Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

beryg

beryg

Yn wir i chi, mae llawer o'r rhain yn fwy o beryg ar y lôn na'r plant maen nhw'n eu hebrwng ar draws y ffordd.

Ar ben hynny 'roedd o'n beryg' bywyd.

Mae'n rhaid i bawb edrych ar bob math o beryg.

Yn wir, cyfunwch nhw efo gwleidyddion ac maen nhw'n beryg bywyd.

Roedd y lifft gadair nesa' ar ei ffordd i fyny ac yn beryg o agos i mi.

Yn ystod y dyddia' hynny 'roedd hi'n beryg' bywyd, onid oeddech wedi cael swydd yn rhywle, i chi gael eich galw i wasanaethu'ch 'gwlad a'ch cyntri', ys dywedai Jac Llainsibols ac erbyn i mi gyrraedd adre' yr oedd llythyr oddi wrth y Frenhines yn fy aros yn estyn croeso cynnes i mi ymddangos o'u blaena' nhw yn Wrecsam 'na!

Dyma orchwyl beryg iawn.

Ar y naill law does yna ddim amheuaeth fod taflu poteli yn rhywbeth plentynaidd ac eithriadol o beryg ond, ar y llaw arall, gellid dadlau fod canu'n Saesneg o flaen cannoedd o fyfyrwyr Cymraeg yn gofyn am helynt.

Ond mae yna anghytuno ymhlith ffermwyr wrth i nifer leisio eu barn fod y dip OP yn beryg i iechyd y ffermwyr.

Ni wn faint o beryg oedd ynddynt, ond ddaeth y Germans ddim i Lanfaethlu.

Ac yntaun newydd i'r ardal efallai nad yw Chris Bryant yn sylweddoli peth mor beryg oedd hyn.

Yn honno, yr agosa' y mae'r rhan fwya' o newyddiadurwyr yn mynd at beryg' personol yw yfed gormod o gin ac mae dyfais a dychymyg lawn mor bwysig â ffeithiau, wrth iddyn nhw ei jolihoetian hi'n garismatig o le i le.

Nos Sadwrn dwaetha' roedd hi'n tynnu at un ar ddeg ac yn tywallt y glaw; dyma gnocio mawr ar y drws.' 'Agoroch chi o, Francis?' 'Dim diawl o beryg.'

Dilema'r diwylliant lleiafrifol yw ei fod mewn cymaint o beryg cael ei ddifodi, fel bod raid i'w gynheiliaid gyfaddawdu rhywfaint trwy greu sylfaen o ddeunydd cydymffurfiol 'er mwyn cadw'r iaith yn fyw' cyn y gall fforddio lleiafswm o ddeunydd cwestiyngar anghydffurfiol sy'n mynd i wneud yr iaith yn werht byw trwyddi.