Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

beryglus

beryglus

Gallai'r ysgub, meddai'r gwiddon fod yn 'beryglus yn y dwylo anghywir oherwydd y nerth sydd ynddi.' Ymddengys i'r helynt achosi cryn bryder i rai o drigolion y pentref a dywedir bod ambell un wedi mynd cyn belled â gosod y Beibl yn ffenestri eu cartrefi er mwyn dadwneud unrhyw niwed.

Roedd dringo lawr yn beryglus iawn.

Yn wir, pan awgrymwyd bod y fasnach yn rhy beryglus ac y dylid ei hatal, dywedodd Thomas Grey, ysgrifennydd cynorthwyol i'r Bwrdd Masnach, "Credaf nad 'peryglus' yw'r gair cywir.

Haeddai sylw ysgafn atebiad ysgafn bob amser, ac yr oedd rhywbeth cyffrous-beryglus mewn chwarae deufel lafar gyda gwrthwynebydd mor finiog a chwim ei feddwl â Hywel Vaughan.

Mae'r rhan fwyaf o asidau'n ddiniwed, ond mae rhai mae rhai yn beryglus iawn.

Roedd toi rhai o'r tai yn cael eu chwalu, y drysau a'r ffenestri'n clecian ac, yn wir, roedd hi'n rhy beryglus i bobol fynd allan ar adegau rhag ofn i'r gwynt eu cipio.

Bu'r traffig trwm drwy'r pentref, yn enwedig yn yr haf yn bryder mawr i'r trigolion, ac yn beryglus iawn lawer tro.

Mae rhai o'r 'atebion' a gynigir yn beryglus iawn i ddyfodol cymunedau.

Dim ond yr adeg yna y sylweddolais pa mor beryglus oedd Beirut.

Edrychai'r Gors Las yn welw iawn yn ei llewyrch, yn welw ac yn beryglus - yn ddigon peryglus i unrhyw un gredu iddi lyncu hofrennydd mawr i'w chrombil i ddiflannu am byth yn ei llysnafedd gwyrdd ac yn ei mwd melyn.

Os yw gyrru car ar y ffordd yn beryglus, cymaint mwy felly yw rasio ceir yn broffesiynol.

fydd hynny ddim mor beryglus â gwaith betty.

Gan ei bod yn byw mewn oes mor beryglus mae'n bwysig inni wybod sut i gadw ein cartrefi a'n hunain yn ddiogel.

Mae te (chai) yn hollbresennol, diolch am hynny, oherwydd mae'n rhaid yfed rhywbeth, ac mae dŵr yn beryglus.

Os defnyddir potel dwr poeth i dwymo'r gwely fe ddylid rhoi'r gorau i'r blanced drydan, oblegid gall y ddau gyda'i gilydd fod yn beryglus (a chysgu arnynt yn berygl ychwanegol).

Mi fydd yna lawer o Aelodau Seneddol - gyda mwyafrifoedd baychain - yn edrych yn betrusgar iawn ar y ffigurau hynny ac mi fyddan nhw'n beryglus iawn os fyddan nhw'n teimlo dan fygythiad.

Gall y rhain fod yn beryglus i gerddwyr ar y palmant.

Er iddo wadu'r cydraddoldeb sydd yn ymhlyg yn nysgeidiaeth Crist cam dybryd a gafodd y meddyliwr gonest hwn pan drodd y Natsiaid ei gred yn yr Uwchddyn i'w melin afiach eu hunain: yn y bon, ei orchfygu ei hun yw camp Uwchddyn Nietzsche a byw'n beryglus yn y meddwl, gan gefnu ar deganau gwael y dorf.

Mae eu gwrthwynebwyr heno, yr Iwcrain, wedi dangos yng Nghaerdydd eu bod nhw'n dîm hynod beryglus.

'...A'r polîs yn dweud ei fod yn beryglus dros ben,' ebe Tudur gan godi ar ei draed yn frysiog a dechrau llenwi gweddill y twll â'r pridd a'r tyweirch.

Yn achlysurol byddai angen symud darn mawr o graig neu glogvyn ohenvydd ei fod yn rhy beryglus i'r dynion weithio odano, neu am ei fod yn rhwystr i ddatblygiad y ponciau.

Mewn rhai diwylliannau roedd neidio dros ysgub yn gallu bod yn beryglus.

Tra oedd y disgyblion yn dyfalu beth i'w wneud, ac yn amau doethineb y bwriad i ddychwelyd ar y daith beryglus i Fethania peryglus am fod yr awdurdodau yn ceisio dal yr Iesu a'i ladd Tomos oedd yr un, parod i fynd gyda'r Iesu bob cam o'r daith, parod i wynebu'r canlyniadau.

Roedd yr awdurdodau wedi dysgu bod hi'n beryglus ein cythruddo ni.

Noder ymhellach nad oedd y dyn yn helpu i wneud bwyd nac yn helpu i lanhau'r tŷ: cerdded y mynydd y mae Morgan yn 'Buddugoliaeth Alaw Jim' nid cynorthwyo'i wraig er bod Tomi'r crwt wedi bod yn beryglus o dost; mynd 'i ben y drws i synfyfyrio' y mae Wat Watcyn yn 'Diwrnod i'r Brenin,' a mynd yno i 'ddisgwyl am ei frecwast' er bod y dyddiau i gyd yn wag iddo; a beth a wna Idris yn rhan agoriadol 'Gorymdaith' ond gorwedd ar ei wely?

Mae pob arbrawf yn beryglus os caiff ei wneud yn ddifeddwl neu heb ddarllen y cyfarwyddiadau, a'u dilyn un union.

Gall llwybrau ucha'r Wyddfa fod yn beryglus ganol gaeaf ac felly yn aml iawn cadw ar y llethrau is fyddaf wrth gerdded gyda'r plant bryd hynny.

Ond ar y llaw arall gallai fod yn llaith ac yn ddrafftiog yn y gaeaf A dyna ichwi dystiolaeth fod gennyf ffydd nid ychydig yn y Wladwriaeth Les a'i darpariaeth dai, a minnau mor beryglus o agos i'm hoedran ymddeol, heb arlliw o fwthyn uncorn o dŷ haf na dim arall i droi iddo pan fydd raid troi o'r annedd steil ar ben stôl y gwelodd yr Eglwys yng Nghymru neu ddamwain hanes imi drigo ynddi nawr'.

Dan fwngial awgrymodd rhai gwyr oedd a gwragedd ifanc y dylid ei ysbaddu, ond roedd hynny'n rhy beryglus i un yn ei oedran ef ac ni allent fforddio ei golli Chwerthin am ben yr awgrym a wnaeth hynafgwyr y llwyth Y gwir oedd nad oedd yr un o'r gwragedd ifanc y daeth Hadad yn agos atynt yn ddeniadol iawn yn ei farn ef, a byddai'n rhaid iddynt hwy dalu â'u bywyd pe baent yn dangos ffafriaeth tuag ato.