Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

beudy

beudy

Cerrig o'r lle hwn a gariwyd i wneud lle tân yn Beudy Glas, Cricieth, sydd yn werth i'w weld.

Dyna pam roedd o'n sleifio i weld y fuwch dan sylw bob awr o'r dydd a'r nos ac yn sbecian trwy hollt yn nrws y beudy rhag rhishio'r fuwch.

A dyna pam yr oedd Malcym yn gorfod cario pwcedeidia o ddŵr o'r tap yn y sied ddefaid ar draws yr iard i'r camal sychedig yn y beudy.

Ac felly, cyn i'r domen ddod i'r beudy, gwell ei symud hi, ferfâd wrth ferfâd yn rhes o dociau i'r caeau.

Wedi i ddwy fuwch a dynewad a llo fod yn y beudy trwy oerni'r hirlwm, erbyn dechrau Ebrill, mi fyddai'r tamaid awyr fyddai i'w weld trwy'r drws o'r beudy dros ben y domen yn mynd yn llai ac yn llai a'r llwybr i basio rhwng y drws a'i godre yn mynd yn gulach ac yn gulach.

Roeddan nhw'n treulio'u dyddia a'u horia ola cyn yr enedigaeth yn y beudy, yn gwadu eu bod nhw'n feichiog o gwbwl.

Cerddodd yn ei ôl i'r beudy'n flin a thaflodd y bwced nes yr oedd yn drybowndian i erbyn un arall!

Roedd o'n mynd i neud troli i symud y weldar o gwmpas y lle, trwshio'r cafn dŵr yn y beudy, trwshio'r lein ddillad a choncritio'r cowt i'r Wraig, a phe cai amsar byddai hyd yn oed yn rhoi hoelan yn y lechan rydd uwchben drws y beudy!

Ennyd hamddenol a hyfryd yw honno yn y beudy pan ollyngir y buchod o'u haerwyon.

Beudy'r Gors.' Sylweddolodd 'rhen ferch faint ei chamgymeriad a cheisiodd adfeddiannu'r tir a gollwyd drwy roi ymosodiad ar William Huws, druan.

Roedd y rheiny wedi ca'l eu hanwybyddu'n ddiweddar gan fod Ifor wedi bod yn rhoi cymaint o sylw i'r fuwch yn y beudy.

Mi roeddwn i wrth fy modd pan oedd hi'n bwrw glaw, gan y byddai nhad wedyn yn gweithio yn y stabal, neu'r tŷ gwair, neu'r beudy.

'Doedd y cafn dŵr yn y beudy ddim yn gweithio.

Roedd rhyw fath o de i'w gael mewn pot jam Robinson; te â lliw calch arno tebyg i'r hyn y byddai fy nhad yn gwyngalchu'r beudy ag ef.

Cerddodd ar flaena ei welintons at ffenest y beudy.

''Dyn nhw wedi symud Pwllheli ne' rwbath?' ''Da ni wedi talu am gal mynd i weld - The First of the Few.' 'Do'n tad.' 'Nid i fynd â hwch Beudy'r Gors at bae.' 'Ifan Paraffîn dreifar sybmarîn.' 'Petha' ifanc 'ma wedi mynd yn gegog, Ifan Ifans,' sylwodd William Huws a ddioddefasai'r un o math enllib yn flaenorol.

Ond byth er hynny yr oedd wedi llwyddo i gadw cyffro'r ffair o'i chylch yn y beudy.

Cymrodd Ifor olwg ar y fuwch yn y beudy, estyn caib a rhaw a joint plastig o eigion rhyw focs tŵls, a neidio i'r Daihatsu i drwshio'r hollt yn y beipan.

Ond baglodd ar draws pwcad ddŵr y fuwch a adawsai Malcym yn union lle y gollyngodd hi y tu allan i'r beudy.

'Ma'f lechan 'na uwchben dfws beudy yn befig, Mr Huws,' pwysleisiodd Malcym.

Cerddodd Ifor ar flaena ei draed at ddrws y beudy a sbecian ar y fuwch.

Wedyn dynesu at y tū heibio i ddrws y beudy.

Roedd y fuwch yn y beudy yn grwn fel eliffant ac ar ben ei hamsar ers pythefnos ac roedd o wedi gweld mwy ar honno yn y pythefnos dwyth a naga welodd ar ei wraig 'rioed!