Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

berllan

berllan

Cafodd Cyfres Cae Berllan, sef cyfres o storïau byrion, eu sgwennu mewn ymgynghoriad ag arbenigwr iaith ar gyfer plant sy'n dechrau darllen.

A'r bore wedyn ar ôl codi, dilynodd hi o gwmpas yr ardd ac yna i fyny'r berllan.

Cynyddai'r cynnwrf a'r siom ynddi a chododd yn sydyn a gwisgo'i gwn werdd gynnes, anrheg pen blwydd ei thad iddi, a mynd allan i'r berllan gan gerdded yn gyffrous rhwng y coed, 'nôl a mlaen ar hyd ac o gwmpas y llyn pysgod am hanner awr gyfan gan fwmian iddi ei hun: 'Hannah ddim yn deall .

Roedd hi newydd fod am dro yn y berllan gan sylwi gyda phleser fod y coed ffrwythau'n llawn blodau - argoel y byddai yna gnwd da yn yr hydref.

Er i mi weld Coch y Berllan lawer tro cyn hynny, doeddwn i 'rioed wedi bod mor agos ac yntau yn ei liwiau mwyaf llachar.

Yna pan gafodd hyd i ben y trywydd aeth fel y gwynt i fyny'r berllan, a'r Llewod yn ei ddilyn.

Wrth i Iolo grwydro y tu allan i'r llys, mae'n sylwi ar y berllan, y winllan a'r parciau ar gyfer ceirw a chwningod.

Coeden weddol fechan yw hon ond gwna iawn am ei diffyg maint trwy fod yn llawn o aeron cochion yn yr hydref - arlwy hyfryd i'r Aderyn Du, y Drudwy, Coch y Berllan a'r Fronfraith.

Pwyntiodd yn araf at frigyn oedd o fewn dwy lathen i ni, a dyna lle roedd ceiliog Coch y Berllan yn sefyll yn ei holl ogoniant.

COCH Y BERLLAN - Ffrwythau egroes TITW TOMOS LAS - Mwyar duon COCH DAN ADAIN - Afalau TELOR PENDDU - Eirin Ysgaw

Does yna ddim lori sbwriel yn dod yn agos i'r berllan yma.

"Nid neithiwr y gosodwyd y trap cawell yma yn y berllan, ond rhai nosweithiau cynt.

Mwy o straeon am anifeiliaid Cae Berllan.

Dyna pam roedd wedi gosod y cawell yn y berllan mor agos i'r tŷ.

'Lawer gwaith fe fues i eisie gweld yr Afal Aur, ond fe fethais yn deg â dod o hyd i'r llwybr drwy'r berllan.

"Mae'r trap yn y berllan ers dyddiau, er ein bod ni ddim wedi digwydd ei weld.