Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

biau

biau

Holiadau Lhwyd sy'n gosod y patrwm, ond Rowlands biau drylwyredd deallus yr atebion sy'n nodi enwau, ffiniau a phoblogaeth pum plwyf Llanidan, Llanedwen, Llanddaniel-fab, Llanfairpwll a Llandysilio, ynghyd a manylion am eu hanes, eu henebion (gyda darluniau ohonynt), a sylwadau ar ansawdd y tir, y cynnyrch, a'r gwrtaith a ddefnyddid, y ffynhonnau, yr afonydd, y dirwedd a'r mathau o gregin a geid ar lan y mor.

Ceri Davies, darllenydd yn Adran y Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe, biau'r geiriau a hynny mewn cyfrol am John Davies o Fallwyd yn y gyfres Llên y Llenor.

Fy nhad oedd biau'r busnes.

Mae'n rhaid ein bod wedi meddwl mai ni oedd biau'r hawlfraint.

Yna sylweddolodd mai ei hunanoldeb hi a barai iddi hi goleddu'r fath deimladau a dywedodd wrth ei Duw mewn gweddi fer, "Arglwydd, Ti sydd biau'r plant a'u cwrls.

Cyfrif pennau biau hi.

Mae'r cwmni sy' biau'r clwb mewn trafferthion ariannol a'r Superleague wedi bygwth tynnu'r drwydded i ddefnyddio enw'r 'Devils' oddi arnyn nhw.

Duw biau'r blaned, Ef yw'r Ymerawdwr.

Yn y straeon am Sir Gaernarfon yr un modd, y gwragedd biau trin a bwydo'r anifeiliaid: yr oedd y chwarel yn mynd â holl egni'r gwŷr - y chwarel a'r daith hir iddi ac ohoni.

Mae'r ddau'n ymladd byth a beunydd yn Ffrainc am fod y Brenin Edward III o Loegr yn mynnu mai fe biau tiroedd arbennig yn Normandi, Anjou ac Aquitaine yn Ffrainc.' 'A beth am y milwyr Ffrengig cyffredin?' 'Maen nhw'n meddwl bod Owain yn filwr gwych.

Ei blaid biau llawer iawn ohono.

'Ef yw ystor cerddorion', 'prydyddion a faeth' medd Dafydd y Coed amdano, 'ei noblau yn fau' medd drachefn am yr 'hael cerddwriaidd', a Dafydd biau'r cyfeiriad tra hysbys at y llawysgrifau a oedd yn ei feddiant: yr Elucidarium, 'Ystoryaeu Seint Greal' (yn ol pob tebyg) ac annales, sef cronicl Lladin neu Gymraeg, fe ellid barnu.