Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bersonoliaeth

bersonoliaeth

A'r rheolwr oedd y bersonoliaeth rydd na allai dderbyn unrhyw awdurdod uwch na hi ei hunan.

Ochr yn ochr â hynny dechreuwyd ymwrthod â'r ddysgeidiaeth glasurol Gristionogol am effeithiau trychinebus pechod ar y bersonoliaeth ddynol.

Mae ei gyfraniad wedi bod yn fwy na'r hyn oedd yn digwydd ar y cae, oherwydd ei bersonoliaeth a'i ddylanwad ar ei gyd chwaraewyr.

Nid oedd ganddo fawr o ddiddordeb mewn un bersonoliaeth ddynol, heblaw wrth gwrs am Rachel gynt, a hynny ond am un cyfnod byr.

Diffygiodd ei gorff yn araf yn y nawdegau, ond ni wanychwyd ei bersonoliaeth serchog.

Ynddi hi, craidd y bersonoliaeth, y mae'r ysgogiad sy'n llywodraethu ein hymwneud â'r holl arweddau amrywiol ar y bydysawd.

Y mae rhagdybiau ein meddwl a'n gweithredu'n ysgogiadau sylfaenol iawn oherwydd y maent yn gwreiddio yn ngogwydd y galon, yng nghraidd y bersonoliaeth.

Ond mwy rhyfeddod yw'r bersonoliaeth gymhleth -þ ddireidus, ddifrif, ofnus, feiddgar, fyfyriol, weithgar - a dreuliodd ddyddiau a nosau ei blynyddoedd "er mwyn Cymru%.

Os yw meddwl, teimlo ac ewyllysio i'w hesbonio, fel cylchdro'r planedau, yn ôl deddfau haearnaidd y method gwyddonol, yna ofer sôn am bersonoliaeth rydd.

Ac i Williams yr hyn sy'n cyfareddu pobl yw nid yn gymaint egwyddorion Iesu Grist, nid ei weithredoedd ym Mhalesteina gynt, nid hyd yn oed hawddgarwch ei bersonoliaeth ddynol.

Mae yma duedd i fewnoli Siôn fel gweddau ar bersonoliaeth ei dad, ei galon, ei fryd, ei nerth, ac yn uchafbwynt ar y cwbl, ei fabolaeth.

"Ma'ch traed bach hi fel llyffantod." Dechreuodd Laura Elin oglais gwadn troed dde Jeremeia Hughes, yr unig fan gwantan yn ei holl bersonoliaeth, ac aeth y gŵr piwis i ffit aflywodraethus o chwerthin.

drist i'w bersonoliaeth.

Unwaith y byddwch yn cyfarfod â'r ci bychan gyda'r bersonoliaeth fawr ar dudalennau llyfr, wnaiff dim y tro nes y byddwch wedi'i gyfarfod wyneb yn wyneb, galon wrth galon.

O dipyn i beth gorseddwyd yr argyhoeddiad deublyg fod Natur yn gyfundrefn fecanyddol yn gweithio yn ôl ei deddfau mewnol ei hunan a bod y bersonoliaeth ddynol, trwy ymarfer ei gallu i ddadansoddi ac ymresymu, yn gallu olrhain ac esbonio'r deddfau hynny a'u defnyddio i reoli byd Natur.

Oherwydd wedi'r holl siarad, y dylanwad sy'n para, ac mewn rhyw ffordd gyfrin, mae'r dylanwad yn ffurfio cymeriad dyn, yn rhoi iddo argyhoeddiadau ac yn bathu ei bersonoliaeth.

Ymddengys i mi mai rhyw angen seicolegol ynddo oedd hyn, rhyw nodwedd ar ei bersonoliaeth.

Heb ei Olwen ni all Culhwch fod yn gyflawn; os â hi'n drech nag ef, yna fe wyrdroir ei bersonoliaeth.

Beth am y bersonoliaeth ddynol ei hun?

Yn un peth, y mae'r bersonoliaeth gyfan yn ymhlyg ymhob gwaith a wnawn.

Os oedd y method gwyddonol yr unig ffordd ddilys i sicrhau gwybodaeth am bob gwedd ar y bydysawd, onid oedd yn dilyn fod y bersonoliaeth hithau i'w hesbonio wrth yr un method?

Yn yr act gyntaf, cawsom gipolwg sydyn ar bersonoliaeth a bywyd bregus ac ansicr Anna wrth iddi lowcio'r gin a galw ei chwaer yn bopeth o "bitch" i'r "hen ast".

Mae hyn yn llwyddo i sicrhau agosrwydd sgwrsiol, yn lladd pob ffurfioldeb oer ac yn tyllu i sylfeini'r bersonoliaeth unigol.

Ni fedrai ond llenor gymysgu mor gyfrwys holl ddysg Ysgol Hanes Rhydychen ad addysg yr Ysgol Sur a blodau ac adar ac arwyr a'r un bersonoliaeth ryfedd yn eu cynnwys oll ac yn ei mynegi ei hun trwyddynt.

Roedd y gwrthgyferbyniadau hyn i gyd yno ond o fewn i un bersonoliaeth gron, gyfan.

Hyn hefyd a greodd y rhwyg yn enaid y Cymro cyfoes, yr ysgariad rhwng y bersonoliaeth sy'n ymhyfrydu yn ei rhyddid, yn gwatwar hen safonau moesol a chonfensiynau cymdeithasol y gorffennol, ac eto'n byw mewn byd wedi ei reoli gan ddeddfau diwrthdro lle mae'n hawdd credu gyda'r astrolegwyr fod ein tynged yn dibynnu ar gylchdro'r sêr a chyfosodiad eu cysawdau ac nid ar ras Duw - Duw sydd bellach wedi ei garcharu yng nghelloedd cyfrin ein profiad preifat personol.

A fydd yn mygu'r bersonoliaeth bigog wrt ddechrau mynd i'r afael â'i waith?

A phrotest oedd hi yn enw'r bersonoliaeth rydd.

Ei bersonoliaeth yn gorlifo, personoliaeth fel corwynt.

Y mae tradyrchafu un gynneddf, dyweder y gynneddf ddadansoddol, ar draul anwybyddu'r lleill, yn golygu gwneud cam mawr â chyfoeth y bersonoliaeth.

Roedd y tyddyn wedi meddiannu ei bersonoliaeth ac o ganlyniad nid oedd yn gallu meddwl amdano'i hun fel etifedd ei gyndadau:

Mewn ugeiniau o ffilmiau, ef yw'r Frankenstein sydd yng ngrym ei athrylith wyddonol a'i bersonoliaeth rydd yn creu anghenfil na all ei reoli.

Yr Ysbryd, fe gredai'r Diwygwyr, sy'n cymhwyso gwaith achubol Crist at bersonoliaeth dyn.

Felly, peidiodd yr ymchwilydd gwyddonol â bod yn bechadur ac aethpwyd i fawrygu'r bersonoliaeth sofran a rhydd a allai astudio byd Natur heb gyfeirio at Dduw na dim o'r athrawiaethau nodweddiadol Gristionogol.