Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

berygl

berygl

Diogelwch Os gwelwch yn dda rhowch wybod i'r cynorthwy-ydd labordy (neu un o'r tiwtoriaid) pan fyddwch yn defnyddio'r labordai a pheidiwch a gweithio yno ar eich pen eich hun os oes unrhyw berygl yn debygol o godi o'ch gwaith.

Roedd - - yn gweld sefyllfa o'r fath yn berygl o ran tegwch i'r cynhyrchydd.

Ond da chi, peidiwch â mentro i defnyddio eu meddyginiaethau gan fod amryw ohonynt yn berygl ar y naw i ddyn ac anifail!

O wybod am drywydd barddoniaeth ddiweddarach Peate, mae gwirioneddol berygl inni gael ein llygad-dynnu'n ormodol gan ddiwinyddiaeth led-fodernaidd y darn.

Canys y mae hefyd wir berygl i hynny frysio lladd cenedlaetholdeb Cymreig.

Teimlai'n hyderus yng nghylch y twnnel, heb feddwl y byddai llawer o berygl mewn mentro drwyddo.

ond cofiwch, os ydych chi mewn unrhyw berygl fe fydd rhaid ichi gysylltu â fi ar unwaith.

Prif amddiffyniad cwningod rhag eu gelynion yw eu chwimder a'r ffaith eu bod yn rhybuddio'i gilydd o berygl trwy guro'r ddaear â'u traed a thrwy ddangos y gwyn dan y gynffon wrth ddianc am ddiogelwch.

Yn ogystal â chofnodi damwain mae lawn bwysiced bod staff yn cofnodi digwyddiad a fu bron ag achosi damwain neu berygl fel y gall y Gymdeithas ddelio â'r mater a helpu i rwystro aelod arall o'r staff rhag cael niwed.

Os cedwir llyfrau costio ar wahân, y mae'n bwysig eu bod yn cael eu cysoni â'r llyfrau ariannol; oni wneir hyn, y mae yna berygl i gamgymeriadau lithro i mewn.

Dêm Fira Lyn, os da y cofiwch, a ganai'n bersain am y glas adar a ehedai dros wyn elltydd Dover pan oedd y Wlad yma mewn dirfawr berygl o gael ei goresgyn gan estroniaid oerwaed o wlad arall ddrwg.

Er gwaethaf ei fywiogrwydd dechreuai'r cylchgrawn lithro i rigol unfrydedd a gwir berygl iddo fynd yn 'ddiogel'.

Mantais trefniant o'r fath yw hybu cydweithrediad, ond y berygl amlwg yw ei bod yn haws cau un 'safle' o ysgol nac i gau ysgol gyfan.

Ac fel y mae pobol yr AA neu'r RAC yn eich rhybuddio am beryglon ar ffordd, felly y gallech rybuddio pobol fod yna berygl iddynt gwrdd â'i Harglwydd ar ambell ffordd, fel yr un i i Emaus, neu'r ffordd honno yr âi yr eunuch arni yn ôl i Ethiopia.

Os defnyddir potel dwr poeth i dwymo'r gwely fe ddylid rhoi'r gorau i'r blanced drydan, oblegid gall y ddau gyda'i gilydd fod yn beryglus (a chysgu arnynt yn berygl ychwanegol).

Roedd - - yn poeni fod comisiynydd yn berygl o golli ei statws di-duedd wrth gymryd gwaith uwch-gynhyrchydd.

Er mai gwirion iawn fyddai dadlau nad oes yna unrhyw berygl yn deillio o'r defnydd a wneir o'r fath belydriad, dylid tanlinellu'r ffaith fod yna ochr arall i'r stori.

Ni ddylid bychanu'r elfen ffodus yma, ond mae yna berygl i ambell un dderbyn y darlun arwynebol heb gadw mewn golwg mai crynodeb hwylus sydd gennym.

Nesaf at berygl rhyfel rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin barnaf mai cenedlaetholdeb yw'r perygl mwyaf sy'n wynebu dyn ar hyn o bryd.

Gwahaniaeth arall ynddynt rhagor yr ysgyfarnog 'Gymreig' yw'r ffaith fod eu tiriogaeth yn eang iawn a'u bod yn symud gyda'i gilydd o un gymdogaeth i gymdogaeth arall o flaen storm neu berygl.