Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

berwi

berwi

Aeth hi ag ef i'r gegin a gellir dychmygu syndod y gŵr parchus, ac yn wir ei sioc, pan ddangosodd y wraig iddo y gwydr deuben a ddefnyddir i amseru berwi wy - ond un mwy lawer na hynny - yn llawn o lwch llwyd.

Wnâi hi ddim, achos mi oedd hi wrthi'n gosod y cinio allan, a berwi'r dŵr i 'neud te, ac mi oeddan ni'n awchu am fwyd erbyn hynny hefyd.

Rhaid oedd berwi'r dŵr nes ei fod wedi anweddu i hanner ei faint gwreiddiol, yna rhoddid pwys o fêl i bob dwy alwyn o'r hylif a'i adael i fragu.

blyb bara llefrith yn dechrau berwi yntê, a mi fydd yr hen gath i'w chlywed yn stwyrian yn y dail.

Roeddent yn arogleuo mor llethol ag alcohol yn berwi dan flanced.

Wrth eistedd yno ar fy mhen fy hun, cefais amser i sadio, fel pe bai'r cynhyrfiadau a fu'n berwi o'm mewn yn gwaelodi.

"Cwyd dy galon...ma'r môr yn berwi o bysgod.'

Wrth weld 'y fath olwg ddiafolaidd anifeilaidd' ar ei thad, teimlai Winni fel 'ei lindagu a gwasgu ei gnawd nes byddai yn sitrws fel tatws drwg wedi eu berwi i foch' (Haul a Drycin).

A gwradnwch beth arall - tydy pib wedi'i berwi'n dda i ddim.

Ni feddyliai tylwyth y Buganda am fwyta dim ond Matoke, math o fanana sydd ar ôl eu berwi yn edrych fel rwdan.

Berwi betys sy'n arferol gennym ni.

Dydy pysan wedi'i berwi yn dda i ddim mewn pib.

I wneud te betys o'r dail, maler yn fân tua dwy gwpanaid o'r dail eu rhoi mewn sosban efo wyth cwpanaid o ddŵr a berwi am un munud.

Ffoniodd cymydog atom ni'r meddygon yn y dref Gwyddai hwnnw fod Bob yn gorfod gwrando ar ei frawd yn griddfan ddydd a nos, a bod ei gorff yn berwi o chwys drwy'r amser.

Mae'n berwi ar dymheredd uchel iawn, mae ei gynhwysedd gwres ymdoddi a'i gynhwysedd gwres anweddu yn uchel iawn, a hefyd ei gysonyn deuelectrig.

Gwr byrgoes a boliog ryfeddol oedd y rheithor, un a chanddo wyneb llyfndew, gwritgoch â llygaid gleision yn berwi o ddireidi.

Yn groes i hynny, os ewch ymlaen bymtheg tudalen fe gewch eich cymell i wrando ar un o areithiau mwyaf grymus, a mwyaf dyfynadwy, y Bardd o Stratford, mor huawdl nes ei bod yn berwi drosodd chwarter y ffordd i lawr y tudalen nesaf.

Gosododd rhyw 'awdurdod' neu'i gilydd fastiau dur anolygus yn enw cyfathrebu ar y Rhiw, ac y mae nifer y man feysydd carafannau wedi cynyddu fel pa bai 'Byclins' yn berwi drosodd wrth i ffermwyr sylweddoli fod carafan wen a Saeson brych yn llai o drafferth ac yn fwy proffidiol na defaid a gwartheg.

Daw hyn â ni at un o nodweddion mwyaf cyffrous Llanfaches yn y dyddiau cynnar - yr asbri efengylu a oedd yn berwi yno.

Cofiodd iddi hi glywed ymadroddion fel 'Môr yn berwi' a 'Creigiau'n hollti' gan mai canu am ddydd mawr y farn a wnaent.

Mae wyau yn hylif ar dymheredd arferol ac wrth ichwi eu twymo trwy eu berwi neu eu ffrio maent yn troi yn solid.

Ond, bydd mam yn galw arnaf i bob amser a'r cwbl fydda' i'n 'neud fydd gwneud sŵn fel bara llefrith yn berwi.

'Mae 'ngwaed i'n berwi wrth 'u gweld nhw,' meddai Elen drwy'i dannedd.

Ac yn yr Unol Daleithiau defnyddir betys mewn pob math o gyfuniadau: betys efo oren, betys efo afal, betys ar dôst efo pennog ac wyau wedi eu berwi'n galed; betys mewn iogurt efo cennin syfi, sinamon a nytmeg - i enwi dim ond rhai.

Bwtyai nhw, ar ryw ffurf neu'i gilydd, gyda phob pryd; gyda'i facn i frecwast, a'i gig i'w ginio, ar dafell i'w de ac mewn salad i'w swper; yn falurion yn ei gawl, yn sudd yn ei saws, yn stibedi o gylch ei gaws; wedi eu berwi a'u ffrio a'u stwnsio a'u stwffio.

Dim nwy yn y gegin; felly methu berwi dwr i'w yfed ychwaith.